Mae’r swydd wag hon bellach wedi cau. Diolch am eich diddordeb. Ewch i Gweithio i ni i chwilio am swyddi gwag yn y dyfodol.
Mae hon yn gyfle cyffrous i weithio fel Mentor STEM amser llawn yng Ngwynedd.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni’r cylch gwaith a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oedran yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw y dylai pob person ifanc allu symud yn rhwydd ac yn llwyddiannus i mewn i waith ac y dylai oedolion gael eu hysbrydoli i fod yn gyfrifol am eu gyrfaoedd.
A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr STEM er mwyn helpu i ganfod sut y gallant ymgysylltu â’r byd addysg a chodi ymwybyddiaeth dysgwyr o natur newidiol y byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael o fewn y maes STEM?
Dyma gyfle cyffrous i weithio ar brosiect newydd ar draws Gogledd-orllewin Cymru (Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn).
Mae’r prosiect wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion ar draws y Rhanbarth ers 2019. Nod y prosiect yw ychwanegu gwerth at y cwricwlwm drwy gydlynu’r broses o ddarpariaeth STEM allgyrsiol i bobl ifanc 11-19 oed, er mwyn iddynt gael mynediad at y pynciau a’u hysbrydoli i ddilyn gyrfa ym maes STEM.
Cyflog
£23,318 - £24,910 y flwyddyn (Cyflog cychwynnol £23,318 y flwyddyn)
Lleoliad
Bangor
Oriau gwaith
Llawn amser 37 awr yr wythnos
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 9am 25/01/2021.
Gofynion / Cymwysterau
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn creu, yn sefydlu ac yn cynnal cysylltiadau cadarnhaol â rhwydwaith o gyflogwyr a’u cyrff proffesiynol i gefnogi’r broses o gyflwyno gwasanaethau cysylltu â chyflogwyr i ysgolion ar draws Gogledd-orllewin Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio gyda llwyth achosion cyfranogwyr Blwyddyn 7-13 ym mhob ysgol i godi eu hymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sy’n codi o fewn y maes STEM.
Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'n ofynnol i chi deithio o fewn Gogledd Orllewin Cymru ac yn achlysurol ymhellach ar draws Cymru a’r DU er mwyn cyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drefniadau trafnidiaeth digonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu.
Gwybodaeth arall
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Arian yr UE: Buddsoddi yng Nghymru - Ariennir y swyddi hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Ceir arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect STEM y Gogledd.
Sut i ymgeisio
Gorffennwch y ffurflen gais, ffurflen gais Cymraeg a ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfonwch at: ad@gyrfacymru.llyw.cymru.
Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiad mewn canolfan asesu gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd ymlaen i gam cyfweld terfynol.
Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.