Cyflwyniad
Mae Gyrfa Cymru yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru i greu dyfodol mwy disglair trwy sicrhau mynediad at gymorth gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel sy'n cael effaith gadarnhaol ar unigolion, addysg, canlyniadau economaidd a llesiant. Rydym yn sicrhau bod unigolion yn cael eu paratoi i wneud dewisiadau gwybodus, datblygu'r sgiliau cywir a symud i gyflogaeth deg a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion y farchnad lafur.
Mae technoleg yn cael ei hamlygu fel rhan allweddol o Nod Pedwar yng ngweledigaeth Dyfodol Disglair Gyrfa Cymru i ddatblygu gwasanaethau wedi'u personoli, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer sy'n ymatebol i anghenion defnyddwyr ac yn hygyrch i bawb. Mae Gyrfa Cymru yn bwriadu gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i drawsnewid ein ffyrdd o weithio a datblygu sgiliau a galluoedd digidol holl weithwyr Gyrfa Cymru. Mae'r ddogfen hon yn esbonio sut rydym yn defnyddio a diogelu eich data personol wrth ddefnyddio’r cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial a ddatblygwn.
Rheolydd Data
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd, sy'n masnachu fel Gyrfa Cymru, yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a broseswn. Rydym wedi'n cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, rhif cofrestru: Z276256.
Pwrpas
Yn ôl Canllawiau Llywodraeth y DU “Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn cyfeirio at systemau a thechnolegau sy'n cyflawni tasgau sydd fel arfer angen deallusrwydd dynol, fel dysgu, rhesymu, datrys problemau, canfyddiad, neu wneud penderfyniadau. Mae'r systemau hyn yn defnyddio algorithmau i ddata i wneud rhagfynegiadau, argymhellion, neu benderfyniadau, a gallant weithredu gyda gwahanol raddau o ymreolaeth.” Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn diffinio systemau Deallusrwydd Artiffisial ymhellach fel “technolegau sy’n seiliedig ar algorithmau sy’n datrys tasgau cymhleth drwy gyflawni swyddogaethau a oedd gynt yn gofyn am feddwl dynol”.
Wrth ddatblygu cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial, byddwn yn cadw at yr egwyddorion canlynol:
- Moesegol, dibynadwy ac yn cyd-fynd â gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru
- Cynhwysol, hygyrch a buddiol i bob rhan o gymdeithas, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed ac o dan anfantais
- Arloesol, cydweithredol a chefnogol i'r ecosystem ymchwil a datblygu yng Nghymru
- Tryloyw, atebol ac yn ddarostyngedig i lywodraethu a goruchwyliaeth briodol
- Bydd ein holl systemau Deallusrwydd Artiffisial yn cael eu hyfforddi, eu profi a'u defnyddio yn seiliedig ar ddata dibynadwy – bydd ansawdd data, addasrwydd, diogelwch, preifatrwydd a chydymffurfiaeth yn cael eu sicrhau
- Ni fyddwn yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd; bydd gan ein holl gynhyrchion lefel o oruchwyliaeth neu adolygiad dynol ar waith
- Byddwn yn hysbysu unigolion yn glir pan fyddant yn rhyngweithio â system Deallusrwydd Artiffisial
- Pan fydd cynnwys wedi’i gynhyrchu neu wedi'i drin gan Ddeallusrwydd Artiffisial, byddwn yn sicrhau bod hynny wedi’i nodi’n glir
- Byddwn yn dylunio ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial i ystyried hawliau cwsmer i gael mynediad at ei ddata
- Byddwn yn arddangos mesurau lliniaru rhesymol a seiliedig ar risg yn hytrach na pherffeithrwydd technolegol yn ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial
- Byddwn yn cymryd camau i fonitro ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial am gywirdeb, tegwch a chamddefnydd posibl
- Er na allwn ddileu rhagfarn yn gyfan gwbl o fewn ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial, byddwn yn ei nodi, ei monitro a’i lliniaru, ac yn gwneud addasiadau priodol, trwy gydol oes ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial
Rydym yn gweithredu cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial i wella effeithlonrwydd, ansawdd a chyflymder ein prosesau busnes. Mae hyn yn cynnwys creu sgwrsfotiaid Deallusrwydd Artiffisial, sef systemau meddalwedd sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial sy'n cyfathrebu â defnyddwyr mewn iaith naturiol, yn dehongli eu mewnbynnau ac yn cynhyrchu ymatebion awtomataidd, yn aml i ddarparu gwybodaeth, cymorth neu gyfarwyddyd. Ni fydd ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial yn cynnwys cynhyrchu rhagfynegiadau, sgoriau, proffiliau risg na chasgliadau ymddygiadol.
Cydnabyddir mai casgliadau neu debygolrwydd yw allbynnau Deallusrwydd Artiffisial, yn hytrach na chofnodion ffeithiol. Felly, o ran cywiro, mae terfynau ymarferol na ellir eu cywiro bob amser yn yr un modd â data ffeithiol. Felly, bydd y canlyniadau a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial yn destun lefel o oruchwyliaeth neu adolygiad dynol gan ein haelodau staff.
