Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2024.
Aelodau'r Bwrdd yn bresennol
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Andrew Clark
- Helen White
- James Harvey
- Joni Ayn-Alexander
- Kate Daubney
- Tony Smith
- Azza Ali
- Rokib Uddin
- Natalie Richards
O Gyrfa Cymru
- Nerys Bourne
- Nikki Lawrence (Prif Weithredydd- PW)
- Ruth Ryder
Llywodraeth Cymru
- Neil Surman
- Sam Evans
Sylwedydd
- Olusola Okhiria (Rhan o raglen cysgodi bwrdd unedau cyrff cyhoeddus)
Absennol
- Aled Jones-Griffith
- Dave Mathews
- Rhian Roberts (Aelod Cyfetholedig)
- Richard Thomas
Ysgrifenyddiaeth
Donna Millward
1. Ymddiheuriadau/datganiadau o ddiddordeb
Cafwyd ymddiheuriadau gan Aled Jones-Griffith, Dave Mathews, Rhian Roberts a Richard Thomas.
Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau newydd o ddiddordeb. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y gwrthdaro rhwng Andrew Clark ynghylch ei rôl gydag Archwilio Cymru wedi dod i ben.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol, 6 Mawrth 2024
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
3. Materion yn codi
Cam gweithredu 1. Angen diweddariad ar welliant parhaus. Bydd hyn yn rhan o'r agenda ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr. Felly mae'r cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam gweithredu 2. Diweddariad ar strwythur y gyfarwyddiaeth. Neil Surman i fynd i'r afael ag ef fel rhan o ddiweddariad Llywodraeth Cymru. Felly mae'r cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam gweithredu 3. Y Prif Weithredydd i ailedrych ar y geiriad yn y datganiad ariannol statudol ynghylch datblygu ariannol a TG. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam gweithredu 4. Donna Millward i e-bostio ffurflen datgan diddordeb i aelodau'r Bwrdd. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam gweithredu 5. Newid DH i Deidre Hughes yng nghofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam gweithredu 6. RR i ddosbarthu safonau chwythu'r chwiban i aelodau'r Bwrdd. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
4. Diweddariad y Cadeirydd – ar lafar
Aelodau newydd o'r Bwrdd
Croesawodd y Cadeirydd aelodau newydd a Neil Surman (LlC) i'r Bwrdd a diolchodd i aelodau presennol y bwrdd am gynorthwyo i gynefino'r tîm newydd.
Aelodaeth y Bwrdd
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad yn tynnu sylw at y ffaith bod TS ac AC wedi cael eu hailbenodi gan ysgrifennydd y cabinet am dair blynedd arall. Mae DH wedi ymddiswyddo o'r Bwrdd a bydd y Cadeirydd yn mynd ati yn awr i benodi cadeirydd newydd i’r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith.
Newidiadau yn Llywodraeth Cymru
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y newidiadau allweddol yn Llywodraeth Cymru yn dilyn yr ad-drefnu diweddar. Trafododd yr Aelodau oblygiadau posibl newidiadau'r DU i Gymru.
Ymarfer VERs
Diolchodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor Gwaith a'r uwch dîm rheoli ehangach gan gydnabod faint o waith a gwblhawyd o fewn amserlenni heriol. Canmolwyd y dull a gymerwyd gan y tîm hefyd.
5. Adroddiad Y Prif Weithredydd
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol.
Risgiau Cwmni Allweddol
Nododd yr Aelodau y pedwar prif risg.
Dyfarniad Cyflog 2024/25
Eglurodd y Prif Weithredydd fod Unsain wedi cyflwyno cais am ddyfarniad cyflog sydd bellach wedi'i gytuno. Fel rhan o'r negodi, cytunwyd i gyfarfod eto ym mis Hydref i adolygu sefyllfa ariannol y cwmni.
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Rhoddodd y Prif Weithredydd ddiweddariad ar amrywiol ymrwymiadau rhanddeiliaid ychwanegol, mynychodd gyfarfod gyda Bute Energy yn y Senedd a oedd yn lansio eu strategaeth sgiliau gwyrdd.
