Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

I bawb - tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

Yma yn Gyrfa Cymru, rydym am i'n gwasanaethau fod yn hygyrch i bawb.

Beth yw tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant?

Mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (TAC) yn ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio'r ffordd rydym yn gweithio i hyrwyddo tegwch ac ymgysylltiad â gwahanol bobl. Mae hyn yn cynnwys cwsmeriaid, pobl eraill rydym yn gweithio gyda nhw a'n gweithwyr.

  • Tegwch - Mae hyn yn golygu trin pobl yn unol â'u hanghenion. Eu gweld fel unigolion. Rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo
  • Amrywiaeth - Mae hyn yn golygu cymysgedd o bobl. Mae pawb yn cael ei dderbyn
  • Cynhwysiant - Mae hyn yn golygu y dylech chi deimlo eich bod chi'n perthyn mewn grŵp, yn eich amgylchedd

TAC yn Gyrfa Cymru

Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i ddatblygu ac i gefnogi amgylchedd lle mae TAC yn allweddol i bopeth a wnawn. Ble bydd amrywiaethau ein cwsmeriaid a'n gweithwyr yn ceisio cynrychioli ac adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru.

Mae Gyrfa Cymru yn diwallu ein dyletswydd gyfreithiol o ran TAC. Rydym yn cydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cymru). Yn yr un modd ag yr ydym yn cydymffurfio â rheoliadau eraill megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd Gyrfa Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Annog diwylliant sy'n sicrhau bod TAC yn rhan o'n gwaith bob dydd
  • Darparu man ble mae ein cwsmeriaid a’n gweithwyr yn cael eu cynnwys ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  • Gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb, boed yn gwsmer neu weithiwr
  • Trin ein cwsmeriaid a'n gweithwyr fel unigolion, yn deg a chyda pharch, gan roi cyfle i bawb ddatblygu a llwyddo
  • Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein gweithwyr i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid
  • Gwrando a gweithredu ar yr hyn y mae ein cwsmeriaid a'n gweithwyr yn ei ddweud am ein gwaith TAC
  • Gweithredu yn erbyn unrhyw achos o aflonyddu neu fwlio, gan greu gofod lle na chaiff ymddygiad amharchus ei oddef
  • Adolygu ein harferion a'n polisi TAC yn rheolaidd. Dysgu am ddatblygiadau newydd a gwneud newidiadau. Byddwn yn gweithio gyda phobl eraill i'n cynorthwyo i wneud hyn
  • Bod yn agored ac yn dryloyw am ein gwaith TAC a'r cynnydd yr ydym yn ei wneud

Ein gwaith TAC

TAC wrth gynnig cyfarwyddyd gyrfaoedd

Rydym yn deall nad yw pawb yr un fath ac na fydd pawb yn wynebu'r un heriau.

Rydym yn cefnogi pobl i ddeall y problemau y gallent fod yn eu hwynebu. Rydym yn helpu pobl i ddarganfod ffyrdd i oresgyn y rhain.

Mae ein cynghorwyr yn gefn i bobl ar adegau allweddol ac yn helpu pobl i ystyried beth yw eu hopsiynau. Rydym yn cynnig lefelau amrywiol o gymorth, beth bynnag fo amgylchiadau pobl.

Gwaith cyflwyno ac allgymorth

Rydym yn cynnig cefnogaeth amrywiol i'n cwsmeriaid, wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac yn ddigidol. Mae ein cynghorwyr yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol ac yn mynychu digwyddiadau lleol.

Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gan ddefnyddio fideo arwyddo, mae ein gwasanaeth yn hygyrch i'r gymuned fyddar ac i’r rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Stonewall Young Futures

Rydym yn hyrwyddo Stonewall Young Futures Hub (Saesneg yn unig). Mae'r hyb yn cefnogi pob unigolyn ifanc LHDTC+ i feddwl am ei gamau nesaf.

Cymorth cyfieithu

Mae ein cynghorwyr yn defnyddio'r gwasanaeth Language Line ac apiau eraill. Mae hyn yn helpu cwsmeriaid nad ydynt yn siarad Saesneg.

Mae rhai o'n deunyddiau hyrwyddo ar gael mewn gwahanol ieithoedd.

Cymorth arbenigol

Rydym yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer amrywiaeth eang o gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys cwsmeriaid ag anghenion dysgu ychwanegol, ymfudwyr gorfodol a phobl yn y ddalfa.

Gwaith partneriaeth

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau sy'n darparu cymorth ymarferol i bobl. Mae hyn yn helpu ein cwsmeriaid i gael cymorth arbenigol ychwanegol y gallent elwa ohono.


Gwyliwch y fideo

Ein hymrwymiadau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

Gwyliwch y fideo i ddarganfod beth rydym yn ei wneud i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dangos trawsgrifiad

Ein hymrwymiadau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant - Sain a ddisgrifwyd

Gwyliwch y fideo i ddarganfod beth rydym yn ei wneud i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dangos trawsgrifiad

Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Ymrwymiadau TAC - Darllen Hawd Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Ein gwobrau

Dysgwch mwy am yr amryw wobrau mae Gyrfa Cymru wedi'u hennill.