Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Oscar

Oscar

Llwyddodd Oscar i gael prentisiaeth a oedd yn cyd-fynd â’i ddull ymarferol o ddysgu.

Yn 16 oed, mae Oscar o Caerdydd, wedi cymryd ei gamau cyntaf i fyd gwaith. Mae wedi cael Prentisiaeth Saernïo gyda Dudley’s Aluminium, penderfyniad sy’n adlewyrchu ei ddull ymarferol o ddysgu a’i nodau hirdymor.

Dewis y llwybr cywir

“Rwy’n ddysgwr ymarferol,” meddai. “Ro’n i eisiau mynd yn syth i mewn i rywbeth lle gallwn i ddysgu trwy wneud.”

Ar ôl trafod y gwahanol lwybrau â’i rieni, penderfynodd Oscar mai prentisiaeth fyddai’r llwybr gorau. Siaradodd â chynghorydd Gyrfa Cymru, a helpodd y sgwrs honno ef i dorri ei opsiynau lawr a dod o hyd i’r cyfle cywir iddo.

“Y sgwrs honno ddechreuodd popeth. Helpodd fy nghynghorydd fi i weld beth oedd yn bosibl, gwneud cais am y cwrs cywir a hyd yn oed rhoi lifft i mi i’r cyfweliad. Roedd y gefnogaeth honno werth y byd.”

Dyfodol mewn saernïo a thu hwnt

Roedd cael y brentisiaeth yn garreg filltir bwysig i Oscar.

“Dewisais i saernïo oherwydd ei fod yn sgil a fydd bob amser ei angen. Mae’n fasnach sy’n adeiladu’r byd o’n cwmpas.”

Mae hefyd yn meddwl ymlaen: “Rydw i eisoes yn meddwl ymlaen y tu hwnt i fy mhrentisiaeth, byddwn i wrth fy modd yn hyfforddi fel trydanwr un diwrnod hefyd. Po fwyaf o grefftau y gallaf eu dysgu, y mwyaf o gyfleoedd fydd i greu gyrfa i mi fy hun yr wyf yn ei mwynhau.”

Roedd Oscar yn teimlo’n bositif ynglŷn â sut roedd ei arholiadau TGAU wedi mynd. “Roeddwn i wedi astudio’n galed, felly roedd rhai o’r arholiadau’n teimlo’n haws nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Dw i’n meddwl fy mod i wedi gwneud yn dda yn rhai o fy hoff bynciau fel Saesneg a hefyd Addysg Gorfforol oherwydd bod angerdd mawr gen i am chwaraeon.

“Mae gwybod bod fy mhrentisiaeth gen i yn sicr wedi gwneud fy rhieni’n falch iawn ohonof i ac yn golygu y galla i ddechrau edrych ymlaen at yr hyn sydd nesaf.”

Cefnogaeth a wnaeth wahaniaeth

Rhoddodd profiad Oscar gyda’i gynghorydd Gyrfa Cymru yr hyder iddo gymryd y cam nesaf. “Gwnaethon nhw fy helpu i ddarganfod beth roeddwn i eisiau ei wneud a’m cefnogi drwy’r broses gyfan ac rwy’n gwybod y galla i fynd yn ôl atyn nhw unrhyw bryd os oes angen mwy o gyngor arna i.”

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd amdani, dim ond y dechrau yw hyn.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Archwilio

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth