Rydym mewn sefyllfa unigryw i gefnogi pobl Cymru drwy ddarparu gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol o’r radd flaenaf sy’n arwain y sector. Byddwn yn sicrhau, wrth i ni greu dyfodol disglair i unigolion yng Nghymru, nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Byddwn yn gwneud gwahaniaeth i:
- Bobl ifanc
- Oedolion
- Fusnesau
- Ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion
- Lywodraeth Cymru
Ein pedwar nod
Bydd ein nodau strategol yn ein galluogi i gyflawni ein gweledigaeth o greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc ac oedolion.
Nod un
Ein nod cyntaf yw i ddarparu gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:
- Cefnogi pobl ifanc ac oedolion i bontio’n gadarnhaol i addysg, gwaith a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau a deall y sgiliau sy’n ofynnol i lwyddo yn y farchnad lafur a chyfrannu at economi Cymru yn y dyfodol
- Cefnogi cwsmeriaid y mae angen lefelau uwch o gefnogaeth arnynt i bontio’n gadarnhaol i ddarpariaeth briodol
- Codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o addysg, gwaith a hyfforddiant a chyfleoedd eraill i wneud cynnydd
- Gwella mynediad at fanteision cymorth ar ffurf cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth drwy gydweithredu ac ymgysylltu â phartneriaid a dylanwadwyr
Nod dau
Ein ail nod yw i ddatblygu ein gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion o ran sgiliau a’r cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:
-
Hysbysu ac ysgogi pobl ifanc ynglŷn â’r byd gwaith drwy ymgysylltu â chyflogwyr a modelau rôl
- Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r sgiliau sydd eu hangen ar sectorau sy’n flaenoriaeth economaidd a sut maen nhw’n cysylltu â’r cwricwlwm
Nod tri
Ein trydydd nod yw i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni’r pedwar diben.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:
- Darparu gwasanaeth dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder gweithwyr proffesiynol yn y byd addysg i ddarparu gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith (GPhCG) effeithiol
- Dylunio a chyflwyno gwobr GPhCG newydd am ragoriaeth yn y cwricwlwm
- Cefnogi’n rhagweithiol y gwaith o weithredu canllawiau statudol GPhCG.
Nod pedwar
Ein pedwerydd nod yw i ddatblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol ac ystwyth ar gyfer Gyrfa Cymru a’i alluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n perfformio’n dda ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn:
- Datblygu gwasanaethau wedi’u personoli, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, wedi’u gwella gan dechnoleg, sy’n ymatebol i anghenion defnyddwyr ac yn hygyrch i bawb
- Creu gweithlu Gyrfa Cymru medrus, ymgysylltiedig, amrywiol ac ystwyth sy’n gynhwysol ac yn cefnogi llesiant gweithwyr
- Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i drawsnewid ein ffyrdd o weithio a datblygu sgiliau a galluoedd digidol holl weithwyr Gyrfa Cymru
- Seilio ein datblygiadau o ran polisi a gwasanaethau ar ein dealltwriaeth o gwsmeriaid, gwybodaeth fusnes, data a dadansoddeg
Ein canlyniadau strategol
Er mwyn cyflawni ein pedwar nod, byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein canlyniadau strategol:
- Cefnogi pobl ifanc ac oedolion i bontio’n gadarnhaol i addysg, gwaith a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau a deall y sgiliau sy’n ofynnol i lwyddo yn y farchnad lafur a chyfrannu at economi Cymru yn y dyfodol
- Galluogi cwsmeriaid sydd wedi elwa o lefelau uwch o gefnogaeth i bontio’n gadarnhaol i ddarpariaeth briodol
- Codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o addysg, gwaith a hyfforddiant a chyfleoedd eraill i wneud cynnydd
- Gwella mynediad at fanteision cymorth ar ffurf cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth drwy gydweithredu ac ymgysylltu â phartneriaid a dylanwadwyr
- Gwella capasiti ysgolion ac Arweinwyr Gyrfaoedd i ddarparu GPhCG o fewn y Cwricwlwm i Gymru
- Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r sgiliau sydd eu hangen ar sectorau sy’n flaenoriaeth economaidd a sut maen nhw’n cysylltu â’r cwricwlwm
- Hysbysu ac ysgogi pobl ifanc ynglŷn â’r byd gwaith drwy ymgysylltu â chyflogwyr a modelau rôl
- Darparu gwasanaethau wedi’u personoli, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, wedi’u gwella gan dechnoleg, sy’n ymatebol i anghenion defnyddwyr ac yn hygyrch i bawb
- Creu gweithlu Gyrfa Cymru medrus, ymgysylltiol, amrywiol ac ystwyth iawn
- Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i drawsnewid ein ffyrdd o weithio a datblygu sgiliau a galluoedd digidol holl weithwyr Gyrfa Cymru
- Seilio ein datblygiadau o ran strategaeth, polisi a gwasanaeth ar ein dealltwriaeth o gwsmeriaid, gwybodaeth fusnes, data a dadansoddeg