Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022
Yn bresennol
- Taslima Begum
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Andrew Clark
- Neil Coughlan
- Dave Hagendyk
- Liz Harris
- Susan Maguire
- Dave Mathews
- Sue Price
- Emma Richards
- Tony Smith
- Richard Thomas
- Helen White
O Gyrfa Cymru
- Nikki Lawrence
- Shirley Rogers
- Ruth Ryder
Yn bresennol
- Mandy Ifans, Gyrfa Cymru
- David Morgan, Y Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd (CDI)
Ysgrifenyddiaeth
Jayne Pritchard
Ymddiheuriadau
- Mary Van Den Heuvel
- Sam Evans
Yn absennol
- Emma Edworthy
- James Harvey
- Ceri Noble
1. Datganiadau o fuddiant
1.1 Cyhoeddodd y Prif Weithredydd ei bod bellach yn aelod o Fwrdd y Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol – 3 Mawrth 2022
2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
3. Materion yn codi o gyfarfodydd blaenorol y Bwrdd
3.1 Gwarant i Bobl Ifanc – cytunwyd y byddai cynrychiolydd o Gyrfa Cymru yn bresennol mewn cyfarfod o Fwrdd CCDG yn y dyfodol er mwyn rhannu gwybodaeth â’r Bwrdd parthed y pwnc hwn.
Cam Gweithredu 1: Gwybodaeth am y Gwarant i Bobl Ifanc i’w hamserlennu ar yr agenda yn y dyfodol.
3.2 Roedd aelodau’r Bwrdd wedi cael copi o adroddiad manwl ESTYN felly cadarnhawyd bod y cam gweithredu wedi’i gau.
3.3 Darparwyd diweddariad ynghylch eitemau risg uchel ar y Gofrestr Risg felly cadarnhawyd bod y cam gweithredu wedi’i gau.
3.4 Roedd yr adroddiad ar ganmoliaeth a chwynion ynghlwm wrth adroddiad y Prif Weithredydd. Cytunwyd bod y mater hwn yn cael ei weithredu.
3.5 Y Strategaeth Rieni wedi’i diweddaru i’w hamserlennu mewn cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol ac i’w thrafod yn y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Felly, cytunwyd bod y mater hwn ar y gweill.
Cam Gweithredu 2: Y Strategaeth Rieni i ddod ger bron cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.
3.6 Ceisio eglurhad gan staff cyflwyno ar sut y llwyddodd Gyrfa Cymru i gofnodi bod 75% o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4 yn defnyddio Gwybodaeth am y Farchnad Lafur yn eu proses gwneud penderfyniadau. Cytunwyd bod y mater hwn ar y gweill.
Cam Gweithredu 3: Sicrhau eglurder pellach i’r ffigurau a gofnodwyd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4.
3.7 Adolygu’r iaith a ddefnyddir yn y strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i sicrhau cysondeb yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Cytunwyd bod y mater hwn yn cael ei weithredu.
3.8 Diweddariad am y gyfarwyddiaeth gyflawni a datblygu i ddod ger bron cyfarfod nesaf y Bwrdd fel eitem sylweddol. Cytunwyd bod y mater hwn yn cael ei weithredu.
3.9 Cafodd adroddiad seiberddiogelwch ei ystyried gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg, a byddai’n cael ei gyflwyno ym mhob cyfarfod yn y dyfodol. Felly, cytunwyd bod y mater hwn yn cael ei weithredu.
4. Cymru’n Gweithio
Gwnaeth Pennaeth Cyngor Cyflogaeth gyflwyniad i aelodau’r Bwrdd a gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a rhoi adborth.
4.1 Economaidd Anweithgar
Nododd y Bwrdd fod ystadegau cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn datgelu bod 65% o bobl ifanc 16 – 24 oed yn economaidd anweithgar, a bod hyn yn gysylltiedig â disgyblion NEET. Dywedwyd bod Gyrfa Cymru yn ymwybodol o’r ystadegau cyfredol, a’u bod yn targedu’r economaidd anweithgar drwy asiantaethau a darpariaeth allgymorth.