Roedd NL a NB wedi mynychu cyfarfodydd dilynol gyda Medr. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod Medr yn gweld Gyrfa Cymru fel rhanddeiliaid allweddol. Mae Medr yn gweithio ar eu cynllun strategol gyda drafft i’w gyhoeddi ar gyfer ymgynghori tua mis Hydref.
Datblygu Arweinyddiaeth a Rheoli
Siaradodd y Prif Weithredydd am y datblygiad arfaethedig ar gyfer rheolwyr Band 7 a Band 6.
Dywedodd y Prif Weithredydd hefyd fod cynghorydd gyrfaoedd wedi ennill y Wobr am y Cynghorydd Gyrfaoedd gorau mewn seremoni wobrwyo ddiweddar gan CDI (UK).
Digidol a Chyfathrebu
Nododd yr Aelodau ddatblygiadau allweddol i’r wefan ar gyfer y flwyddyn i ddod, a'r gwaith yn ymwneud â datblygu Crefft Gyrfaoedd gyda Croeso Cymru.
Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi lansio cyfleuster archebu ar-lein drwy'r wefan a oedd yn gweithio'n dda.
Diweddariad Carbon Sero Net
Rhoddwyd diweddariad ar y trafodaethau ynghylch sero-net yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Trafododd yr Aelodau allu'r cwmni i barhau i weithio tuag at gyflawni sefyllfa garbon niwtral yn erbyn blaenoriaethau strategol eraill a'r ymdrech sydd ei hangen i wneud y ddau, yn erbyn cyd-destun ariannol heriol.
Cytunwyd y byddai'r mater penodol hwn yn cael ei drafod yn fanwl gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg a byddai trafodaeth fwy strategol yn cael ei chyflwyno i gyfarfod bwrdd llawn yn y dyfodol.
Cam gweithredu 1: Cynnydd sero net a strategaeth adeiladau i'w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
Cam gweithredu 2: Blaenoriaethu strategol o ran sero net carbon i'w ddwyn yn ôl i gyfarfod bwrdd yn y dyfodol.
6. Diweddariad Llywodraeth Cymru
Strwythur y sefydliad
Cafodd yr aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am strwythur y sefydliad o fewn Llywodraeth Cymru.
Diweddariad y Prif Weinidog a'r Cabinet
Darparodd NS ddiweddariad ynghylch ymddiswyddiad diweddar ysgrifennydd cabinet Gyrfa Cymru.
Trafododd aelodau'r Bwrdd yr angen i ymgysylltu a hysbysu’r Ysgrifennydd Cabinet newydd pan gaiff ei benodi, a chytunwyd y byddai Gyrfa Cymru yn paratoi dogfen friffio gan gynnwys effeithiau allweddol a risgiau cyllido y gallai’r Ysgrifennydd Cabinet eu defnyddio mewn trafodaethau cyllidebol hefyd.
Cam gweithredu 3: NL i baratoi dogfen friffio gan gynnwys effeithiau allweddol a risgiau cyllido.
7. Adroddiad Metrigau Blynyddol Datblygu Pobl
Roedd aelodau'r bwrdd wedi derbyn y papur a oedd yn amlygu metrigau allweddol ar draws tri maes datblygu pobl (adnoddau dynol, dysgu a datblygu, ac iechyd a diogelwch). Cafwyd diweddariad hefyd am rai newidiadau a oedd yn digwydd i'r maes busnes hwnnw.
Roedd yr aelodau'n falch o nodi'r metrigau cadarnhaol ar draws y cwmni, gan gynnwys y cynnydd mewn boddhad gweithwyr. Trafodwyd y prif heriau hefyd, a nodwyd y byddai'r rhain yn cael eu codi fel rhan o fusnes y Pwyllgor Materion Pobl.
8. Datblygu Strategaeth Newydd
Cafodd aelodau'r Bwrdd eu diweddaru ar y dull o ddatblygu'r strategaeth newydd, a nodwyd y papurau a ddosbarthwyd yn flaenorol a oedd yn cynnwys allbynnau ymgynghoriad cychwynnol gyda staff, a chydag aelodau'r bwrdd.
