Ein Polisi Amgylcheddol
Mae Gyrfa Cymru Careers Wales yn cydnabod ei fod, fel darparwr gwasanaethau gyrfa, cyngor a chyfarwyddyd i bob oedran (gan gynnwys lleoliadau i gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg i bobl ifanc) ac fel hwylusydd cysylltiadau busnes yng Nghymru, yn cael effaith ar yr amgylchedd.
Byddwn yn gosod amcanion i ymgymryd â chymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel a byddwn yn defnyddio ein hadnoddau yn effeithlon ac yn gymesur, gan gynnwys ystyried yr effaith a gawn ar newid yn yr hinsawdd a'r angen i ddiogelu'r Amgylchedd i'n helpu i gyrraedd sero net erbyn 2030.
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol corfforaethol a byddwn yn cyflawni'r rhain trwy leihau ein hôl troed amgylcheddol ac yn diogelu'r amgylchedd, yn dileu unrhyw ffynonellau llygredd, ac yn gweithio i leihau unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd yn y ffordd rydym ni’n gweithredu. Bydd ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ymgorffori mwy o amcanion hirdymor i gyfrannu at ffyniant hirdymor Cymru. Mae gan uwch-reolwyr atebolrwydd cyffredinol am ein perfformiad mewn perthynas â’r amgylchedd ac maen nhw wedi ymrwymo i weithredu'r polisi hwn, a fydd yn gyrru ein Rhaglen Rheoli Amgylcheddol.
Cwmpas
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar weithrediadau'r Cwmni, ac eithrio'r rhai sy'n cael eu rheoli gan drydydd partïon gan gynnwys gweithrediad Gwefan Gyrfa (a gynhelir yn allanol), a bydd yn cael ei gyfathrebu i'r holl staff sy'n gweithio i'r cwmni, Aelodau o'r Bwrdd a Chyflenwyr trwy ein gwefan. Bydd y polisi yn berthnasol i bob swyddfa sydd o dan ein rheolaeth ac yn cefnogi gofynion Safon Lefel 4 yr Amgylchedd y Ddraig Werdd.
Rydym wedi ymrwymo i ymwreiddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy:
- Sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i ddiogelu'r amgylchedd, ac i ddileu pob ffynhonnell llygredd o'n gweithrediadau. Wrth wneud hynny, byddwn yn cydymffurfio'n llawn â'r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a rhwymedigaethau cydymffurfio trwy gynnal cofrestr amgylcheddol. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol a lleihau'r defnydd o ddŵr ac allyriadau trwy ddefnyddio fframwaith datblygu cynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i darged sero net erbyn 2030.
- Lleihau ein hôl troed carbon a gweithredu strategaeth sero net 2030 a thrwy hynny leihau ein heffaith andwyol ar yr amgylchedd yn y ffordd rydym yn gweithredu trwy wneud y canlynol:
- Cynnal adolygiad rheolaidd o'n heffeithiau amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar agweddau effaith uchel fel gwres canolog nwy, rheweiddio ac aerdymheru o leiaf bob blwyddyn a chynhyrchu strategaeth ystadau a sero net trosfwaol a fydd yn cael ei hategu gan gynlluniau ar gyfer pob swyddfa’n unigol yn seiliedig ar wella'r sgôr EPC a lleihau allyriadau yn ogystal â gwell bioamrywiaeth
- Monitro ein defnydd o ynni, dŵr a'n defnydd o ddeunyddiau traul a gosod targedau i leihau'r rhain trwy adolygu effeithlonrwydd y systemau gwresogi
- Darparu hyfforddiant i'r holl staff ar ymwybyddiaeth amgylcheddol ac amcanion sero net lle bo hynny'n briodol
- Llunio cyfarwyddyd ar sut i ddileu a/neu leihau ein gwastraff a gwella ein trefniadau ailgylchu gwastraff i fodloni ein dyletswydd hierarchaeth gwastraff
- Cefnogi staff i ddeall sut i ddefnyddio TGCh i leihau milltiroedd busnes a pharhau i annog rhannu ceir ar gyfer teithio busnes a hyrwyddo beicio i'r gwaith yn ogystal â gweithio gartref
- Gosod targedau blynyddol i leihau teithio busnes a sicrhau bod gwybodaeth ar gael am argaeledd ac addasrwydd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- Ceisio gwella perfformiad amgylcheddol trwy weithredu Rhaglen Rheoli Amgylcheddol strwythuredig i fonitro ac adolygu ein perfformiad
- Codi ymwybyddiaeth staff, annog eu cyfranogiad mewn materion amgylcheddol a cheisio datblygu syniadau a mentrau newydd ar y cyd, gan gynnwys cynhyrchu cod eco ar gyfer y cwmni cyfan a fydd yn ystyried unrhyw arferion gwaith newydd.
- Sicrhau bod ein Polisi Amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd a chyhoeddi adroddiad perfformiad blynyddol.
Adolygu
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu yn flynyddol neu'n gynt os oes unrhyw newidiadau sylweddol i weithgareddau busnes neu weithrediadau'r Cwmni.
EM001 Argraffiad 14
Cymeradwywyd gan y Prif Weithredwr Nikki Lawrence Awst 2026