Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm i ddarparu'r cymorth gweinyddol er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni cylch gwaith a bennwyd gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd dwyieithog, annibynnol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.
Cyflog
£19,740 y flwyddyn - £20,366 y flwyddyn
Cyflog Cychwynnol: £19,740 y flwyddyn
Cytundeb
Parhaol
Oriau
Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Lleoliad
Gogledd Cymru – Swyddfa i’w bennu wrth benodi
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 9am 23/05/22
Gofynion / Cymwysterau
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i'n tîm Gwasanaethau Rhanddeiliaid. Fel rhan o’r cynllun hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost a wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol
- Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
- Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
- Sgiliau TGCh
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser
- Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Gwybodaeth arall
Ymysg y buddion deniadol mae oriau hyblyg, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn gysylltiedig ag iechyd.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Sut i ymgeisio
Cwblhewch y ffurflen gais, ffurflen Asesiad Iaith Gymraeg (os ydych yn siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) a ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfonwch at: ad@gyrfacymru.llyw.cymru.
Oherwydd y canllawiau pendant sydd yn eu lle oherwydd COVID-19 mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.
Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am wybodaeth ar sut y mae eich data’n cael ei storio a’i ddefnyddio ewch i’n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.