Drwy ein gweledigaeth o greu dyfodol disglair i bobl Cymru, byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb ac yn darparu cefnogaeth well fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Neb yn cael ei adael ar ôl
Bydd ein gweledigaeth yn sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth well fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Byddwn yn:
- Gweithio gyda phartneriaid i nodi’r rhai sydd angen cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth gwell
- Parhau drwy Cymru'n Gweithio i gefnogi pobl yn y system gyfiawnder
- Cefnogi cyflwyno'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt wrth iddynt bontio o addysg i addysg bellach, gwaith neu hyfforddiant
- Parhau i gyflawni’r prosiect Sbardun, gan gefnogi pobl ifanc 11-19 oed y nodwyd eu bod mewn perygl o ddod yn NEET (nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant)
- Byddwn yn datblygu dull mwy cadarn o sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu cefnogi gan gynnig digidol â chymorth gan gynnwys ystod o sianeli a chynnwys priodol i gwsmeriaid
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bob cymuned yng Nghymru yn cynnwys pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME)
- Parhau i weithio gyda Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru (EYST) i ddarparu hyfforddiant i staff Gyrfa Cymru
Gweledigaeth ar gyfer cyfnod heriol
Rydym yn byw yn yr hyn y gellir ei ddisgrifio’n gyfnod cyfnewidiol, ansicr, cymhleth ac amwys. Mae ein gwasanaethau yn rhoi ymdeimlad o obaith, gwytnwch ac optimistiaeth i unigolion er mwyn creu bywoliaeth gynaliadwy, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig. Rydym wedi gweld angen cynyddol am gymorth gyrfaoedd sy’n cael ei ysgogi gan effaith Covid-19:
- Rhai sectorau yn ehangu tra bod eraill yn dirywio gydag amrwyiaeth rhanbarthol a lleol mewn swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd eraill
- Y rhai sy’n ennill y cyflogau isaf yng Nghymru ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan y pandemig na’r rhai ar y cyflogau uchaf
- Cyfraddau uwch o unigolion nad ydynt mewn addysg, gwaith a hyfforddiant (NEET)
Rydym wedi addasu ein gwasanaethau yn unol â hynny er mwyn darparu mwy o gefnogaeth ar-lein i bobl ifanc, rhieni, athrawon ac oedolion. Mae Gyrfa Cymru yn barod i ymateb i'r her o gefnogi unigolion gyda'u trawsnewidiadau, eu dewisiadau a'u penderfyniadau gyrfa.
Gweledigaeth sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth a data
Seilwyd y weledigaeth hon ar ddirnadaeth a barn mwy na 3,500 o bobl ifanc, rhieni/gofalwyr, gweithwyr Gyrfa Cymru, busnesau, athrawon, darparwyr hyfforddiant, darparwyr ôl-16 ac ôl-18 a llawer mwy.
O'r dadansoddiad hwn, daeth tair thema allweddol i'r amlwg:
- Mwy o hyder mewn rôl allweddol technoleg i’n cefnogi a’n galluogi i gyflwyno ein gwasanaethau, gan ddarparu profiad cydgysylltiedig, ar amryfal sianeli i gwsmeriaid
- Pwysigrwydd cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth ar gyfer rheoli’r broses o wneud penderfyniadau gyrfa
- Sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl a chynnig gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoeddd ac anogaeth personol drwy wasanaethau digidol ac annigidol