Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hysbysiad preifatrwydd cofrestru digwyddiad MS Forms

Gyrfa Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a dderbyniwn gennych pan fyddwch yn llenwi ffurflen cofrestru digwyddiad. Bydd y data’n cael ei brosesu yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd eich data personol yn cael ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Cymerwch eiliad i ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.

Sut rydym yn cael yr wybodaeth bersonol a pham y mae gennym ni

Mae'r ffurflen hon yn casglu data ar gofrestriadau digwyddiadau. Wrth wneud cais i gymryd rhan mewn digwyddiad gofynnir i chi ddarparu data personol i sicrhau y gallwn gysylltu â chi a rhoi gwybod i chi am y digwyddiadau yr ydych yn eu mynychu. Rydym yn prosesu eich data ar sail cydsyniad (gallwch ddileu eich cydsyniad ar unrhyw adeg). Wrth lenwi'r ffurflen digwyddiadau bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyrfa Cymru a Microsoft. Byddwn yn storio eich ymatebion yn ddiogel ar ein systemau cronfa ddata mewnol. Byddwn yn defnyddio'r data hwn i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu digwyddiad.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon sy’n ymwneud â’r digwyddiad.

Eich Hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • Fynediad i'r Data Personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch
  • Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • Yr hawl (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael ei ‘ddileu’
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Os ydych am gysylltu â ni i drafod cwyn neu bryder sydd gennych am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os hoffech wneud cais i ddileu eich data, gallwch anfon e-bost at ein swyddog diogelu data gyda’ch ceisiadau.

Os oes gennych bryderon neu gŵyn am y ffordd y mae Gyrfa Cymru yn trin eich data o dan GDPR, y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer Contact Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth cysylltwch â:

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data
Uned 4 Tŷ Churchill
14 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: personal.data@careerswales.gov.wales

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan Gyrfa Cymru. Gall yr wybodaeth a roddwch i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.