1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r telerau ac amodau sydd yn y ddogfen hon yn rheoli mynediad a defnydd gwefan Gyrfa Cymru a'r E-Bortffolio. Sonnir am 'y Safle' yn y ddogfen hon wrth gyfeirio at safle gwe Gyrfa Cymru a'r E-Bortffolio.
2. Gweithredwr y Safle
Gweithredir y Safle gan Gyrfa Cymru, a chyfeirir ato fel 'GC' trwy gydol y ddogfen hon. Y cyfeiriad yw Prif Swyddfa, Canolfan Gyrfa Caerdydd, Uned 4, Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH.
3. Trwydded
3.1 Mae GC yn rhoi caniatâd i chi ddefnyddio'r Safle yn unol â'r telerau ac amodau sydd yn y ddogfen hon.
3.2 Gall GC dynnu'r caniatâd hwn yn ôl ar gyfer defnyddio'r Safle unrhyw bryd, heb rybudd.
4. Deunyddiau ar y safle
4.1 Gall y Safle gynnwys deunyddiau sy'n eiddo i GC, neu ddeunyddiau mae GC wedi cael caniatâd i'w defnyddio. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i gynllun, diwyg, edrychiad, ymddangosiad a graffeg y safle. Diogelir hyn gan gyfreithiau niferus.
4.2 Gallwch edrych ar y deunydd sydd ar y Safle, ei ddefnyddio, ei lawrlwytho a'i gadw ar gyfer defnydd personol ac ymchwil. Ni chaniateir defnyddio'r deunydd at bwrpasau masnachol neu fusnes. Ni chaniateir ailddosbarthu neu ailgyhoeddi'r deunydd, rhoi'r deunydd i rywun arall neu wneud y deunydd ar gael i unrhyw berson neu sefydliad arall.
4.3 Mae defnyddio'r Safle mewn modd nad yw'n cyd-fynd â'r telerau ac amodau yn y ddogfen hon yn gallu arwain at gais am iawndal am golled neu niwed a/neu fe all fod yn drosedd.
5. Cywirdeb Gwybodaeth
5.1 Rhoddir yr wybodaeth yn y Safle yn ddidwyll ac er gwybodaeth a diddordeb cyffredinol yn unig. Gall hyn newid heb rybudd. Nid yw GC yn gyfrifol am unrhyw anghywirdebau yn yr wybodaeth yn y Safle. Ac eithrio'r manylion yng nghymal 7.3 isod, ni all GC warantu bod yr wybodaeth yn y Safle'n gywir.
5.2 Ni ddylid dibynnu ar yr wybodaeth yn y Safle ac nid yw'n cyfrif fel unrhyw fath o gyngor neu argymhelliad. Wrth ddefnyddio'r Safle, rydych yn cytuno nad ydych wedi dibynnu ar yr wybodaeth yn y Safle. Bydd unrhyw drefniadau a wneir rhyngoch chi ac unrhyw un, neu unrhyw sefydliad arall a enwir neu a gyfeirir atynt ar y Safle, yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun.
5.3 Nid yw unrhyw beth yn y Safle yn bwriadu bod yn gynnig i gychwyn ar gytundeb.
6. Cysylltu
6.1 Mae'r Safle'n cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. Nid yw GC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys gwefannau eraill. Nid yw unrhyw gyswllt yn bwriadu bod yn gymeradwyaeth o unrhyw fath gan GC o'r wefan arall honno. Mae'r cyswllt i'r E-Bortffolio yn cael ei reoli gan amodau a thelerau ar wahân y sonnir amdanynt yn adran preifatrwydd y Safle. Gallwch gofrestru ar gyfer yr E-Bortffolio wrth lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar gael yma.
6.2 Ni allwch greu cyswllt â'r Safle o safle neu ddogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig gan GC o flaen llaw.
7. Atebolrwydd
7.1 Nid yw GC yn gwarantu y bydd defnydd o'r Safle yn gweithio gyda'r holl galedwedd a meddalwedd sy'n cael eu defnyddio gan ymwelwyr y Safle.
7.2 Ac eithrio'r hyn y sonnir amdano yng nghymal 7.3, ni fydd GC yn atebol i chi o gwbl mewn unrhyw amgylchiadau am golled uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol (mae pob un o'r tri therm hyn yn cynnwys colled economaidd lwyr, colled elw (pa un a yw hynny'n golled uniongyrchol neu'n anuniongyrchol), colled busnes, lleihad ewyllys da ac unrhyw golled debyg) sut bynnag y'u hachoswyd, sy'n codi o ddefnyddio'r Safle, neu ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Safle.
7.3 Bydd GC yn atebol i chi am niwed personol a/ neu farwolaeth sy'n digwydd o ganlyniad i esgeulustod neu dwyll GC. Bydd GC hefyd yn atebol i chi am unrhyw fater na all ei eithrio'n gyfreithiol.
8. Monitro
8.1 Bydd GC yn monitro defnydd y Safle, yn cynnwys gwybodaeth a roddir gan ddefnyddwyr cofrestredig yr E-Bortffolio. Caniateir i chi gadw gwybodaeth yn y Safle sy'n ymwneud â datblygiad personol a datblygiad gyrfa gan ddefnyddwyr cofrestredig yn unig. Mae'r hawl gan GC waredu unrhyw wybodaeth sy'n anaddas ar unrhyw adeg.
8.2 Er gwaethaf hawl GC i fonitro a gwaredu gwybodaeth o'r Safle y sonnir amdano yng nghymal 8.1, nid yw GC yn atebol am unrhyw ddeunyddiau a gynhyrchir gan ddefnyddwyr cofrestredig y Safle, ac ni fydd yn atebol o gwbl am gynnwys y deunyddiau hyn. Mae deunyddiau sydd wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddwyr cofrestredig y Safle yn gwbl gyfrifol am y deunyddiau hynny.
9. Preifatrwydd
Gellir gweld polisi preifatrwydd GC wrth glicio ar y cyswllt isod. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ffurfio rhan o'r telerau ac amodau yma. Darllenwch y polisi preifatrwydd.
10. Cwcis
Gellir gweld polisi cwcis Gyrfa Cymru drwy glicio'r ddolen isod. Mae'r polisi cwcis yn rhan o'r telerau ac amodau hyn. Darllenwch y polisi cwcis.
11. Cytundeb Cyflawn
Mae'r telerau ac amodau hyn a'r polisi preifatrwydd y cyfeirir ato yng nghymal 9 yn cynnwys yr holl delerau ac amodau rydych chi a GC wedi cytuno arnynt o ran defnydd a mynediad i'r Safle.
12. Awdurdodi a derbyn y telerau ac amodau hyn
12.1 Rheolir a gweithredir y Safle gan GC o Gymru. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw anghydfod mewn perthynas â'r deunyddiau sydd wedi'u cynnwys yn y Safle yn cael eu rheoli dan gyfraith Lloegr fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod llwyr i ddatrys unrhyw anghydfod a allai godi mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn neu ddefnyddio'r Safle
12.2 Mae'ch defnydd parhaus o'r Safle yn dangos eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn.