Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod Llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023.
Aelodau'r Bwrdd yn bresennol:
- Aled Jones-Griffith
- Andrew Clark
- Dave Mathews
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Helen White
- James Harvey
- Joni Ayn-Alexander
- Kate Daubney
- Neil Coughlan
- Toni McLelland
- Tony Smith
- Richard Thomas
Llywodraeth Cymru:
Sinead Gallagher
Yn cynrychioli Gyrfa Cymru:
- Nerys Bourne
- Nikki Lawrence
- Ruth Ryder
Cyfranogwyr:
Simon Pirotte, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru
Yn absennol:
- Sam Evans
- Dave Hagendyk
1. Datganiadau o fuddiant
Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol, 6 Gorffennaf 2023
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
3. Materion yn codi
3.1 Adroddiad y Prif Weithredwr – Naratif Dangosydd Perfformiad Allweddol (Cofnod 3.3)
Roedd ffigyrau o flwyddyn i flwyddyn bellach wedi'u cynnwys yn yr adroddiad felly caewyd y cam gweithredu.
3.2 Adroddiad Diogelu (Cofnod 3.4)
Roedd adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Perfformiad ac Effaith y Bwrdd felly caewyd y cam gweithredu.
3.3 Adroddiad y Prif Weithredwr – Ymestyn Gwahoddiad i’r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg (Cofnod 5)
Roedd yr holl aelodau wedi'u gwahodd i eitem gyntaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Caewyd y cam gweithredu felly.
3.4 Gwerthusiad/Elw ar Fuddsoddiad – Rhestr Termau (Cofnod 7)
Caewyd y cam gweithredu gan fod rhestr termau’r cwmni wedi'i dosbarthu.
3.5 Adolygu Strwythur y Pwyllgorau (Cofnod 10)
Roedd cadeiryddion is-bwyllgorau'n parhau i adolygu'r cylch gorchwyl felly cariwyd yr eitem drosodd i'r cyfarfod nesaf. Yna byddai cyfarfod gyda Chadeirydd y Bwrdd, y Prif Weithredwr a chadeiryddion yr is-bwyllgorau yn cael ei drefnu.
Cam gweithredu1: Cadeiryddion yr is-bwyllgorau i gwblhau'r cylch gorchwyl drafft.
Cam gweithredu 2: Cyfarfod i'w drefnu i drafod y cylch gorchwyl diwygiedig.
3.6 Adborth o Gyfarfod y Bwrdd (Cofnod 13.1)
Byddai'r eitem ynghylch defnyddio technoleg ryngweithiol ar gyfer cyfarfodydd rhithwir yn cael ei chario drosodd i'r cyfarfod nesaf.
Cam gweithredu 3: Cadeirydd i adolygu technoleg ryngweithiol i gefnogi trafodaethau bwrdd.
3.7 Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Microsoft Teams (Cofnod 13.2
Nodwyd y byddai Microsoft Teams yn cefnogi cyfieithu ar y pryd ac y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y cyfarfod rhithwir nesaf.
4. Y newyddion diweddaraf gan y cadeirydd – llafar
4.1 Trafodaethau ar y Gyllideb
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i'r aelodau ar sawl cyfarfod a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru. Trafodwyd natur anochel toriadau ariannol i gyllideb Gyrfa Cymru, ond roedd gwerth Gyrfa Cymru i bobl ifanc a’r economi wedi’i nodi drwy’r trafodaethau hyn, yn ogystal â’i chyfraniad at bolisïau allweddol a chyhoeddiadau diweddar.
4.2 Adolygiadau Perfformiad Aelodau'r Bwrdd
Nodwyd bod yr adolygiadau bron wedi'u cwblhau gyda nifer fach eto i’w cwblhau.
4.3 Recriwtio i’r Bwrdd
Dywedodd y Cadeirydd fod yr ymgyrch recriwtio ar gyfer aelodau bwrdd newydd bellach yn fyw. Roedd dull newydd yn cael ei fabwysiadu i ddenu ystod mor amrywiol o geisiadau â phosibl.
Gofynnwyd i'r aelodau rannu ar draws eu rhwydweithiau.
Cam gweithredu 4: Holl aelodau'r Bwrdd i hyrwyddo'r cyfleoedd recriwtio ar gyfer aelodau newydd.
5. Adroddiad y prif weithredwr
Trafododd yr aelodau yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol gyda rhai eitemau'n cael eu hamlygu.
