Drwy ein gwerthoedd a’n hegwyddorion, a thrwy weithio gydag eraill, byddwn yn gweithio mewn ffyrdd sy’n sicrhau ein bod yn cefnogi’r gwaith o gyflawni nodau llesiant y genedl.
Y pum ffordd o weithio:
- Atal: Deall yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd
- Cydweithio: Gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy ar y cyd
- Cynnwys: Cynnwys poblogaeth amrywiol yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw
- Hirdymor: Golwg hirdymor fel nad ydym yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain
- Integreiddio: Mabwysiadu dull integredig sy'n canolbwyntio ar y nodau llesiant pan fyddwn yn gosod amcanion llesiant
Saith nodau llesiant
Bydd ein gweledigaeth yn cefnogi'r saith nodau llesiant drwy gael Cymru sy'n:
- Lewyrchus. Cefnogi datblygiad pobl ifanc ac oedolion i feithrin y sgiliau i reoli eu gyrfaoedd eu hunain
- Iachach. Cynyddu'r siawns na fydd unigolyn yn dod yn NEET ac y bydd yn parhau i fod yn weithgar mewn cymdeithas
- Fwy cyfartal. Darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bob person ifanc ac oedolyn a'u cefnogi i oresgyn rhwystrau; codi dyheadau a herio stereoteipiau
- Gyfrifol ar lefel fyd-eang. Cynyddu ymwybyddiaeth o'r marchnadoedd llafur yng Nghymru ac yn fyd-eang, yn cynnwys unrhyw newidiadau, heriau a chyfleoedd yn y dyfodol o fewn addysg, yr economi a'r amgylchedd. Byddwn yn cysylltu pobl ag addysg a gwaith, a'r diwydiannau (er enghraifft technoleg werdd) sy'n gysylltiedig a'r rhain
- Gydnerthnedd. Datblygu sgiliau cwsmeriaid i'w helpu i feithrin cydnerthedd er mwyn ymdopi â'r heriau a ddaw
- Cynnwys cymunedau cydlynus. Hyrwyddo cyfleoedd i bobl leol i helpu leihau'r bylchau mewn sgiliau
- Ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynu. Darparu gwasanaeth dwyieithog sy’n ymateb i anghenion unigolion a phartneriaid ledled rhanbarthau Cymru. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr gan gynnwys sgiliau Cymraeg
Cyflawni agenda Cymru
Bydd cyflawni’r weledigaeth Dyfodol Disglair yn golygu y byddwn yn cryfhau ein cyfraniad tuag at gefnogi nodau llesiant ac economaidd Llywodraeth Cymru ac yn mynd i’r afael â nifer o heriau a blaenoriaethau allweddol. Rhain yw:
- Addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO)
- Digidol 2030
- Cwricwlwm i Gymru
- Cynllun cyflogadwyedd
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
- Cymraeg 2050
- Strategaeth Ddigidol i Gymru