Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Amgylchedd

Mae Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cydnabod bod ei ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau yn cael effaith bositif a negyddol ar yr amgylchedd ac mae’n awyddus i reoli a lleihau’r rhain pan fo’n bosibl.

Adroddiad amgylcheddol

Ategir ein strategaeth amgylcheddol gan ddeddfwriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru. Er mwyn ein helpu ni i gyflawni’r nod hwn rydyn ni wedi dechrau defnyddio Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sy’n cael ei archwilio’n annibynnol. Ceir manylion ein hegwyddorion trosfwaol yn ein polisi amgylcheddol ac maen nhw’n cael eu defnyddio a’u monitro drwy ddefnyddio system reoli amgylcheddol.

Sut rydyn ni'n rheoli'r busnes

Nod CCDG yw ceisio gwella’r broses rydyn ni’n ei defnyddio i reoli ein heffaith amgylcheddol yn barhaol. Rydyn ni wedi sefydlu dau bwyllgor sy’n goruchwylio’r gofynion monitro ac adrodd yn ein strwythur llywodraethol. Mae’r Tîm Gwyrdd yn gyfrifol am sicrhau bod archwilio a chynhyrchu’r data monitro’n cael ei oruchwylio ac maen nhw’n adrodd yn uniongyrchol i’r Uwch Dîm Rheoli. Pwyllgor Lles Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol ar gyfer yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

Perfformiad amgylcheddol

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon mae ein strategaeth stadau wedi datblygu sydd wedi arwain at gau ac adleoli nifer o swyddfeydd. Mae data CO2 yr amgylchedd wedi cael ei gasglu o 26 swyddfa sydd o dan ein llwyr reolaeth ac rydyn ni’n derbyn anfonebau’n uniongyrchol gan y cyflenwr ynni. Rydyn ni wedi cynnwys data o swyddfa Port Talbot a gaeodd yn ystod y flwyddyn.

Tabl yn dangos ein perfformiad amgylcheddol:
  2016-2017 2017-2018 2018-2019
Dŵr (Litrau) 2,897,000 2,901,000 2,764,000
Milltiroedd Busnes 846,956 789,422 890,964
Khw o Drydan 922,977 812,168 662,257
Khw o Nwy 1,740,895 1,750,295 1,620,897
Tabl yn dangos ein costau ariannol mewn punnoedd (£):
  2016-2017 2017-2018 2018-2019
Nwy 29,722 30,352 31,662
Trydan 109,109 101,731 116,086
Dŵr 16,288 16,053 13,913

Llwyddon ni i ragori ar ein targedau llynedd. Bu i ni gyflawni:

  • 12% o ostyngiad yn ein hallyriadau o 870 tunnell i 765 tunnell
  • Lefel 4 y ddraig werdd ar gyfer yr holl gwmni

Ein polisi drwy gydol y flwyddyn oedd buddsoddi mewn dau adeilad sy’n eiddo i ni er mwyn sicrhau eu bod nhw mor effeithlon â phosibl. Rydyn ni wedi buddsoddi mewn golau newydd, boeleri sy’n effeithlon o ran ynni a dyfeisiau sy’n arbed dŵr ac rydyn ni hefyd wedi adolygu ein hisadeiledd TG. Byddwn ni’n buddsoddi mewn dau adeilad arall sy’n eiddo i ni yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Oherwydd newidiadau i’r strwythur staffio bu cynnydd sylweddol yn y milltiroedd busnes. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf mae’n annhebygol y bydd gostyngiad yng nghyfanswm y milltiroedd busnes gaiff eu teithio neu faint o ynni gaiff ei ddefnyddio. Felly, yn adroddiad blwyddyn nesaf byddwn ni’n parhau i fesur cyfanswm yr allyriadau CO2 ond bydd ein cymaryddion yn seiliedig ar allyriadau CO2 fesul aelod staff.

Er mwyn cwrdd â’n hamcanion o fewn gofynion Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol rydyn ni’n rhoi mwy o bwyslais ar fioamrywiaeth, a bydd cynllun bioamrywiaeth gan bob swyddfa.


Polisi Amgylcheddol

Darllenwch ein polisi amgylcheddol.

Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Polisi Cyflogaeth Foesegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..