5.1 Risgiau Allweddol i'r Cwmni
Nododd yr aelodau'r prif risgiau i'r cwmni. Dywedodd y Prif Weithredwr fod geiriad y risg yn ymwneud â sefyllfa ariannol y cwmni a’r effaith bosibl yn cael ei ddiweddaru ar sail dreigl.
5.2 Codiad Cyflog 2023/24
Nododd yr aelodau y cytunwyd ar y codiad cyflog ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Nodwyd bod y codiad a roddwyd yn debyg ond nid yn union yr un fath â'r un a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Trafodwyd risg ynghylch y sefyllfa hon dros y blynyddoedd i ddod yn erbyn hinsawdd ariannol heriol.
5.3 Cyfarfod Holl Staff
Nododd yr aelodau fod cyfarfod i’r holl staff wedi'i gynnal i egluro gohirio'r sesiynau cynllunio busnes blynyddol.
5.4 Cynnydd Sero Net
Nododd yr aelodau y cynnydd a’r cynlluniau i wella sefyllfa’r cwmni. Rhybuddiodd yr aelodau, o ystyried y sefyllfa ariannol debygol, y byddai camau gweithredu yn y cynllun sero net yn cael eu hadolygu i sicrhau fforddiadwyedd.
Cam gweithredu 5: Cynllun gweithredu sero net i'w adolygu yn erbyn blaenoriaethau eraill y cwmni o ystyried yr hinsawdd ariannol heriol.
6. Diweddariad Llywodraeth Cymru
6.1 Sefyllfa'r Gyllideb
Clywodd yr aelodau fod dyraniadau cyllideb trosfwaol y Prif Grwpiau Gwariant wedi’u pennu ond bod penderfyniadau i’w gwneud o hyd yn y Prif Grwpiau Gwariant unigol. Nodwyd bod cyllideb Gyrfa Cymru wedi'i chyfuno â'r holl weithgarwch cyflogadwyedd. Cydnabuwyd yr her sy'n wynebu'r cwmni.
Diolchwyd i'r weithrediaeth a'r tîm uwch-reolwyr am eu hymgysylltiad a'u hymatebolrwydd gyda cheisiadau byr rybudd am ragor o wybodaeth.
Y brif neges i'r Bwrdd oedd mai senario tymor hwy oedd yr her ar draws y sector cyhoeddus cyfan. Dylid canolbwyntio felly ar y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau a fydd yn cael yr effaith fwyaf a sicrhau aliniad â’r cenhadaeth graidd.
6.2 Datganiad o Flaenoriaethau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Nodwyd bod cyhoeddi'r datganiad wedi'i ohirio tan y flwyddyn newydd.
6.3 Lansio Cenhadaeth Economaidd
Nodwyd y lansiad, a chytunwyd y byddai diweddariad ar weithrediad y cynllun gweithredu yn dod gerbron y cyfarfod nesaf.
Cam gweithredu 6: Y newyddion diweddaraf ar gynllun gweithredu’r genhadaeth economaidd i ddod gerbron y Bwrdd nesaf.
7. Comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil cymru
Ymunodd Prif Swyddog Gweithredol y comisiwn newydd â chyfarfod y Bwrdd. Cafodd yr aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am ffocws presennol gwaith y comisiwn. Adnabuwyd mai sicrhau cyfnod pontio esmwyth o’r trefniadau presennol a gosod y sylfeini ar gyfer gwaith y comisiwn oedd y blaenoriaethau cychwynnol.
Amlygwyd yr aliniad amlwg rhwng y comisiwn a gwaith Gyrfa Cymru, ynghyd â ffocws ar weithio mewn ffordd gydweithredol ystyrlon. Amlygwyd pwysigrwydd data fel sail i benderfyniadau gwybodus, a thynnwyd sylw at adroddiad dichonoldeb y ganolfan ddata fel opsiwn posibl ar gyfer hyn.
Nodwyd bod dogfennau ymgynghori cynnar yn amlygu nod i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd i holl ddysgwyr Blwyddyn 11 yng Nghymru, a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai hyn yn cael ei wanhau yn y blaenoriaethau a roddwyd i’r comisiwn. Amlygwyd pwysigrwydd y cyngor annibynnol diduedd a ddarperir gan Gyrfa Cymru gyda rôl y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil gan y Bwrdd. Trafodwyd pwysigrwydd ffocws parhaus ar wydnwch ac iechyd meddwl pobl ifanc, ynghyd â gwaith posibl y comisiynau mewn perthynas â niwroamrywiaeth.
