Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Model cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth i bobl o bob oed

Geiriau Dyfodol Disglair

O’r dewisiadau dysgu y mae pobl ifanc yn eu gwneud yn yr ysgol i ailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd yn ddiweddarach mewn bywyd, rydym yma ar gyfer yr adegau pwysig.

Sut byddwn yn cefnogi ein cwsmeriaid

Cynradd
Cyfnod Allweddol 2

Cyflwyniad i yrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith (GPhCG) a gwasanaethau Gyrfa Cymru.

Y gefnogaeth rydym yn ei gynnig:

  • Dysgwyr: cyflwyniad i GPhCG
  • Rhieni: cyflwyniad i Gyrfa Cymru, meithrin eu dealltwriaeth o wybodaeth am y farchnad lafur a sut i gefnogi eu plant
  • Ysgolion: dysgu proffesiynol cyfunol i athrawon ac adnoddau ar gael ar Hwb
Show more
Uwchradd
(Blynyddoedd 7-9)

Ehangu gorwelion, codi dyheadau.

Y gefnogaeth rydym yn ei gynnig:

  • Dysgwyr: gweminarau, wythnosau GPhCG rhithwir, cysylltu â chyflogwyr, gwaith grŵp, cymorth gydag opsiynau a chyflwyniad i gwisiau gyrfa
  • Rhieni: ymgysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, grwpiau ffocws, gwahoddiadau i ddigwyddiadau GPhCG, gwella dealltwriaeth o wybodaeth a thueddiadau’r farchnad lafur
  • Ysgolion: dysgu proffesiynol, gwobr GPhCG, cymorth gyda dewis opsiynau ac adolygiadau pontio ADY
Show more
Uwchradd
(Blynyddoedd 10 - 11)

Gwneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol.

Y gefnogaeth rydym yn ei gynnig:

  • Dysgwyr: cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth, asesiad Gwirio Gyrfa, cefnogaeth ddwys i grwpiau wedi'u targedu gan gynnwys pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY),  gweithgareddau cysylltu â chyflogwyr fel wythnosau rhithwir GPhCG, gweminarau, ymweliadau â safleoedd cyflogwyr a gwyliau gyrfaoedd a chefnogaeth i’r rhai sy’n ymuno â’r farchnad lafur
  • Rhieni: ymgysylltu â rhieni gan gynnwys mynychu digwyddiadau ysgol, gwahoddiadau i ddigwyddiadau gyrfaoedd ac ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a threialu prosiectau cymunedol er mwyn ymgysylltu'n rhagweithiol â rhieni
  • Ysgolion: cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol, gwobr GPhCG, cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth, cyfnodau pontio a hynt disgyblion
Show more
16-18
(Cefnogi rhai sy'n 16-18 oed)

Cefnogi trefniadau pontio effeithiol i addysg a gwaith.

Y gefnogaeth rydym yn ei gynnig:

  • Adnabod ac asesu’r gefnogaeth sydd ei hangen yn gynnar
  • Cymorth parhaus ar ffurf cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth i grwpiau wedi’u targedu gan gynnwys pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Cyfeirio at lwybrau gyrfa priodol fel cyflogaeth, prentisiaeth, gwirfoddoli a chyfleoedd hyfforddi
  • Cefnogaeth i wella sgiliau cyflogadwyedd fel mynediad i’r Academi Sgiliau i Lwyddo
  • Bwletinau swyddi gwag a gwahoddiadau i ffeiriau swyddi/hyfforddiant
  • Dyrannu cynghorwyr arbenigol i bob cwsmer haen 3
  • Ysgolion/Cholegau Addysg Bellach (AB): Ymgyrchoedd wedi’u targedu ar gyfer y rhai sydd angen ein cefnogaeth gan gynnwys presenoldeb ffisegol mewn adeiladau AB ar gyfnodau allweddol yn ystod y flwyddyn; cynghorydd gyrfa penodedig ar gyfer pob chweched dosbarth a champws AB
Show more
Oedolion
(18+)

18+ cefnogi trefniadau pontio effeithiol drwy nodi rhwystrau a thrwy atgyfeiriadau priodol.

Y gefnogaeth rydym yn ei gynnig:

  • Mynediad at gymorth Cymru’n Gweithio yn bersonol, mewn lleoliad a fydd yn addas i anghenion yr unigolyn, neu’n ddigidol
  • Cyfeirio pobl at hyfforddiant, cyflogaeth a chymorth ychwanegol, a chymorth i wneud ceisiadau am swydd
  • Cyngor ar ffynonellau cyllid fel y bo’n briodol e.e. ReAct+, Mynediad, Cyfrif Dysgu Personol (CDP)
  • Ymgyrchoedd marchnata rheolaidd wedi’u hanelu at gwsmeriaid â blaenoriaeth
Show more

Gweld yr adroddiad llawn a'r fersiwn hawdd i'w ddarllen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair - Ein Gweledigaeth Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair Ein Gweledigaeth - Hawdd i'w ddarllen Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..