Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Rheolydd Datblygu Mewnwelediad Busnes

Mae’r swydd wag hon bellach wedi cau. Diolch am eich diddordeb. Ewch i Gweithio i ni i chwilio am swyddi gwag yn y dyfodol.

Rydym am benodi Rheolydd Datblygu Mewnwelediad Busnes.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau arweiniad gyrfaoedd ac hyfforddi hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bob oed yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.

Amlinelliad o'r Swydd:

  • Arwain tîm data a mewnwelediad y Cwmni, gan gynhyrchu strategaeth data ac ymwybyddiaeth sy'n gyrru gweithgareddau gweithredol a strategol i ategu penderfyniadau rheoli effeithiol, datblygu polisi, a monitro perfformiad effeithiol, yn ogystal â darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio strategol
  • Trawsnewid a datblygu modelau busnes, gwasanaethau a dulliau gweithredu cyfredol i yrru effeithlonrwydd ac ansawdd data, yn ogystal â sicrhau bod yr holl systemau a phrosesau yn darparu profiadau cwsmeriaid rhagorol ac yn unol ag amcanion strategol y Cwmni

Cyflog

Gradd 7 – £44,567 - £47,995 (cyflog cychwynnol fydd £44,567)

Oriau gwaith

Llawn Amser 37 awr yr wythnos

Lleoliad

I'w gadarnhau ar apwyntiad

Dyddiau Cau

9am ar 06 Ebrill 2023

Gofynion / Cymwysterau

Rhaid i ymgeiswyr fod â gradd neu gymhwyster cyfwerth a rhaid iddynt fod wedi camu ymlaen i lefel reoli mewn rôl sydd wedi ymwneud a chynllunio, rheoli a chyflawni prosiectau llwyddiannus ledled cwmni, yn ogystal â rhywfaint o brofiad o reoli pobl.

Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad technegol profedig o ddatblygu a bod yn atebol am brosiectau sy'n ymwneud â data a dealltwriaeth gan ddefnyddio technoleg Power BI a Data Warehouse yn ogystal â meddu ar sgiliau proses busnes a rheoli prosiect amlwg a chymhwyster Rheoli Prosiect.

Gwybodaeth arall

Ceir buddiannau atyniadol gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, gweithio hybrid, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.

Rydym fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn gyffredinol yn hapusach, ac wrth gwrs – dyna'r peth iawn i'w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, yn galluogi gwelliannau parhaus yn yr hyn a wnawn ar gyfer pobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ar bob gradd swydd, yn cynrychioli'r dinasyddion yr ydym yn eu gwasanaethu.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw a statws trawsrywiol, hil neu ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy'n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau wrth recriwtio ac yn cael ei drosglwyddo drwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’n gwaith – yn cefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.


Sut i ymgeisio

Cwblhewch y ffurflen gais, ffurflen Asesiad Iaith Gymraeg (os ydych yn siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) a ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfonwch at: ad@gyrfacymru.llyw.cymru.

Mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.

Am wybodaeth ar sut y mae eich data’n cael ei storio a’i ddefnyddio ewch i’n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.

Dogfennau