Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Ein gwobrau

Gweld rhai o'r gwobrau mae Gyrfa Cymru wedi'u hennill.

Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig.

Cyflogwr anabledd hyderus

Mae'n bleser gennym gadarnhau bod Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) wedi cael ei gwobrwyo â'r wobr Cyflogwr Anabledd Hyderus Disability Confident employer scheme ar gyfer y pump ymrwymiad canlynol;

  1. Cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer swydd a'u hystyried yn ôl eu galluoedd
  2. Sicrhau bod mecanwaith i drafod gyda chyflogeion anabl, ar unrhyw adeg, ond o leiaf unwaith y flwyddyn, yr hyn y gellid ei wneud i sicrhau bod modd iddynt ddatblygu a defnyddio eu galluoedd
  3. Gwneud pob ymdrech pan fo cyflogeion yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros mewn cyflogaeth
  4. Gweithredu i sicrhau bod cyflogeion i gyd yn datblygu lefel briodol o ymwybyddiaeth am anabledd sydd ei hangen i wneud yr ymrwymiadau hyn i'r gwaith
  5. Adolygu'r pump ymrwymiad bob blwyddyn a'r hyn a gyflawnwyd, er mwyn cynllunio ffyrdd i ragori arnynt a rhoi gwybod i gyflogeion a'r Ganolfan Byd Gwaith am gynnydd a chynlluniau i'r dyfodol

Cyflogwr cyflog byw

Mae'n bleser gan Gyrfa Cymru i gyhoeddi ein bod wedi ein hachredu fel cyflogwr Cyflog Byw. Mae'r Cyflog Byw go iawn yn gyfradd fesul awr a osodir yn annibynnol ac a ddiweddarir yn flynyddol. Cyfrifir y Cyflog Byw yn unol â gwir gostau byw.

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw, “Rydym yn croesawu Gyrfa Cymru i'r mudiad Cyflog Byw fel cyflogwr achrededig."

Gwobr Lefel 4 y Ddraig Werdd

Mae'r wobr hon yn dangos ein hymrwymiad i reolaeth amgylcheddol effeithiol. Dewch i wybod mwy am sut yr ydym yn rheoli ein heffaith amgylcheddol ar ein tudalen Amgylchedd.

UNISON Siarter #RespectYourYouth i weithwyr ifanc yng Nghymru

Mae Gyrfa Cymru wedi arwyddo Siarter RespectYourYouth, sydd wedi'i ddatblygu gan yr undeb gwasanaethau cyhoeddus, UNISON Cymru Wales. Mae siarter RespectYourYouth UNISON yn gofyn am bum peth:

  1. gweithredu Cyflog Byw Go Iawn, waeth be fo’r oedran
  2. Prentisiaethau o ansawdd
  3. Cyflogaeth deg
  4. Cydraddoldeb yn y gweithle
  5. Mwy o gyfleoedd hyfforddiant

Dewch i wybod mwy am Young Workers Charter.(dolen Saesneg yn unig)

Bay Citizens 'Community Jobs Compact'

Mae Gyrfa Cymru wedi llofnodi'r 'Community Jobs Compact' sy'n golygu y byddwn yn:

  • Talu Cyflog Byw
  • Mynd i'r afael â thangynrychiolaeth yng ngweithle y gymuned leol
  • Darparu diogelwch a datblygiad swydd

Ewch i wefan Citizens Cymru Wales i ddarganfod mwy.