Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cofnodion Bwrdd CCDG 17 Mehefin 2021

Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021.

Yn bresennol

Taslima Begum
Erica Cassin
Neil Coughlan
Sam Evans
Dave Hagendyk
Liz Harris
Sue Maguire
Dave Matthews
Sue Price
Iwan Prys-Jones
Emma Richards
Tony Smith
Richard Thomas
Helen White
Debra Williams (Cadeirydd)
Annesley Wright

Yn Mynychu

Phil Jones, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Richard Wall - Gyrfa Cymru – eitem 7

O Gyrfa Cymru

Nikki Lawrence
Ruth Ryder

Ymddiheuriadau

Simon Dancey
Shirley Rogers

Ysgrifenyddiaeth

Claire Childs

1. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol – 3 Mawrth 2021

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

Camau i'w cymryd:

  • Trefnu diwrnod Melin Drafod
  • Tudalen Aelodau'r Bwrdd ar y wefan i'w diweddaru

2. Y Newyddion Diweddaraf gan y Cadeirydd

Derbyniodd aelodau'r Bwrdd ddiweddariad ar lafar gan y Cadeirydd. Cyhoeddodd y cadeirydd mai dyma oedd cyfarfod olaf AW ac IPJ a chroesawodd DM, HW a NC i'w cyfarfod cyntaf gan esbonio y byddai Andrew Clark yn ymuno â'r Bwrdd ym mis Awst.

Cyflwynodd yr aelodau newydd eu hunain

Hysbysodd y cadeirydd y bwrdd am ddau aelod cyfetholedig newydd.

Bydd Mary Van Den Heuvel a Ceri Noble yn ymuno â chyfarfod nesaf y Bwrdd.

Derbyniwyd cais ar ran y Gweinidog newydd, Vaughan Gething, i ymweld â Chanolfan Gyrfaoedd fel rhan o lansiad y rhaglen Gwarant i Bobl Ifanc.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog blaenorol, Ken Skates, a fu'n eiriolwr gwych dros Gyrfa Cymru.

Mae adolygiad o strwythurau a chyfrifoldebau pwyllgorau a rolau hyrwyddwyr i'w cynnal. Caiff cyfarfodydd unigol eu trefnu i drafod ag aelodau'r bwrdd.

Mae cyfnod swydd y Cadeirydd i fod i ddod i ben y flwyddyn nesaf, a bydd hysbyseb penodi yn cael ei ddosbarthu'n fuan.

3. Phil Jones (PJ) – Ymddiriedolaeth y Tywysog

Ymunodd PJ â'r cyfarfod i roi trosolwg o Ymddiriedolaeth y Tywysog a'r gwasanaethau a ddarperir ledled y DU.

Copïau o'r cyflwyniad i'w dosbarthu

Gwahoddwyd cwestiynau oddi wrth aelodau’r Bwrdd. Y pwyntiau a drafodwyd oedd y canlynol:

  • Rhwystrau i gyflwyno'r rhaglen Mosaic yng Nghymru. Eglurodd PJ y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r rhwystrau
  • Manteision ac anfanteision y gwasanaeth cyfunol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig
  • Yr anghysondebau o ran cyllid gwahanol wledydd y DU

TB i anfon manylion dolenni i elusen yn ardal Casnewydd/Caerdydd.

Diolchodd y Bwrdd i PJ am gyflwyniad llawn gwybodaeth a gadawodd PJ y cyfarfod.

4. Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch – Richard Wall (RW)

Ymunodd RW â'r cyfarfod i gyflwyno'r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch.

Copi o'r cyflwyniad i'w ddosbarthu ynghyd â manylion cyswllt RW.

Diolchodd y Bwrdd i RW am sesiwn gynhwysfawr cyn iddo adael y cyfarfod.

5. Cyfrifon Diwedd Blwyddyn

Derbyniodd aelodau'r Bwrdd drosolwg o'r Cyfrifon Diwedd Blwyddyn a gyflwynwyd ac a graffwyd arnynt yn flaenorol gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.

