Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Agenda Cymru

Geiriau Dyfodol Disglair

Drwy ein gwerthoedd a’n hegwyddorion, a thrwy weithio gydag eraill, byddwn yn gweithio mewn ffyrdd sy’n sicrhau ein bod yn cefnogi’r gwaith o gyflawni nodau llesiant y genedl.

Y pum ffordd o weithio:

  • Atal: Deall yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd
  • Cydweithio: Gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy ar y cyd
  • Cynnwys: Cynnwys poblogaeth amrywiol yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw
  • Hirdymor: Golwg hirdymor fel nad ydym yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain
  • Integreiddio: Mabwysiadu dull integredig sy'n canolbwyntio ar y nodau llesiant pan fyddwn yn gosod amcanion llesiant

Saith nodau llesiant

Bydd ein gweledigaeth yn cefnogi'r saith nodau llesiant drwy gael Cymru sy'n:

  1. Lewyrchus. Cefnogi datblygiad pobl ifanc ac oedolion i feithrin y sgiliau i reoli eu gyrfaoedd eu hunain
  2. Iachach. Cynyddu'r siawns na fydd unigolyn yn dod yn NEET ac y bydd yn parhau i fod yn weithgar mewn cymdeithas
  3. Fwy cyfartal. Darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bob person ifanc ac oedolyn a'u cefnogi i oresgyn rhwystrau; codi dyheadau a herio stereoteipiau
  4. Gyfrifol ar lefel fyd-eang. Cynyddu ymwybyddiaeth o'r marchnadoedd llafur yng Nghymru ac yn fyd-eang, yn cynnwys unrhyw newidiadau, heriau a chyfleoedd yn y dyfodol o fewn addysg, yr economi a'r amgylchedd. Byddwn yn cysylltu pobl ag addysg a gwaith, a'r diwydiannau (er enghraifft technoleg werdd) sy'n gysylltiedig a'r rhain
  5. Gydnerthnedd. Datblygu sgiliau cwsmeriaid i'w helpu i feithrin cydnerthedd er mwyn ymdopi â'r heriau a ddaw
  6. Cynnwys cymunedau cydlynus. Hyrwyddo cyfleoedd i bobl leol i helpu leihau'r bylchau mewn sgiliau
  7. Ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynu. Darparu gwasanaeth dwyieithog sy’n ymateb i anghenion unigolion a phartneriaid ledled rhanbarthau Cymru. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr gan gynnwys sgiliau Cymraeg

Cyflawni agenda Cymru

Bydd cyflawni’r weledigaeth Dyfodol Disglair yn golygu y byddwn yn cryfhau ein cyfraniad tuag at gefnogi nodau llesiant ac economaidd Llywodraeth Cymru ac yn mynd i’r afael â nifer o heriau a blaenoriaethau allweddol. Rhain yw:

  • Addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO)
  • Digidol 2030
  • Cwricwlwm i Gymru
  • Cynllun cyflogadwyedd
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
  • Cymraeg 2050
  • Strategaeth Ddigidol i Gymru

Gweld yr adroddiad llawn a'r fersiwn hawdd i'w ddarllen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair - Ein Gweledigaeth Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair Ein Gweledigaeth - Hawdd i'w ddarllen Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..