Darperir y peiriant mynediad cyhoeddus hwn ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud â chwilio am waith a phori rhyngrwyd cyffredinol. Cyfyngir defnydd o'r peiriant hwn i ddwy awr y sesiwn. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, mae croeso i chi siarad ag aelod o staff.
Telerau defnyddio:
- Er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol, gwnewch yn siŵr eich bod yn allgofnodi ac yn cau pob sesiwn bori cyn gadael y peiriant
- Bydd unrhyw waith neu ddogfennau sy'n cael eu cadw yn y ffolder leol yn cael eu dileu'n awtomatig pan fyddwch yn allgofnodi. Rydym yn argymell eich bod yn arbed eich gwaith i ddyfais storio allanol neu wasanaeth cwmwl
- Nid yw'r sefydliad yn gyfrifol am unrhyw golled o ddata neu wybodaeth bersonol a adawyd ar y peiriant
- Cynghorir defnyddwyr i fod yn ofalus wrth fewnbynnu gwybodaeth bersonol ac i osgoi cynnal trafodion sensitif ar beiriannau cyhoeddus
- Gall y sefydliad fonitro'r peiriant hwn i sicrhau bod defnyddwyr yn dilyn ein polisi defnydd derbyniol
Trwy ddefnyddio'r peiriant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen, deall, ac yn cytuno i ddilyn y telerau defnyddio.
Gellir cysylltu â Desg Gymorth TGCh Gyrfa Cymru ar: 02920 84 6799.