Cytunodd y Prif Weithredwyr i gyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod perthynas gadarn yn cael ei sefydlu.
Cam gweithredu 7: Prif Swyddogion Gweithredol i drefnu cyfarfodydd rheolaidd.
8. Cyfrifon rheoli
Nododd yr aelodau y cyfrifon rheoli.
9. Adroddiad perfformiad chwarterol
Trafodwyd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol gydag agweddau allweddol wedi’u hamlygu.
10. Diweddariad ar sefyllfa cyllideb 2024/25
Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad i'r aelodau ar y trafodaethau parhaus o ran y gyllideb. Nodwyd y diffyg sylweddol yn y gyllideb a amlygwyd gan Lywodraeth Cymru ac felly yr effaith debygol ar gyllideb y cwmni.
Byddai'r cwmni yn gweld gostyngiad yn ei gyllideb, ond nid oedd y ganran wedi'i chadarnhau eto. Roedd yr aelodau'n bryderus ynghylch yr effaith ar allu'r cwmni i ddarparu ei wasanaethau craidd yn erbyn ei strategaeth Dyfodol Disglair gyfredol, ac yn benodol yr effaith bosibl ar y cynnig i fyfyrwyr Blwyddyn 8/9. Roedd y drafodaeth yn cynnwys yr angen i ddefnyddio unrhyw newid fel cyfle i ail-lunio’r model gwasanaeth posibl yn strategol, ac archwilio’n llawn y defnydd o gynnig digidol/cyfunol, wrth gydnabod y broblem o dlodi digidol mewn rhai ardaloedd. Cododd y Bwrdd bryderon hefyd am y gyllideb ar gyfer dyfarniad cyflog teg. Roedd y weithrediaeth a'r tîm uwch-reolwyr yn parhau i weithio'n agos gyda'u tîm noddi i adolygu'r effaith bosibl, gyda'r bwriad o ddiogelu’r gwasanaethau a gynigir i gwsmeriaid.
10.1 Risg a Rheoli Newid
Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynghylch y ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin â'r newid sylweddol a ddaeth yn sgil y gostyngiad anochel mewn cyllid.
Y consensws oedd bod y cwmni’n canolbwyntio ar adeiladu ei wasanaeth a chanolbwyntio ar gyd-greu i gynnwys yr holl staff, a chwsmeriaid, gan ymgysylltu’n weithredol â rhanddeiliaid hefyd i egluro unrhyw newidiadau. Nodwyd bod y proffesiwn cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn newid, a bod hwn hefyd yn gyfle i'r cwmni ailddychmygu sut y gallai gynnig ei gyngor a'i gyfarwyddyd proffesiynol ac annibynnol.
Amlygwyd pwysigrwydd rheoli disgwyliadau ynghylch yr hyn y gellid ei gyflawni.
Gofynnodd y Bwrdd am gael gwybod am drafodaethau o ran y gyllideb wrth iddynt symud ymlaen i sicrhau cysondeb y neges.
Cam gweithredu 8: Y Prif Swyddog Gweithredol a'r Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau pan fydd diweddariadau allweddol yn digwydd.
11. Ymgysylltu â chyflogwyr
Cafodd yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaeth ‘cyfarfod bord gron’ ddiweddar a gynhaliwyd gyda Gweinidog yr Economi, Gyrfa Cymru, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, addysgwyr a chyflogwyr. Nodwyd mai hwn oedd y cyntaf o dri chyfarfod rhanbarthol a fyddai'n cael eu cynnal. Canolbwyntiwyd ar sut y gellid gwneud cysylltiadau gwell rhwng ysgolion a cholegau a chyflogwyr.
Ystyriwyd bod profiad gwaith yn darparu rhai o'r atebion. Fodd bynnag, nodwyd bod y galw ar adnoddau ar gyfer y dull hwn o weithredu hyd yn oed yn fwy heriol yn yr hinsawdd ariannol bresennol a rhagweladwy. Awgrymwyd y gallai Gyrfa Cymru weithredu mewn rôl eirioli a churadu, gan ddarparu’r sgaffaldiau i gefnogi profiad gwaith ystyrlon.