4.2 Manylion Cyswllt Arweinwyr yn Colegau Cymru
Dywedodd y Bwrdd fod gan Colegau Cymru Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd, ac awgrymwyd y gellid sicrhau buddiant cyffredin trwy gael Gyrfa Cymru/Cymru’n Gweithio yn bresennol mewn cyfarfod o’r grŵp.
Cam Gweithredu 4: Y Bwrdd i ddarparu manylion cyswllt grwpiau priodol i’r Prif Weithredydd.
5. Y newyddion diweddaraf gan y Cadeirydd
5.1 Cyfnod Cynefino’r Cadeirydd
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod sefydlu ac roedd yn falch o gael adrodd bod yr holl gyfarfodydd un-i-un bellach wedi’u cynnal.
5.2 Dysgu a Datblygu
Awgrymwyd dysgu a datblygu pellach fel rhan o raglen e-ddysgu i wella dealltwriaeth y Bwrdd o’u rôl a’u cyfrifoldebau fel aelodau. Cytunwyd y byddai cynnig o ran datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Bwrdd.
Cam Gweithredu 5: Dosbarthu cynigion DPP i aelodau’r Bwrdd am eu hadborth.
5.3 Defnyddio Arbenigedd a Gwybodaeth Aelodau’r Bwrdd
Roedd y Cadeirydd yn adolygu aelodaeth bresennol yr is-bwyllgorau er mwyn sicrhau y gellid defnyddio arbenigedd yr aelodau yn llawn yn y fforwm cywir.
5.4 Amserlen Cyfarfodydd y Dyfodol
Mae amserlen yn cael ei llunio ar hyn o bryd ar gyfer holl gyfarfodydd y Bwrdd/Pwyllgor yn y dyfodol.
Cam Gweithredu 6: Creu cynllun cyfarfod ar gyfer pob cyfarfod Bwrdd/Pwyllgor yn y dyfodol ac adolygu dyraniad amser (2.5 awr).
5.5 Cyfarfod Bwrdd CCDG Wyneb yn Wyneb
Dywedwyd y byddai cyfarfod nesaf Bwrdd CCDG yn cael ei gynnal ym mis Hydref ac y byddai’n gyfarfod cyfunol ac yn debygol o gael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Cam Gweithredu 7: Dosbarthu dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyfarfod nesaf Bwrdd CCDG
5.6 Newidiadau i’r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg a’r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith
Cyhoeddodd y Cadeirydd newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg, a’r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith.
5.7 Aelodau Bwrdd sy’n Ymadael
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd a oedd yn ymadael am eu cyfraniad i Gyrfa Cymru gan ddymuno pob dymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol.
5.8 Recriwtio Aelodau Newydd i’r Bwrdd
Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn debygol y byddai aelodau newydd y Bwrdd yn ymuno â Bwrdd CCDG ym mis Medi/Hydref.
6. Newyddion diweddaraf y Prif Weithredydd
6.1 Newidiadau yn Llywodraeth Cymru
Dywedwyd y bydd y gangen nawdd yn symud i fod o dan arweinyddiaeth Sinead Gallagher, sydd yn gyfrifol am Addysg Uwch ar hyn o bryd. Byddai Sinead yn ymuno â chyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.
6.2 Hawliad Tâl
Roedd y cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ynghylch yr hawliad tâl diwygiedig a’r effaith ar y gyllideb yn parhau.
6.3 Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Roedd cyfarfodydd yn ymwneud â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dal i fynd rhagddynt, yn enwedig trafodaethau yn ymwneud â phrofiad gwaith wedi’i deilwra.
6.4 Cynllun Gwella Parhaus
Awgrymodd y Bwrdd y dylid cynnal trafodaeth â gweithwyr o Principality i ddysgu o’u profiad o roi fframwaith gwelliant parhaus ar waith.
Cam Gweithredu 8: Y Bwrdd i drefnu cyflwyniad i’w tîm yn Principality.
