Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cofnodion Bwrdd CCDG 3 Mawrth 2022

Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022.

Yn bresennol

Erica Cassin
Andrew Clark
Neil Coughlan
Sam Evans
Dave Hagendyk
Susan Maguire
Dave Mathews
Sue Price
Emma Richards
Tony Smith
Richard Thomas
Helen White
Debra Williams (Cadeirydd)
Mary Van Den Heuvel

O Gyrfa Cymru

Nikki Lawrence
Ruth Ryder

Yn bresennol

Emma Blandon, Gyrfa Cymru
Denise Evans, Gyrfa Cymru
Deirdre Hughes, DMH Associates

Ymddiheuriadau

Emma Edworthy
Liz Harris
Ceri Noble

Yn absennol

Taslima Begum

Ysgrifenyddiaeth

Jayne Pritchard

1. Datganiadau o Fuddiant

  • 1.1 Ac eithrio’r datganiadau o fuddiant sefydlog, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant pellach.

2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol – 23 Tachwedd 2021

  • 2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol, yn amodol ar y newidiadau a oedd i’w gwneud i restr y rhai a oedd yn bresennol.

3. Materion yn Codi o 23 Tachwedd 2021

  • 3.1 Gwarant i Bobl Ifanc – cytunwyd bod y mater hwn yn parhau i fod ar y gweill.
  • 3.2 Y Cadeirydd i rannu papur ar bwyllgorau, rôl hyrwyddwyr ac Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth. Cytunwyd bod yr eitem hon yn cael ei gweithredu.
  • 3.3 Rhestr termau Gyrfa Cymru i gael ei dosbarthu i aelodau’r Bwrdd. Cytunwyd bod yr eitem hon yn cael ei gweithredu.
  • 3.4 Y Pennaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebui gael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth seiberddiogelwch. Cadarnhawyd bod yr eitem hon wedi’i dwyn ymlaen fel eitem i’r pwyllgor.
  • 3.5 Canmoliaeth a Chwynion – cadarnhawyd bod yr eitem hon wedi’i dwyn ymlaen fel eitem i’r pwyllgor.
  • 3.6 Strategaeth Gwybodaeth am y Farchnad Lafur – cadarnhawyd bod yr eitem hon wedi’i dwyn ymlaen fel eitem i’r pwyllgor.
  • 3.7 Aelodau’r Bwrdd i gael gwahoddiad i’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr. Cytunwyd bod yr eitem hon yn cael ei gweithredu.
  • 3.8 Diwygio cloriau blaen pob adroddiad pwyllgor i gynnwys teitlau swyddi. Cytunwyd bod yr eitem hon yn cael ei gweithredu.

4. Y Newyddion Diweddaraf gan y Cadeirydd

  • 4.1 Myfyriodd y Cadeirydd dros ei chyfnod fel Cadeirydd y Bwrdd, a thros gynnydd a chyflawniadau’r cwmni yn ystod y cyfnod hwnnw. Diolchwyd i’r aelodau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus. Ar ran y cwmni a’r Bwrdd, diolchodd y Prif Weithredydd i’r Cadeirydd am ei hymroddiad i Gyrfa Cymru ac am ei gwaith caled a’i hymrwymiad dros y blynyddoedd.

5. Y Newyddion Diweddaraf am y Cadeirydd Newydd

  • 5.1 Cyhoeddwyd Cadeirydd newydd y Bwrdd, a diolchodd i’r cyn Gadeirydd am y ffordd wych yr oedd wedi cyflawni’r rôl. Hysbyswyd yr aelodau fod y Cadeirydd newydd yn bwriadu cynnal cyfarfodydd unigol gyda holl aelodau’r Bwrdd, a fyddai’n cael eu trefnu’n fuan.

