Rhoddodd cyngor gyrfa hyder i Taylor-Ann wneud cais am ei chwrs coleg delfrydol ar ôl iddi adael yr ysgol o ganlyniad i fwlio.
O'r ysgol i'r cartref
Gyda chefnogaeth ei rhieni, penderfynodd Taylor-Ann adael addysg brif ffrwd ar ôl cael ei bwlio yn yr ysgol am ei rhywioldeb. Cafodd y bwlio homoffobig effaith negyddol ar hyder ac iechyd meddwl Taylor-Ann.
Gwnaeth rhieni Taylor-Ann gynllun iddi barhau i ddysgu gartref. Roedd ganddi diwtor preifat gartref i wneud TGAU Mathemateg a Saesneg. Gwnaeth hefyd gwblhau BTECH lefel 2 mewn Twf Personol a Llesiant.
Roedd Taylor-Ann yn gwybod y pryd hynny ei bod am gael swydd yn y celfyddydau perfformio.
Cymorth gyda'r camau nesaf
Gwnaeth John Weston y Cynghorydd Gyrfa gyfarfod â Taylor-Ann yng nghanolfan gyrfa Aberdâr i’w helpu i edrych ar ei hopsiynau gyrfa. Yn ystod y sesiwn buont yn trafod diddordebau Taylor-Ann, gan gynnwys y celfyddydau perfformio, a beth fyddai'r opsiynau gorau iddi mewn coleg neu brifysgol.
Gyda'i gilydd fe wnaethon nhw ddatblygu cynllun ar gyfer y misoedd canlynol yn manylu ar y camau nesaf gorau iddi hi.
Roedd Taylor-Ann hefyd yn gofalu am ei mam, felly cyfeiriodd John hi at gynllun Gofalwyr Ifanc. Ymunodd â grŵp cymorth gyda’r mudiad yn Nantgarw. Helpodd hyn i godi hyder Taylor-Ann, gwella ei hiechyd meddwl a'i pharatoi’n well ar gyfer y coleg.
Sicrhau dyfodol
Roedd Taylor-Ann a'i rhieni wedi meddwl y bydden nhw'n aros tan ei bod hi'n 16 i wneud cais am leoedd coleg.
Gyda chyngor a chefnogaeth John, gwnaeth Taylor-Ann gais am y cwrs celfyddydau perfformio E3 yng Ngholeg y Cymoedd ar sail ei graddau disgwyliedig tra roedd hi ym mlwyddyn 10. Cynigiwyd lle diamod iddi ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Dywedodd Taylor-Ann: “Roeddwn i’n nerfus iawn i ddechrau ac roeddwn i’n teimlo straen oherwydd fy mod o dan bwysau. Roeddwn i'n poeni nad oeddwn i'n gwybod ble roeddwn i eisiau mynd.
“Roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn ar ôl y cyfarfod cyntaf gyda John. Roedd mynd i'r coleg yn ymddangos yn gyfle i gael profiad addysg newydd, cyfarfod â phobl a mynychu cwrs a oedd yn diwallu fy anghenion.
“Roeddwn i’n hapus iawn ac yn llawn cymhelliant.”
Cefnogaeth gan Gyrfa Cymru
Dywedodd Donna, mam Taylor-Ann: “Dim ond fi, Taylor-Ann a’i thad oedd yno i ddechrau, felly roedd yn anhygoel cael cymaint o gefnogaeth a gwybodaeth ar ôl gweld John.
“Mae John wedi bod yn help mawr i ni oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi, at bwy i fynd na beth i’w wneud nesaf.
“Gwnaeth wrando ar beth oedd gen i i'w ddweud, ond fe wnaeth hefyd fy annog i adael i Taylor wneud ei phenderfyniad ei hun.”
Dywedodd Mark, tad Taylor-Ann: “Cymerodd John yr amser i esbonio, boed hynny ynglŷn ag edrych am golegau, prifysgol, swydd neu brofiad gwaith. Cawsom ein cyfeirio at ddigwyddiadau lle gallem alw heibio i gael y wybodaeth yr oedd ei hangen arnom.”
Dywedodd John, Cynghorydd Gyrfa Taylor-Ann: “Roedd Taylor-Ann yn cydnabod na allai newid ei gorffennol a buom yn trafod strategaethau ymdopi wrth ymdrin ag unrhyw sylwadau homoffobig yn y dyfodol.
“Nid oedd Taylor-Ann yn ymwybodol pa mor fywiog yw’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru ac roeddwn wrth fy modd yn gwylio ei hymateb wrth i ni archwilio’r sector gyda’n gilydd.
“Mae hi’n berson ifanc sydd â chymaint o gymhelliant a bydd hi'n cyflawni pethau gwych, gyda chefnogaeth barhaus.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld ei henw ‘mewn goleuadau’ yn y dyfodol.
“Mae hi’n glod i’w rhieni, ond yn bwysicach iddi hi ei hun!”
Os hoffech chi archwilio'ch diddordebau a'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.