6.5 Dangosfwrdd Data
Cytunwyd y byddai dangosfwrdd yn cael ei greu i’r Bwrdd er mwyn gweld cynnydd yn erbyn metrigau allweddol. Er mwyn gwneud y gofynion yn glir, byddai cyfarfod pellach yn cael ei gynnal gyda’r cadeirydd y tu allan i’r Bwrdd.
Cam Gweithredu 9: Cyfarfod pellach i’w drefnu i drafod gofynion dangosfwrdd ar gyfer y Bwrdd.
7. Cyfarwyddwyr anweithredol llywodraethiant
Gwnaed cyflwyniad am gyfarwyddwyr anweithredol llywodraethiant i aelodau’r Bwrdd a gwahoddwyd y Bwrdd i ofyn cwestiynau a rhoi adborth.
7.1 Taflenni Clawr Blaen y Pwyllgor
Tynnodd y Bwrdd sylw at bwysigrwydd cwblhau taflenni clawr blaen y pwyllgor yn llawn.
7.2 Sianel Teams ar gyfer Aelodau Bwrdd
Awgrymodd y Bwrdd sianel Teams ar gyfer aelodau’r Bwrdd
Cam Gweithredu 10: Ystyried creu sianel Teams ar gyfer aelodau’r Bwrdd
8. Strategaeth y Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI)
Rhoddodd Prif Weithredydd y Sefydliad Datblygu Gyrfa gyflwyniad byr yn amlygu’r themâu allweddol o fewn y strategaeth newydd a gwahoddodd yr aelodau i yrru cwestiynau ac adborth trwy e-bost.
9. Llythyr cyllid/llythyr cylch gwaith/cynlluniau gweithredol
Trafodwyd y themâu allweddol yn y llythyrau a’r cynlluniau gweithredol a gwahoddwyd y Bwrdd i ofyn cwestiynau a rhoi adborth.
9.1 Adolygiad Penodol/Pum Mlynedd
Amlygodd y Bwrdd bwysigrwydd yr ‘adolygiad penodol’ yn y llythyr cylch gwaith a gofynnodd a oedd Gyrfa Cymru yn gwybod pryd y byddai’r adolygiad penodol yn debygol o gael ei gynnal.
Cam Gweithredu 11: Cysylltu â thîm nawdd Llywodraeth Cymru ynghylch y datganiad o adolygiad penodol.
9.2 Cynllun Gweithredol
Trafododd y Bwrdd y cynllun gweithredol presennol, a chytunwyd y byddai cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cael eu trafod yn y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith, cyn eu cyflwyno i’r Bwrdd llawn i’w nodi.
10. Cyfrifon archwiliedig drafft diwedd blwyddyn
Yn amodol ar fân newidiadau a amlygwyd, ac yn dilyn archwiliad diwedd blwyddyn gan Archwilio Cymru, dirprwyodd y Bwrdd bwerau i’r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg i gymeradwyo’r cyfrifon. Byddai’r mân newidiadau yn cael eu trafod a’u cymeradwyo mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg yn y dyfodol cyn i’r cyfrifon gael eu cymeradwyo’n ffurfiol.
11. Adroddiad Thematig ESTYN
Trafodwyd adroddiad thematig llawn ESTYN a bydd yn cael ei drafod yn fanwl mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith yn y dyfodol.
12. Cyfarfodydd pwyllgor
Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd gyfeirio at gofnodion aelodau’r pwyllgor i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfodydd.
12.1 Y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg – 13 Mehefin 2022
Rhoddwyd diweddariad ar lafar i’r Bwrdd gan nad oedd y cofnodion drafft ar gael.
12.2 Y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith – 28 Ebrill 2022
Ni wnaed unrhyw sylwadau ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau parthed y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith.
12.3 Pobl sy’n Cyfrif – 12 Mai 2022
Ni wnaed unrhyw sylwadau ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau parthed y Pwyllgor Pobl sy’n Cyfrif.