Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023.
Aelodau'r Bwrdd
- Andrew Clark
- Dave Hagendyk
- Dave Matthews
- Erica Cassin (Chair)
- Helen White
- James Harvey
- Joni Ayn-Alexander
- Kate Daubney
- Neil Coughlan
- Toni McLelland
- Tony Smith
O Gyrfa Cymru
- Nerys Bourne
- Nikki Lawrence
- Ruth Ryder
Llywodraeth Cymru
- Sam Evans
- Sinead Gallagher
Cyfranwyr
Phil Bowden, Careers Wales
Yn absennol
Richard Thomas
Ysgrifenyddiaeth
Leonora Evans
1. Datganiadau o Fuddiant
Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau pellach.
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol, 6 Gorffennaf 2023
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.
3. Materion yn Codi
3.1 Diweddariad y Cadeirydd – Recriwtio i'r Bwrdd (Cofnod 3)
Cytunwyd bod y camau parthed cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sefydlu bwrdd pobl ifanc wedi eu cwblhau.
3.2 Adolygiad Cynnydd Strategaeth (Cofnod 7)
Dosbarthwyd crynodeb o ddull y Cwmni o gynnwys yr holl staff yn ei gylch cynllunio busnes. Cytunwyd bod y mater hwn wedi’i gau.
3.3 Adroddiad Chwarterol (Cofnod 9)
Cytunwyd bod y cam gweithredu i’r Prif Weithredydd ystyried cynnwys ffigurau dangosydd perfformiad allweddol o flwyddyn i flwyddyn a chynnwys y data yn adroddiad y Prif Weithredydd yn un parhaus.
3.4 Adroddiad Diogelu (Cofnod 13)
Cyflwyno adroddiad diogelu i'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Cytunwyd bod y mater hwn yn un parhaus.
3.5 Dyddiad y cyfarfod nesaf (Cofnod 14)
Datryswyd y mater ynglŷn â’r newid dyddiad.
4. Diweddariad y Cadeirydd – Ar Lafar
Rhoddodd y cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr ystod o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ers cyfarfod diwethaf y bwrdd ac anogodd aelodau'r bwrdd i fynychu digwyddiadau lle bo hynny'n bosibl.
Rhannwyd adborth cadarnhaol hefydss o gyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid diweddar gan ysgolion, cyflogwyr a phartneriaid addysg bellach.
Roedd y broses recriwtio ar gyfer aelodau newydd o'r bwrdd yn parhau, gyda'r hysbyseb yn debygol o gael ei chyhoeddi o fewn y misoedd nesaf.
Yn ogystal, rhoddwyd rhybudd ymlaen llaw y bwriedir cynnal adolygiadau perfformiad blynyddol gydag aelodau ym mis Tachwedd.
5. Adroddiad y Prif Weithredydd
Nododd yr aelodau'r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol gan y Prif Weithredydd. Amlygwyd y prif weithgareddau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf.
Trafodwyd risg bresennol y Cwmni, gan nodi'r sefyllfa allanol gynyddol heriol ynghylch cyllidebau a'i heffaith bosibl ar y Cwmni a'i allu i gyflawni ei strategaeth Dyfodol Disglair. Cytunwyd y byddai'r aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau rhwng y Cwmni a'i dîm noddi. Cytunwyd hefyd y byddai rhan gyntaf cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg yn agored i holl aelodau'r Bwrdd adolygu unrhyw ddiweddariadau ynghylch cyllidebau yn y dyfodol.
Cam Gweithredu 3, Gwahoddir holl aelodau'r Bwrdd i ran gyntaf cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
6. Diweddariad Llywodraeth Cymru (LlC)
Rhoddwyd diweddariad ar yr amserlen ar gyfer cyllideb 2024/25 ynghyd ag amlinelliad o waith a fyddai'n digwydd i lywio trafodaethau. Nodwyd dyddiadau allweddol, fel 22 Tachwedd, pan fyddai datganiad yr hydref yn cadarnhau’r cyllid y byddai LlC yn ei gael gan San Steffan, a 19 Rhagfyr, sef y dyddiad y byddai LlC yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft.
Clywodd y Bwrdd fod y Gweinidog yn falch o'r sgwrs yn y digwyddiad bord gron diweddar, a oedd yn nodi bod sail gadarn i ddatblygu ohoni, er bod cynnydd i'w wneud. Roedd arfer da wedi'i amlygu ym Mlaenau Gwent ac roedd y Gweinidog eisiau archwilio mwy am sut y daw trefniadau at ei gilydd ar lefel leol.
Rhoddwyd diweddariadau hefyd ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac ailstrwythuro Llywodraeth Cymru.
7. Gwerthuso / Adenillion o Fuddsoddi
Arweiniwyd yr aelodau drwy ddull y Cwmni o werthuso ei wasanaethau, y cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn, a’r gwaith adenillion o fuddsoddi a oedd yn cael ei wneud.
Gofynnwyd i'r Cwmni ystyried sawl maes, gan gynnwys:
- Myfyrio ar gymorth cyffredinol a gynigir i bobl ifanc i nodi unrhyw ffyrdd pellach o gefnogi'r rhai a allai fod yn gadael i bethau ‘lithro'
- Yn sgil absenoldeb hwb data, sut y gallai ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid gynyddu ei effaith trwy lwybrau data ar gyfer ymholiadau
- Sut y gallai drosglwyddo ei effaith yn fwy effeithiol a’i throi’n straeon dylanwadol
- Sut y gallai helpu cyflogwyr i ddatblygu dealltwriaeth bellach o fanteision cyflogi pobl ifanc niwroamrywiol
Amlygwyd ystod yr acronymau a ddefnyddiwyd gan y Cwmni a chytunwyd y byddai geirfa termau'r Cwmni yn cael ei chylchredeg i bob aelod er mwyn hwyluso dealltwriaeth.