Trafododd y Bwrdd flaenoriaethau a heriau cychwynnol i'r cwmni. Cytunwyd y byddai'r Prif Swyddog Gweithredol yn ystyried hyn wrth gynllunio cam nesaf ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu strategaeth. Byddai rhagor o ddiweddariadau i'r Bwrdd yn cael eu darparu yng nghyfarfodydd dilynol y Bwrdd.
9. Cynllun Gweithredol
Amlygodd NB bwyntiau allweddol y cynllun gweithredol ar gyfer y flwyddyn. Trafododd yr aelodau y newid dull mewn ymateb i ostyngiadau yn y gyllideb.
Gwasanaethau i bobl ifanc mewn ysgolion
Atgoffwyd yr aelodau o'r cynnig diwygiedig fel cyfweliad cyfarwyddyd gwarantedig ar gyfer pob dysgwr cyn gadael addysg orfodol. Nodwyd cynnydd yn y gefnogaeth i Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac y byddem yn dechrau gweithio gyda nhw ym Mlwyddyn 10. Bydd y model deuol ar gyfer darparu ADY yn parhau wrth i ni nesáu at y flwyddyn olaf cyn cyflwyno'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET) yn llawn.
Trafododd yr aelodau y dull mewn AB fel cynnig digidol yn unig, ac eithrio ar gyfer y bobl ifanc hynny ag ADY neu gefnogaeth ychwanegol. Byddai gwerthusiad yn cael ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn i nodi effaith y dull hwn, ac i gael dealltwriaeth bellach o'r galw am gymorth Gyrfa Cymru mewn colegau AB a'r sianel a ffefrir ar gyfer y myfyrwyr hynny.
Gwasanaethau Rhanddeiliaid
Clywodd yr Aelodau na fydd Wythnosau Darganfod Gyrfaoedd a Digwyddiadau Dewis Eich Dyfodol yn cael eu cyflwyno mwyach. Bydd y digwyddiadau 'Beth nesaf' ar gyfer disgyblion ADY, a'r Gymraeg yn y Gweithle yn parhau i gael eu datblygu a'u cyflwyno. Bydd ysgolion yn parhau i gael cynnig pum digwyddiad pwrpasol i bob ysgol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo'n dda i ddatblygu cyfres o heriau sy'n ymwneud â'r cwricwlwm. Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i ddarparu adnoddau, dysgu proffesiynol a chyflwyno dyfarniad ansawdd ymhellach.
Cymru'n Gweithio
Clywodd yr aelodau y byddai Cymru’n Gweithio yn parhau gyda chefnogaeth bontio i bobl ifanc sy'n ymuno â'r Farchnad Lafur, yn parhau i gefnogi pobl ifanc yn Haen 3, y rhai yn y carchar ac yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Clywodd yr aelodau hefyd fod cymorth cyflogadwyedd yn cael ei ddarparu drwy ddull Un Tîm. Bydd hyn yn golygu y gall cwsmeriaid gael mynediad at gymorth cyflogadwyedd drwy wasanaethau Connect Gyrfa Cymru, yn ogystal â hyfforddwyr cyflogadwyedd sy'n gweithio yn y ganolfan.
10. Adroddiad Chwarterol
Rhoddodd NB ddiweddariadau allweddol ar gyflawniadau Ch1. Derbyniodd yr aelodau gopi o'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol fel rhan o adroddiad y Prif Weithredwr, felly nodwyd y cynnydd hwn. Nododd yr aelodau fod un o'r dangosyddion cychwynnol yn ddiangen bellach o ystyried y newid mewn dull gwasanaeth. Awgrymwyd bod y rhain yn parhau i gael eu cynnwys i ddangos bod cynnydd yn cael ei wneud cyn i heriau ariannol olygu bod angen newid dull.
Diolchodd aelodau'r Bwrdd i dîm Gyrfa Cymru am gyflawni yn erbyn y dangosyddion er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol.
Mynegodd y Cadeirydd ddiddordeb mewn trefnu ymweliad swyddfa arall ar gyfer aelodau'r bwrdd a derbyn rhestr o ddigwyddiadau Gyrfa Cymru sy’n cael eu cynnal/mynychu.