Nodwyd mân addasiadau o hyd at £4,000 ers Cyfarfod y Pwyllgor.

Bu'r bwrdd yn trafod y datganiad busnes gweithredol a ystyriwyd yn fanwl gyda'r archwilwyr yn y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.

Diolchodd aelodau'r Bwrdd i'r tîm am berfformiad ariannol cadarn yn ystod blwyddyn gythryblus yn ystod y pandemig.

Dirprwyodd y Bwrdd awdurdod i'r Cadeirydd lofnodi'r cyfrifon yn absenoldeb cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.

Y paragraff, ar dudalen 9 ‘Polisi mewn perthynas â phobl anabl’ i gael ei ailddrafftio i adlewyrchu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Trafodwyd llythyr bond yn y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg, ond nid yw hyn yn rhywbeth y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer Gyrfa Cymru. Mae adroddiad manwl ar fusnes gweithredol Gyrfa Cymru bellach yn cael ei lunio fel rhan o'r prosesau diwedd blwyddyn.

6. Adroddiad y Prif Weithredydd

Diolchodd y Prif Weithredydd i AW ac IPJ am eu cefnogaeth i Gyrfa Cymru.

Diolchodd y Prif Weithredydd i NC am gefnogaeth yn ddiweddar ar fater recriwtio.

Cyflwynodd y Prif Weithredydd adroddiad y Prif Weithredydd ar gyfer Mehefin 2021.

Trafododd aelodau'r Bwrdd gynrychiolaeth mewn Cyfarfodydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP). Y Prif Weithredydd i ddatblygu’r awgrym o gynrychiolydd o'r Bwrdd. Awgrymodd aelodau'r Bwrdd sefydlu is-grŵp i ganolbwyntio ar gysylltiadau i Adnoddau Dynol.

Yn dilyn cwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredydd, o ganlyniad i gau gwasanaethau Activate, fod trafodaethau’n digwydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau gweithio mewn partneriaeth a pheidio â dyblygu gwasanaethau.

Yn dilyn cwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredydd fod cyfarfod wedi'i drefnu gyda Huw Morris i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Gyrfa Cymru.

Yn dilyn cwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredydd y byddai diweddariad ar ddatblygiad y Pwyllgor Pobl Ifanc ar gael yn y cyfarfod nesaf.

7. Cyfarfodydd Pwyllgorau

7.1 Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg

Cyflwynodd IPJ y busnes o gyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg ar 22 Mawrth a 3 Mehefin 2021.

Derbyniodd y pwyllgor chwe adroddiad archwilio, ac roedd gan bump ohonynt sgôr sylweddol. Cafodd yr adroddiad arall ar y Gymraeg, ei gynnwys ym mhapurau cyfarfod y Bwrdd i'w drafod. Roedd argymhellion o'r archwiliad yn cynnwys camau gweithredu gan aelodau'r Bwrdd, i'w trafod yn y dyfodol.

Diolchodd y Cadeirydd i IPJ am y diweddariad ac am gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor ac am gefnogi'r Cwmni.

7.2 Pwyllgor Materion Pobl

Cyflwynodd LH fusnes y Pwyllgor Pobl sy'n Cyfrif ar 13 Mai 2021.

Croesawodd aelodau'r Pwyllgor syniadau gan aelodau'r Bwrdd am sut i gynyddu amrywiaeth.

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau.

7.3 Pwyllgor Perfformiad ac Effaith

Cyflwynodd SM y materion dan sylw o Gyfarfod y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith ar 27 Ebrill 2021.

Y cynllun Digidol i'w gyflwyno mewn Cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.

Unrhyw Faterion Eraill

Cwestiynau'r Gweinidog: Llywodraeth Cymru yn darparu ymatebion i ymholiadau Gyrfa Cymru yn ddiweddar yn y Senedd.

Soniodd IPJ ac AW am eu hamser gyda Gyrfa Cymru a dymuno'n dda i'r Cwmni ar gyfer y dyfodol.

Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Cofnodion Bwrdd CCDG Chwarter 1 - 17 Mehefin 2021 Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..