Cam Gweithredu 4, Uwchlwytho rhestr txermau i'w chylchredeg a'i hychwanegu at sianel Bwrdd CCDG.
8. Cyfrifon Diwedd y Flwyddyn / Cyfrifon Rheoli
Nodwyd bod archwiliad cyfrifon diwedd y flwyddyn yn parhau ac felly parhaodd y ddogfen a gyflwynwyd i'r Bwrdd fel un drafft. Rhoddwyd awdurdod i'r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg i gymeradwyo fersiwn derfynol y cyfrifon.
9. Strategaeth Ystadau
Cyflwynwyd a thrafodwyd y Strategaeth Ystadau gan y Bwrdd. Rhoddodd yr aelodau adborth ar elfennau allweddol y ddogfen, a chadarnhawyd y byddai asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal cyn cwblhau'r strategaeth.
Cam Gweithredu: Cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar y drafft terfynol.
10. Adolygu Strwythur Pwyllgorau
Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â strwythurau presennol pwyllgorau. Cytunwyd y byddai adolygiad o'r cylch gorchwyl yn digwydd dros y misoedd nesaf i sicrhau bod eitemau mawr ar yr agenda fel sero net, llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu cynrychioli'n ddigonol.
Trafodwyd hyrwyddwyr ar gyfer meysydd penodol a chynhaliwyd arfer da'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth fel enghraiffat o sut y gallai hyn weithio'n ymarferol.
Trafodwyd cyfarfod blynyddol o gadeiryddion pob pwyllgor hefyd i drafod y cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn.
Cam Gweithredu 5: Cadeiryddion pob pwyllgor i ystyried y cylch gorchwyl presennol ac adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf.
Cam Gweithredu 6: Trefnu dyddiad rhwng cadeirydd y Bwrdd, y Prif Weithredydd a holl gadeiryddion y tri phwyllgor presennol.
11. Dogfen Fframwaith Ar Gyfer Cwmnïau Sy'n Eiddo i Lywodraeth Cymru
Cafodd yr aelodau'r fframwaith wedi'i ddiweddaru ac amlygwyd newidiadau o fewn y ddogfen.
12. Cyfarfodydd Pwyllgorau’r Bwrdd
12.1 Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg
Amlygodd cadeirydd y pwyllgor fod adolygiad o reoliadau ariannol y Cwmni yn digwydd, a byddai drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd i'w gymeradwyo.
12.2 Pwyllgor Perfformiad ac Effaith
Cyflwynwyd crynodeb o'r trafodaethau o fewn y pwyllgor i'r Bwrdd.
12.3 Materion Pobl
Clywodd yr aelodau fod strategaeth AD ddrafft wedi ei thrafod yn y cyfarfod diwethaf fel un o'i eitemau allweddol a chafwyd trafodaeth dda.
13. Unrhyw Fusnes Arall
13.1 Adborth ar gyfarfodydd y Bwrdd
Mynegodd yr aelodau awydd am gyfarfodydd rhyngweithiol gyda chyfle i gael trafodaethau ehangach. Cytunodd y cadeirydd i adolygu sut y gellid cyflawni hyn ar-lein yn ogystal â mewn cyfarfodydd personol.
Cam Gweithredu 7, Y cadeirydd i adolygu technoleg ryngweithiol i gefnogi trafodaethau’r Bwrdd.
13.2 Cyfieithu ar y pryd ar gyfer TEAMS
Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried er mwyn iddo fod ar waith ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Cam Gweithredu 8: Nodi sut y gall TEAMS gefnogi cyfieithiadau Saesneg-Cymraeg ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.
13.3 Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cadarnhawyd y cynhelir y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf yn swyddfa Caerdydd ar 13 Rhagfyr.
Log Gweithredu | Arweinydd | Diweddariad i'w ddarparu |
Cam Gweithredu1. Ystyriwch gynnwys ffigurau dangosyddion perfformiad allweddol fesul blwyddyn a chynnwys y data yn adroddiad y Prif Weithredydd. | NL | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 2. Cyflwyno adroddiad diogelu i'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith | NL, NB | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 3. Gwahoddir holl aelodau'r Bwrdd i ran gyntaf cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg | JP | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 4. Uwchlwytho rhestr termau i'w chylchredeg a'i hychwanegu at sianel Bwrdd CCDG | RR | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 5. Cadeiryddion pob pwyllgor i ystyried y cylch gorchwyl presennol ac adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf | EC | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 6. Dyddiad i'w drefnu rhwng cadeirydd y Bwrdd, y Prif Weithredydd a holl gadeiryddion y tri phwyllgor presennol | NL | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 7. Y Cadeirydd i adolygu technoleg ryngweithiol i gefnogi trafodaethau’r Bwrdd. | EC | Cwblhawyd |
Cam Gweithredu 8. Nodi sut y gall TEAMS gefnogi cyfieithiadau Saesneg–Cymraeg ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd ar-lein. | RR | Cwblhawyd |
Ddim yn berthnasol | Ni chofnodwyd unrhyw gamau pellach | Ddim yn berthnasol |