Mae dileu data yn gymhleth mewn cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial, yn enwedig lle defnyddir data personol i hyfforddi neu ddylanwadu ar fodel. Felly, nid ydym yn gallu dileu neu ailhyfforddi ein model cyfan os byddai hyn yn anghymesur neu'n dechnegol anymarferol.
| Teitl | Pwrpas | Setiau data |
|---|---|---|
| "Cari" - Bot brysbennu ar gyfer dysgwyr Ôl-16 | Galluogi dysgwyr ôl-16 i nodi eu hanghenion cymorth a'u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar ein gwefan, neu nodi lle gallai canllawiau fod yn ddefnyddiol ac felly eu cyfeirio at ein ap archebu |
|
| Prosiect nodiadau cyn cyfarwyddyd | Crynodeb o'r rhyngweithiadau hyd yma â chleient, er mwyn arbed Cynghorydd neu Anogwr Cyflogadwyedd rhag gorfod edrych trwy eu cofnod cyflawn yn ein CRM. Mae'r rhain yn cael eu hadolygu gan y Cynghorydd Gyrfaoedd neu'r Anogwr Cyflogadwyedd |
|
| Prosiect nodiadau ar ôl cyfarwyddyd | Crynhoi trawsgrifiadau o gyfweliadau cyfarwyddyd i gynhyrchu nodiadau ar gyfer ein CRM (ac, fel deilliant, negeseuon e-bost cryno a chynlluniau gweithredu ar gyfer cwsmeriaid). Mae'r rhain yn cael eu hadolygu gan y Cynghorydd Gyrfaoedd neu'r Anogwr Cyflogadwyedd |
|
| Prosiect Teilwra CV | Teilwra CVs generig cwsmeriaid i gyd-fynd â disgrifiad swydd penodol (ac, fel deilliant, llythyrau eglurhaol, atebion cyfweliad enghreifftiol a chyfleoedd awgrymedig i lenwi bylchau sgiliau a phrofiad) |
|
| Canolfan Gyswllt Microsoft Dynamics 365 | Nodweddion Deallusrwydd Artiffisial o fewn y ganolfan gyswllt newydd:
|
|
1. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol
Dyma ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol:
- Tasg Gyhoeddus, Erthygl 6 (e) – mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd
- Rydym yn dibynnu ar sail gyfreithlon ychwanegol i brosesu eich Categorïau Arbennig o Ddata Personol. Y sail gyfreithlon yw "Rhesymau o fuddiant cyhoeddus sylweddol (gyda’r sail yn y gyfraith)" sy'n bodloni'r amod yn Atodlen 1, Rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
- (6) Dibenion statudol etc a dibenion y llywodraeth
2. O ble a chan bwy rydym yn cael y data personol
Ar gyfer ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial, rydym yn casglu'r data yn uniongyrchol gan ein cwsmeriaid.
3. Y categorïau o ddata personol rydym yn ei brosesu
Mae'r data personol rydym yn ei brosesu yn cynnwys yr isod, ond nid dyma’r rhestr lawn:
- Enw
- Manylion cyswllt
- Unrhyw fanylion a fewnbynnir gan gwsmeriaid i gynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial ar ein gwefan neu ddata personol a gesglir yn ystod trafodaethau â’n haelodau staff
4. Gyda phwy rydym yn rhannu data personol
Ni fyddwn yn rhannu eich data o gynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial â sefydliadau eraill:
- Nid ydym yn rhannu data personol â'n cyflenwyr, ac ni fyddwn yn creu platfformau Deallusrwydd Artiffisial yn y cwmwl
- Byddwn yn defnyddio ChatGPT ar ffurf Microsoft Copilot ac ni fydd ein datblygiadau Deallusrwydd Artiffisial yn cynnwys elfen ddysgu
- Mae ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial yn cefnogi platfform cwmwl Microsoft Azure a'i gyfres o gynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial. Ni fydd unrhyw ddata yn gadael ein tenantiaeth Microsoft ac ni all Microsoft gael mynediad at y data sy'n cael ei brosesu gan ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial, gan sicrhau bod eich data'n ddiogel ac mai dim ond Gyrfa Cymru a fydd yn gallu cael mynediad ato
5. Sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi neu wella ein cynhyrchion Deallusrwydd Artiffisial
Nid yw data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant Deallusrwydd Artiffisial.
6. Sut rydym yn cadw eich data personol yn ddiogel?
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, dim ond gweithwyr sydd ag angen busnes i wybod fydd yn cael mynediad at eich data personol. Dim ond yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi y byddant yn prosesu eich data personol, ac maen nhw’n ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw achosion o dorri data personol a amheuir a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o unrhyw achos o dorri lle mae'n gyfreithiol ofynnol i ni wneud hynny.
7. Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a allwn gyflawni'r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol cymwys. Mae manylion am gyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau ar eich data personol ar gael yn ein polisi cadw y gallwch ofyn amdano trwy gysylltu â'n tîm preifatrwydd data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod yn yr adran rhagor o wybodaeth.
8. Hawliau unigol
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu trwy unrhyw waith ymchwil a gynhelir trwy'r Rhaglen Ymchwil Gweithwyr. Yn benodol, mae gennych yr hawl:
- I gael copi o'ch data eich hun
- I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
- I ofyn i’ch data gael ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau)
- I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.
9. Rhagor o wybodaeth
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Gyrfa Cymru mewn perthynas â materion diogelu data trwy'r post i: Uned 4 Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, neu e-bostiwch: personal.data@gyrfacymru.llyw.cymru.