Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Ein gwobrau

Gweld rhai o'r gwobrau mae Gyrfa Cymru wedi'u hennill.

Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig.

Cyflogwr anabledd hyderus

Mae'n bleser gennym gadarnhau bod CCDG wedi cael ei gwobrwyo â'r wobr Cyflogwr Anabledd Hyderus ar gyfer y pump ymrwymiad canlynol;

  1. Cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer swydd a'u hystyried yn ôl eu galluoedd
  2. Sicrhau bod mecanwaith i drafod gyda chyflogeion anabl, ar unrhyw adeg, ond o leiaf unwaith y flwyddyn, yr hyn y gellid ei wneud i sicrhau bod modd iddynt ddatblygu a defnyddio eu galluoedd
  3. Gwneud pob ymdrech pan fo cyflogeion yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros mewn cyflogaeth
  4. Gweithredu i sicrhau bod cyflogeion i gyd yn datblygu lefel briodol o ymwybyddiaeth am anabledd sydd ei hangen i wneud yr ymrwymiadau hyn i'r gwaith
  5. Adolygu'r pump ymrwymiad bob blwyddyn a'r hyn a gyflawnwyd, er mwyn cynllunio ffyrdd i ragori arnynt a rhoi gwybod i gyflogeion a'r Ganolfan Byd Gwaith am gynnydd a chynlluniau i'r dyfodol

Cyflogwr cyflog byw

Mae'n bleser gan Gyrfa Cymru i gyhoeddi ein bod wedi ein hachredu fel cyflogwr Cyflog Byw. Mae'r Cyflog Byw go iawn yn gyfradd fesul awr a osodir yn annibynnol ac a ddiweddarir yn flynyddol. Cyfrifir y Cyflog Byw yn unol â gwir gostau byw.

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw, “Rydym yn croesawu Gyrfa Cymru i'r mudiad Cyflog Byw fel cyflogwr achrededig."

Dywedodd Denise Currell, Pennaeth Datblygu Pobl Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG):

Rwy'n falch bod Gyrfa Cymru bellach yn Gyflogwr Cyflog Byw. Mae ein staff, o'n Cynghorwyr Gyrfa mewn ysgolion ledled Cymru i'n gweithwyr yn ein prif swyddfa, wrth wraidd yr hyn a wnawn. Fel eiriolwyr cyflogaeth deg, mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw yn gam naturiol yn y cyfeiriad cywir i ni a bydd yn ein helpu i wella cymhelliant staff yn ogystal â chadw a denu gweithlu o ansawdd."

Gwobr Lefel 4 y Ddraig Werdd

Mae'r wobr hon yn dangos ein hymrwymiad i reolaeth amgylcheddol effeithiol. Dewch i wybod mwy am sut yr ydym yn rheoli ein heffaith amgylcheddol ar ein tudalen Amgylchedd.

UNISON Siarter #RespectYourYouth i weithwyr ifanc yng Nghymru

Mae Gyrfa Cymru wedi arwyddo Siarter RespectYourYouth, sydd wedi'i ddatblygu gan yr undeb gwasanaethau cyhoeddus, UNISON Cymru Wales. Mae siarter RespectYourYouth UNISON yn gofyn am bum peth:

  1. gweithredu Cyflog Byw Go Iawn, waeth be fo’r oedran
  2. Prentisiaethau o ansawdd
  3. Cyflogaeth deg
  4. Cydraddoldeb yn y gweithle
  5. Mwy o gyfleoedd hyfforddiant

Dewch i wybod mwy am Young Workers Charter.(dolen Saesneg yn unig)

Addewid Amser i Newid

Mae Gyrfa Cymru wedi arwyddo'r addewid Amser i Newid. Mae hyn yn ymrwymo'r Cwmni i leihau stigma iechyd meddwl. Mae hefyd yn agor sgyrsiau am iechyd meddwl.

Rydyn ni’n gyflogwr sydd am fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu ym maes iechyd meddwl.

Mae ein hymrwymiad wedi cynnwys hyfforddi rheolwyr a gweithwyr mewn ymwybyddiaeth iechyd meddwl, a chael siaradwyr rheolaidd i siarad am iechyd meddwl mewn digwyddiadau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn hyfforddi ein rhwydwaith o anogwyr lles i siarad am iechyd meddwl.

Gall staff Gyrfa Cymru gael mynediad at wasanaethau cwnsela a llawer o adnoddau i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Am fwy o wybodaeth: Amser i Newid Cymru

Gwobr Arian Iechyd Cyhoeddus Cymru am Gefnogi Iechyd a Lles

Yn 2020, llwyddodd Gyrfa Cymru i gyflawni Gwobr Arian Safon Iechyd Gorfforaethol Cymru Iach ar Waith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd hyn yn cynnwys adolygu a gwella'r holl bolisïau sy'n effeithio ar iechyd a lles. Fe wnaethon ni hefyd greu rhwydwaith o anogwyr lles a gwella ein cyfathrebu.

Rydyn ni wedi bod yn adolygu ein prosesau iechyd a diogelwch ac yn sicrhau bod staff a'u rheolwyr yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd.

Rydyn ni’n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a thrafodaethau agored am iechyd a lles.

Rydyn ni’n aml yn rhannu gwybodaeth sy'n cefnogi iechyd a lles. Mae hyn yn cynnwys gwneud mwy o weithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod gwaith ac annog pobl i wneud dewisiadau iach o ran ffordd o fyw. Mae gennym dîm o anogwyr lles yn gweithio ar draws y sefydliad.

Daeth y gwobrau i ben yn 2023, ond mae Gyrfa Cymru wedi parhau â'r gwaith hwn hyd at y safonau aur.

Am fwy o wybodaeth: Dirwyn Cynllun Gwobrwyo Cymru Iach ar Waith i Ben - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Gwobrau Lles Prydain Fawr – Y Gefnogaeth Orau i Weithwyr o Bell 2022

Enillodd Gyrfa Cymru wobr ledled y DU am y Gefnogaeth Orau i Weithwyr o Bell yn 2022. Roedd y wobr hon yn cydnabod y gwaith a wnaethom i gefnogi ein gweithwyr o bell drwy'r pandemig a thu hwnt. Roedd hyn yn cynnwys ystod fywiog o weithgareddau lles ar Teams a heriau hwyliog ar ein platfform cyfryngau cymdeithasol mewnol.

Gwnaethon ni hefyd rai newidiadau i bolisïau, gan gynnwys gweithio mwy ystwyth, cefnogaeth drwy ein rheolwyr llinell a’n hanogwyr lles.

Bay Citizens 'Community Jobs Compact'

Mae Gyrfa Cymru wedi llofnodi'r 'Community Jobs Compact' sy'n golygu y byddwn yn:

  • Talu Cyflog Byw
  • Mynd i'r afael â thangynrychiolaeth yng ngweithle y gymuned leol
  • Darparu diogelwch a datblygiad swydd

Ewch i wefan Citizens Cymru Wales i ddarganfod mwy.