12. Diweddariad ar seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth (diweddariad gan yr uwch-berchennog risg gwybodaeth)
Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg yn cael diweddariadau rheolaidd ar y gwaith diogelwch sy'n cael ei wneud gan y cwmni. Mae un o brif risgiau’r cwmni yn parhau i fod yn fygythiad seiberddiogelwch oherwydd bod y bygythiadau a brofir yn soffistigedig ac yn newid yn barhaus.
Mae’r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn hyderus yn ymagwedd y cwmni a chanmolodd y tîm TGCh ar y gwaith y mae’n ei wneud i gadw’r cwmni yn ddiogel.
13. Cyfarfodydd Pwyllgorau’R Bwrdd
13.1 Y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg
Nodwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf, gyda'r Cadeirydd yn amlygu elfennau allweddol o'r trafodaethau.
13.2 Y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith
Nodwyd cofnodion drafft y cyfarfod.
Cytunwyd, o ystyried natur gwaith y cwmni, y byddai rôl Diogelu Bwrdd yn ddefnyddiol. Nodwyd bod hon yn rôl sy'n bodoli ar fyrddau eraill a chytunwyd y byddai disgrifyddion rôl yn cael eu rhannu.
Cam gweithredu 9: Cadeirydd i dderbyn disgrifydd a'i rannu gyda'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith er mwyn iddynt enwebu arweinydd.
13.3 Y Pwyllgor Materion Pobl
Nid oedd cofnodion ar gael eto gan mai dim ond yn ystod y dyddiau gwaith diwethaf y cynhaliwyd y cyfarfod. Amlinellodd y Cadeirydd y prif bwyntiau i’w trafod i'r aelodau.
14. Unrhyw fater arall
14.1 Dosbarthu Cofnodion
Cytunwyd y dylid dosbarthu cofnodion y cyfarfodydd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarfod gael ei gynnal.
Cam gweithredu 10: Cofnodion i'w dosbarthu cyn gynted â phosibl yn dilyn cyfarfodydd.
14.2 Cyfarfodydd yn y Dyfodol
Cytunwyd bod cyfuniad o gyfarfodydd rhithwir a chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn briodol, gyda chyfarfodydd diwrnod o hyd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb.
14.3 Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
Cadarnhawyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn rhithwir ar ddydd Mercher 6 Mawrth.
Cofnod Camau Gweithredu
Tabl yn dangos y log gweithredu
Cam gweithredu | Arweinydd | Diweddariad i'w ddarparu |
Cam gweithredu 1, Cadeiryddion yr is-bwyllgorau i gwblhau'r cylch gorchwyl drafft. | AC/DH/TS | 31/01/24 |
Cam gweithredu 2, Cyfarfod i'w drefnu i drafod y cylch gorchwyl diwygiedig. | EC | 21/02/24 |
Cam gweithredu 3, Cadeirydd i adolygu technoleg ryngweithiol i gefnogi trafodaethau bwrdd. | EC | 06/03/24 |
Cam gweithredu 4, Holl aelodau'r Bwrdd i hyrwyddo'r cyfleoedd recriwtio ar gyfer aelodau newydd. | All | 31/12/23 |
Cam gweithredu 5, Cynllun gweithredu sero net i'w adolygu yn erbyn blaenoriaethau eraill y cwmni o ystyried yr hinsawdd ariannol heriol. | NL | 31/03/24 |
Cam gweithredu 6, Y newyddion diweddaraf ar gynllun gweithredu’r genhadaeth economaidd i ddod gerbron y Bwrdd nesaf. | SG | 06/03/24 |
Cam gweithredu 7, Prif Swyddogion Gweithredol (Career Choices Dewis Gyrfa a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) i drefnu cyfarfodydd rheolaidd. | NL | 31/01/24 |
Cam gweithredu 8, Y Prif Swyddog Gweithredol a'r Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau pan fydd diweddariadau allweddol ar y gyllideb yn digwydd. | NL/EC | 31/03/24 |
Cam gweithredu 9, Cadeirydd i dderbyn disgrifydd o’r rôl diogelu a'i rannu â'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith ar gyfer enwebiad. | EC/AJ-G | 31/01/24 |
Cam gweithredu 10, Cofnodion i'w dosbarthu cyn gynted â phosibl yn dilyn cyfarfodydd. | NL/NB/RR | 15/01/24 |
Ni chofnodwyd unrhyw camau gweithredu pellach | Ni chofnodwyd unrhyw camau gweithredu pellach | Ni chofnodwyd unrhyw camau gweithredu pellach |