Mae Gyrfa Cymru yn darparu data gwybodaeth marchnad lafur (data GML) ar gyfer Cymru a'r DU, er mwyn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gyrfaol.
Nod Gyrfa Cymru yw darparu data GML cyfredol a dibynadwy.
Mae data GML yn ddata am y farchnad lafur. Mae’n gallu cynnwys data ar niferoedd sy'n cael eu cyflogi, ffigurau diweithdra, cyflogau, swyddi gwag a rhagamcanion cyflogaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae Gyrfa Cymru yn dod o hyd i ddata GML o ffynonellau cadarn a pherthnasol. Mae’r data sy’n cael ei gyflwyno yn cael ei driongli yn erbyn ffynonellau cenedlaethol. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei wirio yn erbyn ffynonellau data cenedlaethol, fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Rydym yn diweddaru data GML yn rheolaidd, yn ddibynnol ar y ffynhonnell wybodaeth ac argaeledd y data diweddaraf.
Swyddi Dyfodol Cymru
Mae Swyddi Dyfodol Cymru yn darparu data GML ar y gwahanol ardaloedd a diwydiannau yng Nghymru. Mae'n darparu data ar:
- Wahanol ddiwydiannau
- Rolau swyddi gwahanol
- Niferoedd a gyflogir
- Ystodau cyflog bras
- Tueddiadau rhagamcanol mewn cyflogaeth ar gyfer y dyfodol
- Swyddi gwag ar-lein
- Sgiliau a ofynir amdanynt gan gyflogwyr
Gallwch chi gymharu'r data yma ar gyfer Cymru, y DU, ardaloedd ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Gwybodaeth am Swyddi
Mae Gwybodaeth am Swyddi yn darparu data GML ar gyfer rolau swyddi. Mae’n darparu data ar:
- Nifer y bobl a gyflogir
- Amrediadau cyflog bras
- Nifer y cyfleoedd gwaith a ddisgwylir
- Rhagamcan o gyflogaeth ar gyfer y dyfodol
Yng Ngwybodaeth am Swyddi cyflwynir y data hwn ar gyfer Cymru.
O ble daw'r data?
Mae'r data'n dod o:
- LightcastTM, Cwmni modelu data marchnad lafur
- Gyrfa Cymru
Mae data LightcastTM yn cael ei greu o gasgliad o ffynonellau'r llywodraeth a'r sector preifat. Mae'r ffynonellau hyn yn cael eu casglu a'u cyfuno i greu data diwydiant a galwedigaeth Lightcast. Mae'r data'n cynnwys amcangyfrifon swyddi manwl, yn ôl diwydiant a galwedigaeth, am y blynyddoedd nesaf.
Mathau o ddata
Rhagamcanion ar gyfer y dyfodol
Rhagamcanion ar gyfer y dyfodol yw amcangyfrifon y nifer y bobl a gyflogir yn y dyfodol. Gall rhagamcanion nodi a ddisgwylir i rôl diwydiant neu swydd dyfu, lleihau neu aros yr un fath o ran y niferoedd a gyflogir. Gellir defnyddio rhagamcanion i roi syniad o gyfleoedd swyddi ar gyfer y dyfodol.
Mae Lightcast™ yn creu rhagamcanion o gyflogaeth yn y dyfodol yn seiliedig ar dueddiadau’r gorffennol sy’n parhau, ac yn cyhoeddi rhagamcanion o ffynonellau rhanbarthol a chenedlaethol.
Gan fod rhagamcanion ar gyfer y dyfodol yn amcangyfrifon o dueddiadau'r dyfodol yn seiliedig ar dueddiadau'r gorffennol a'r presennol, rhaid bod yn ofalus wrth eu defnyddio. Efallai na fydd y data yn ystyried newidiadau diweddar yn y farchnad lafur, megis cau gweithfeydd a diswyddiadau, neu newidiadau mawr anrhagweledig yn yr economi oherwydd digwyddiadau byd-eang fel pandemigau neu ryfeloedd. Dylid defnyddio data rhagamcanion ochr yn ochr â ffynonellau eraill o wybodaeth am y farchnad lafur.
