Pan fyddwch chi'n dechrau eich blwyddyn gyntaf yn y coleg, rydych chi'n debygol o fod yn brysur yn setlo i mewn i'ch cwrs, yn cyfarfod â phobl newydd ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau coleg. Mae llawer i feddwl amdano ac efallai eich bod chi yn teimlo'n gyffrous ac yn nerfus.
Mae Alice Bird ac Ashley Horobin wedi gorffen eu blynyddoedd cyntaf yng Ngholeg Sir Gâr yn ddiweddar ac yn rhannu eu hawgrymiadau defnyddiol gyda chi ar gyfer gwneud yn fawr o'ch amser yn y coleg.
Prif Awgrymiadau
Byddwch yn chi eich hunan
Mae’n lle newydd, llechen lân. Byddwch yn cwrdd â phobl newydd ac yn profi pethau newydd. Bydd ymddiried ynoch chi'ch hun a'ch personoliaeth yn dangos yn eich gwaith ac yn y bobl sydd o’ch cwmpas.”
Ashley
Cadwch feddwl agored a rhowch gynnig ar bethau newydd
Mae cymaint o wahanol chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol i gymryd rhan ynddynt. Edrychwch ar y gweithgareddau sydd ar gael a chofrestrwch ar gyfer rhai sesiynau rhagarweiniol. Rhowch gynnig ar bopeth sydd o ddiddordeb i chi a gweld beth rydych chi'n ei hoffi fwyaf.”
Alice
Cymerwch hyn gam wrth gam
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi eich llethu, peidiwch â phoeni am bethau sydd heb ddigwydd eto. Canolbwyntiwch ar yr hyn sydd o'ch blaen, deliwch â phob tasg neu weithred wrth fynd yn eich blaen ac yna symudwch ymlaen. Gallwch chi feddwl am bethau mwy o faint pan fyddwch chi'n teimlo'n barod.”
Ashley
Cysylltwch â chymaint o bobl ag y gallwch
Mae'r coleg yn amrywiol ac yn gynhwysol iawn a byddwch yn cwrdd â phobl o bob cefndir a diwylliant gwahanol. Roeddwn yn nerfus iawn pan ddechreuais i gan fod llawer o fy ffrindiau o'r ysgol yn mynd i goleg gwahanol. Ond yn gyflym iawn fe wnes i setlo i mewn, gwneud yr ymdrech i sgwrsio â gwahanol gyd-ddisgyblion a chwrdd â fy mhobl.”
Alice
Cofiwch ei chymryd hi'n araf a mwynhau'r profiad
Nid y dosbarthiadau a'r gwaith yw’r unig bethau pwysig - ceisiwch wneud amser i gael hwyl gyda'ch ffrindiau. Bydd ffrindiau yn helpu i wneud y dyddiau'n haws. Ffrindiau yw'r gorau.”
Ashley
Gwnewch eich gwaith yn brydlon
Gall gwaith coleg gronni’n gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud eich gwaith cartref ac aseiniadau wrth i chi eu cael. Ceisiwch gynllunio a blaenoriaethu eich gwaith i arbed mwy o straen a gwaith yn y dyfodol.”
Alice
Gwiriwch eich iechyd meddwl
Roeddwn i’n nerfus iawn pan ddechreuais i yn y coleg ar ôl cael fy mwlio yn yr ysgol. Roedd fy iechyd meddwl wedi bod yn isel ar adegau a doedd gen i fawr o hyder. Ond, dechreuais gael y cymorth oedd ei angen arnaf i gynyddu fy hyder a gwneud ffrindiau. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus neu’n isel, cofiwch fod y tîm llesiant yno i’ch cefnogi.”
Ashley
Cadwch ddewisiadau'r dyfodol mewn cof
Defnyddiwch y flwyddyn gyntaf hon i gael ymdeimlad o'r hyn rydych chi'n ei fwynhau, beth nad oes gennych chi gymaint o ddiddordeb ynddo, a pha fath o faes y gallech chi fod eisiau ei ystyried yn y dyfodol. Gall cymaint o’r pethau bach fod yn berthnasol i’ch gyrfa yn y dyfodol, felly bydd cadw hyn mewn cof yn eich helpu gyda phenderfyniadau yn y dyfodol.”
Alice