Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gwneud gwahaniaeth - ein nodau a chanlyniadau strategol

Geiriau Dyfodol Disglair

Rydym mewn sefyllfa unigryw i gefnogi pobl Cymru drwy ddarparu gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol o’r radd flaenaf sy’n arwain y sector. Byddwn yn sicrhau, wrth i ni greu dyfodol disglair i unigolion yng Nghymru, nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Byddwn yn gwneud gwahaniaeth i:

  • Bobl ifanc
  • Oedolion
  • Fusnesau
  • Ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion
  • Lywodraeth Cymru

Ein pedwar nod

Bydd ein nodau strategol yn ein galluogi i gyflawni ein gweledigaeth o greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc ac oedolion.

Nod un

Ein nod cyntaf yw i ddarparu gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru.

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:

  • Cefnogi pobl ifanc ac oedolion i bontio’n gadarnhaol i addysg, gwaith a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau a deall y sgiliau sy’n ofynnol i lwyddo yn y farchnad lafur a chyfrannu at economi Cymru yn y dyfodol
  • Cefnogi cwsmeriaid y mae angen lefelau uwch o gefnogaeth arnynt i bontio’n gadarnhaol i ddarpariaeth briodol
  • Codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o addysg, gwaith a hyfforddiant a chyfleoedd eraill i wneud cynnydd  
  • Gwella mynediad at fanteision cymorth ar ffurf cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth drwy gydweithredu ac ymgysylltu â phartneriaid a dylanwadwyr

Nod dau

Ein ail nod yw i ddatblygu ein gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion o ran sgiliau a’r cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion.

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:

  • Hysbysu ac ysgogi pobl ifanc ynglŷn â’r byd gwaith drwy ymgysylltu â chyflogwyr a modelau rôl

  • Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r sgiliau sydd eu hangen ar sectorau sy’n flaenoriaeth economaidd a sut maen nhw’n cysylltu â’r cwricwlwm

Nod tri

Ein trydydd nod yw i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni’r pedwar diben.

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:

  • Darparu gwasanaeth dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder gweithwyr proffesiynol yn y byd addysg i ddarparu gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith (GPhCG) effeithiol
  • Dylunio a chyflwyno gwobr GPhCG newydd am ragoriaeth yn y cwricwlwm
  • Cefnogi’n rhagweithiol y gwaith o weithredu canllawiau statudol GPhCG.

Nod pedwar

Ein pedwerydd nod yw i ddatblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol ac ystwyth ar gyfer Gyrfa Cymru a’i alluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n perfformio’n dda ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:

  • Datblygu gwasanaethau wedi’u personoli, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, wedi’u gwella gan dechnoleg, sy’n ymatebol i anghenion defnyddwyr ac yn hygyrch i bawb
  • Creu gweithlu Gyrfa Cymru medrus, ymgysylltiedig, amrywiol ac ystwyth sy’n gynhwysol ac yn cefnogi llesiant gweithwyr
  • Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i drawsnewid ein ffyrdd o weithio a datblygu sgiliau a galluoedd digidol holl weithwyr Gyrfa Cymru
  • Seilio ein datblygiadau o ran polisi a gwasanaethau ar ein dealltwriaeth o gwsmeriaid, gwybodaeth fusnes, data a dadansoddeg

Ein canlyniadau strategol

Er mwyn cyflawni ein pedwar nod, byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein canlyniadau strategol:

  • Cefnogi pobl ifanc ac oedolion i bontio’n gadarnhaol i addysg, gwaith a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau a deall y sgiliau sy’n ofynnol i lwyddo yn y farchnad lafur a chyfrannu at economi Cymru yn y dyfodol
  • Galluogi cwsmeriaid sydd wedi elwa o lefelau uwch o gefnogaeth i bontio’n gadarnhaol i ddarpariaeth briodol
  • Codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o addysg, gwaith a hyfforddiant a chyfleoedd eraill i wneud cynnydd
  • Gwella mynediad at fanteision cymorth ar ffurf cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth drwy gydweithredu ac ymgysylltu â phartneriaid a dylanwadwyr
  • Gwella capasiti ysgolion ac Arweinwyr Gyrfaoedd i ddarparu GPhCG o fewn y Cwricwlwm i Gymru
  • Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r sgiliau sydd eu hangen ar sectorau sy’n flaenoriaeth economaidd a sut maen nhw’n cysylltu â’r cwricwlwm
  • Hysbysu ac ysgogi pobl ifanc ynglŷn â’r byd gwaith drwy ymgysylltu â chyflogwyr a modelau rôl
  • Darparu gwasanaethau wedi’u personoli, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, wedi’u gwella gan dechnoleg, sy’n ymatebol i anghenion defnyddwyr ac yn hygyrch i bawb
  • Creu gweithlu Gyrfa Cymru medrus, ymgysylltiol, amrywiol ac ystwyth iawn
  • Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i drawsnewid ein ffyrdd o weithio a datblygu sgiliau a galluoedd digidol holl weithwyr Gyrfa Cymru
  • Seilio ein datblygiadau o ran strategaeth, polisi a gwasanaeth ar ein dealltwriaeth o gwsmeriaid, gwybodaeth fusnes, data a dadansoddeg

Gweld yr adroddiad llawn a'r fersiwn hawdd i'w ddarllen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair - Ein Gweledigaeth Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair Ein Gweledigaeth - Hawdd i'w ddarllen Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..