Mae rhagamcanion yn dweud wrthym am niferoedd cyflogaeth posibl yn y dyfodol, nid rhagfynegiadau ydynt.
Postiadau swyddi
Mae postiadau swyddi yn swyddi gwag ar-lein sy'n cael eu casglu o bob rhan o'r we. Mae dyblygiadau'n cael eu dileu.
Mae postiadau swyddi yn un o'r setiau data cyntaf i ddangos newidiadau yn y farchnad lafur, ond mae'n rhaid eu defnyddio'n ofalus am y rhesymau canlynol:
- Mae postiadau swyddi yn swyddi gwag ar-lein sydd ond yn adlewyrchu cyfran o'r holl swyddi gwag. Mae llawer o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu mewn ffyrdd eraill, ar wefannau cyflogwyr neu ‘ar lafar gwlad'. Dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r niferoedd absoliwt gan eu bod yn rhoi ciplun yn unig o'r darlun recriwtio cyfan
- Gall data postiadau swyddi newid yn gyflym ar adegau gwahanol o'r flwyddyn
Mae'r dull o gasglu ar gyfer postiadau swyddi ar-lein yn cael ei wella'n gyson. Gellir eu defnyddio i roi syniad o dueddiadau cyffredinol mewn cyfleoedd gwaith a pha swyddi sydd â'r galw mwyaf amdanynt dros amser.
Grwpiau dosbarthiad diwydiant
Mae Gyrfa Cymru wedi diffinio grwpiau diwydiant a rolau swyddi gan ddiwydiant gan ddefnyddio systemau dosbarthu cenedlaethol, fel a ganlyn:
- Mae data diwydiant yn seiliedig ar Ddosbarthiad Diwydiannol Safonol y DU (SIC 2007)
- Mae data rôl swyddi yn seiliedig ar Ddosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC 2020).
Cyflog
Mae Gyrfa Cymru yn ymchwilio ac yn gwirio gwybodaeth am gyflogau o ffynonellau amrywiol yn dibynnu ar rôl y swydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Graddfeydd cyflog cenedlaethol
- Cyrff proffesiynol y diwydiant
- Data hysbysebu swyddi Lightcast
- Gwefannau swyddi ar-lein cenedlaethol
Mae'r cyfraddau cyflog a gyflwynir yn fras.
Sgiliau
Mae Gyrfa Cymru yn cyflwyno data am y sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt mewn swyddi gweigion ar-lein.
Mae Lightcast™ yn casglu data am sgiliau a gasglwyd o bostio swyddi ar-lein, CVs, a phroffiliau ar-lein.
Cyflwynir data ar ddau fath o sgil:
- Sgiliau cyffredinol yw'r sgiliau sydd eu hangen yn aml ar gyfer llawer o swyddi gwahanol
- Sgiliau swydd-benodol yw'r sgiliau neu'r dystysgrif efallai y byddwch eu hangen ar gyfer swydd benodol
Mae postiadau swyddi ar-lein yn dangos pa swyddi a sgiliau y mae'r galw mwyaf amdanynt.
Cofiwch, mae llawer o swyddi gwag a'r sgiliau sydd eu hangen yn cael eu hysbysebu mewn ffyrdd eraill, megis ar wefannau cyflogwyr neu hyd yn oed ar lafar.
Atal data
Pan fo maint y sampl data yn llai na 100, ni ellir arddangos unrhyw ddata dibynadwy. Mae Gyrfa Cymru yn cymhwyso'r polisi atal data hwn i ddata sgiliau a gesglir o bostio swyddi ar-lein.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae Gyrfa Cymru yn dod o hyd i ddata GML, cysylltwch â gwybodaeth@gyrfacymru.llyw.cymru.