Cam gweithredu 4: EC i gynnal ymweliad swyddfa i gyflwyno aelodau newydd o'r bwrdd i staff Gyrfa Cymru. DM i gefnogi gyda dyddiadau.
Cam gweithredu 5: RR i gysylltu ag EB i roi rhestr o ddigwyddiadau Gyrfa Cymru sy’n cael eu cynnal/mynychu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
11. Diweddariad Cyllideb A Chyfrifon Rheoli
Cymeradwyodd y Bwrdd y fersiwn ddiwygiedig o'r gyllideb fel y'i cyflwynwyd. Nodwyd bod diweddariad wedi'i gynhyrchu eleni o ystyried lefel y symudiad yn dilyn yr ymarfer VERs. Nodwyd hefyd ei bod wedi cael ei hystyried a'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
Byddai'r cyfrifon rheoli yn cael eu dosbarthu yn dilyn y cyfarfod. Nodwyd eu bod wedi cael eu hystyried a'u cymeradwyo gan gyfarfod y pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
Cam gweithredu 6: RR i ddosbarthu cyfrifon rheolwyr.
12. Ch1: Pwyllgor Cyllid, Archwilio A Risg – Cofnodion (Drafft) – 26 Mehefin, 2024
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Nodwyd bod y gofrestr risg gyfan wedi'i thrafod.
13. Ch1: Pwyllgor Perfformiad ac Effaith – Cofnodion (drafft) – 7 Mai, 2024
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gydag aelodau'r Bwrdd. Amlinellodd NB a KD bwyntiau allweddol y cyfarfod ar gyfer aelodau.
Diolchwyd i TMcL sydd wedi gadael ei rôl fel aelod o’r Pwyllgor/Bwrdd.
14. Ch1: Pwyllgor Materion Pobl – Cofnodion (drafft) – 12 Mehefin, 2024
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gydag aelodau'r Bwrdd. Amlinellodd y Cadeirydd bwyntiau allweddol y cyfarfod ar gyfer yr aelodau.
15. Pwyllgor Taliadau
Nododd yr Aelodau fod diweddariad wedi'i ddarparu yn ystod Adroddiad y Prif Weithredwr yn gynharach yn y cyfarfod.
16. Unrhyw fusnes arall
Ni nodwyd unrhyw fusnes arall.
Log Gweithredu
- Cam Gweithredu 1. Strategaeth cynnydd ac adeiladau sero net i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Arweinydd RR. Diweddariad i'w ddarparu, 01.10.24
- Cam Gweithredu 2. Blaenoriaethu strategol o ran carbon sero net i'w ddwyn yn ôl i gyfarfod bwrdd yn y dyfodol. Arweinydd NL. Diweddariad i'w ddarparu, 01.10.24
- Cam Gweithredu 3. NL i baratoi dogfen friffio gan gynnwys effeithiau allweddol a risgiau cyllido. Arweinydd NL. Diweddariad i'w ddarparu, 01.10.24
- Cam Gweithredu 4. EC i gynnal ymweliad swyddfa i gyflwyno aelodau newydd o'r bwrdd i staff Gyrfa Cymru. DM i gefnogi gyda dyddiadau. Arweinydd NL. Diweddariad i'w ddarparu, 01.10.24
- Cam Gweithredu 4. EC i gynnal ymweliad swyddfa i gyflwyno aelodau newydd o'r bwrdd i staff Gyrfa Cymru. DM i gefnogi gyda dyddiadau. Arweinydd EC. Diweddariad i'w ddarparu, 01.10.24
- Cam Gweithredu 5. RR i gysylltu ag EB i roi rhestr o ddigwyddiadau Gyrfa Cymru sy’n cael eu cynnal/eu mynychu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Arweinydd RR. Diweddariad i'w ddarparu, 01.10.24
- Cam Gweithredu 6: RR i ddosbarthu papur cyfrifon rheolwyr i aelodau'r Bwrdd. Arweinydd RR. Diweddariad i'w ddarparu, Cyn gynted â phosibl
- Dim camau pellach wedi'u cofnodi.