Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Rhannwch eich swyddi gwag

Gwnewch yn siwr fod ceiswyr gwaith a'r rhai sy'n newid gyrfa yn eich ardal yn gweld eich swyddi gwag.

Gallwn ychwanegu eich swyddi gwag i'n Bwletin Swyddi wythnosol.

Mae ein Bwletin Swyddi wedi'i bersonoli i ddangos i gwsmeriaid y swyddi sydd fwyaf tebygol o fod o ddiddordeb iddynt. Byddwn yn tynnu sylw at eich swydd wag yn y bwletin a anfonir at gwsmeriaid sydd yn nodi eu bod yn chwilio am waith yn eich diwydiant neu’ch ardal leol.

Byddwn hefyd yn ychwanegu eich swydd wag at ein cronfa ddata fewnol. Mae ein staff yn defnyddio hwn i chwilio am swyddi gwag addas pan fyddant yn gweld cwsmeriaid sy'n chwilio am waith.

Os ydych yn gyflogwr ac yr hoffech i ni ychwanegu eich swyddi gwag at ein Bwletin Swyddi, e-bostiwch ni gyda'r manylion. Cofiwch gynnwys dolen i'r hysbyseb swydd lle bo modd.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cymorth Twf Swyddi Cymru+

Dysgwch fwy am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i gyflogi talent ifanc. Mae'r ddolen hon yn mynd i wefan Busnes Cymru.

Cymorth React+

Dysgwch am becyn ReAct+ i’ch cefnogi gyda recriwtio. Mae'r ddolen hon yn mynd i wefan Busnes Cymru.