6. Y Newyddion Diweddaraf gan y Prif Weithredydd

  • 6.1 Hawliad Tâl - cynhaliwyd trafodaeth yn ddiweddar gyda’r pwyllgor taliadau i drafod yr hawliad tâl newydd.
  • 6.2 ESTYN - yn dilyn yr arolygiad thematig diweddar, nodwyd y byddai adroddiad manwl ESTYN yn cael ei gyhoeddi cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd. Felly, byddai’n cael ei ddosbarthu i’r aelodau fel rhan o bapurau cyfarfod mis Mehefin.
  • Cam Gweithredu 1: aelodau’r Bwrdd i gael copi o adroddiad manwl ESTYN
  • 6.3 Cofrestr Risg - amlygwyd yr eitemau risg uchel ar y gofrestr risg yn adroddiad y Prif Weithredydd. Gofynnodd y Bwrdd a oedd modd dod â’r gofrestr risg i gyfarfodydd y Bwrdd ddwywaith y flwyddyn. Cytunwyd y byddai diweddariad ynghylch eitemau’r gofrestr risg ar gael yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.
  • Cam Gweithredu 2: darparu diweddariadau cynnydd rheolaidd ynghylch eitemau risg uchel ar y Gofrestr Risg
  • 6.4 Canolfan Deallusrwydd Data – Astudiaeth Dichonoldeb - roedd angen trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y camau nesaf ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb.
  • 6.5 Cyfarfodydd y Gweinidog - roedd y Prif Weithredydd yn falch o gyhoeddi bod y cyfarfodydd a gafwyd â’r Gweinidog wedi mynd yn dda. Gofynnodd y Bwrdd am eglurhad pellach am y risg bosibl y byddai dull Ariannu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai gwaith Gyrfa Cymru yn cael ei ddyblygu. Eglurwyd y byddai dyblygu’n bosibl yn achos cynigion i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Awgrymodd y Bwrdd y dylid gosod rhestr wirio weinyddol a chynigiwyd y dylid trafod y mater gydag SE.
  • 6.6 Adenillion o Fuddsoddi – Y Newyddion Diweddaraf am yr Amserlen - gofynnodd y Bwrdd beth oedd yr amserlenni ar gyfer yr adenillion o fuddsoddi. Dywedwyd bod y gwaith gyda sefydliadau allanol yn parhau ac y byddai cynlluniau’n cael eu llunio cyn diwedd y flwyddyn.
  • 6.7 Canmoliaeth a Chwynion - byddai’r adroddiad llawn ynghylch canmoliaeth a chwynion yn cael ei gyflwyno ger bron cyfarfod nesaf Bwrdd CCDG fel atodiad i bapur nesaf Bwrdd CCDG. Cytunodd y Prif Weithredydd hefyd i ddod â’r Strategaeth Rhieni ger bron cyfarfod nesaf Bwrdd CCDG.
  • Cam Gweithredu 3: adroddiad llawn ar ganmoliaeth a chwynion i’w gyflwyno ger bron cyfarfod nesaf y Bwrdd fel atodiad i adroddiad y Prif Weithredydd
  • Cam Gweithredu 4: y Strategaeth Rieni i’w dwyn ymlaen i gyfarfod nesaf y Bwrdd

7. Strategaeth Gwybodaeth am y Farchnad Lafur

Trafodwyd penawdau allweddol y strategaeth newydd ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur a gwahoddwyd y Bwrdd i wneud sylwadau.

  • 7.1 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - nodwyd gan y Bwrdd fod taflen glawr y strategaeth gwybodaeth am y farchnad lafur, o dan yr adran cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn nodi ‘dim ei hangen’. Fodd bynnag, teimlai’r Bwrdd y gellid defnyddio’r data o’r wybodaeth am y farchnad lafur i nodi hiliaeth strwythurol ac anghydraddoldeb strwythurol, a mynegwyd yr angen i dynnu’r wybodaeth allan.
  • 7.2 Mesur Perfformiad – Cyfnod Allweddol 4 - gofynnodd y Bwrdd am eglurhad pellach ynglŷn â sut y gallai’r cwmni gofnodi bod 75% o ddisgyblion CA4 yn defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur fel rhan o’u proses gwneud penderfyniadau. Dywedwyd y byddai gan staff cyflenwi fwy o wybodaeth am CA3 a CA4 fel metrig, a chynigiwyd y dylid codi’r mater gydag SR yng nghyfarfod nesaf Bwrdd CCDG.
  • Cam Gweithredu 5: ceisio eglurhad gan staff cyflenwi ar sut y llwyddodd Gyrfa Cymru i gofnodi bod 75% o ddisgyblion CA4 yn defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur yn eu proses gwneud penderfyniadau
  • 7.3 Diffyg Cydweithio gyda Sefydliadau Allanol parthed data gwybodaeth am y farchnad lafur - gofynnodd y Bwrdd am sicrwydd ynghylch lefel y cydweithio rhwng Gyrfa Cymru a sefydliadau eraill. Sicrhawyd yr aelodau bod y cwmni’n cydweithio ag ystod eang o sefydliadau mewn perthynas â gwybodaeth am y farchnad lafur, ond eu bod yn awyddus bob amser i gydweithio’n ehangach os oedd gan yr aelodau awgrymiadau ychwanegol.
  • 7.4 Data Lleol - mewn ymateb i gwestiynau gan aelod, hysbyswyd y Bwrdd bod y data yn cynnwys data dadansoddol a rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau amser real, er y cynghorwyd bod y data a gafwyd yn ronynnog ac yn darparu data fesul awdurdod lleol.
  • 7.5 Sicrhau Ansawdd Data Gwybodaeth am y Farchnad Lafur - pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd cynnal gwybodaeth gywir a chyfredol am y farchnad lafur a thueddiadau, a gofynnwyd pa brosesau a ddefnyddiwyd i sicrhau ansawdd y data. Rhoddwyd sicrwydd bod y broses ar waith i sicrhau bod y data a ddarperir gan Gyrfa Cymru mor gywir â phosibl.
  • 7.6 Diffyg Sgiliau Gwyrdd - roedd Gyrfa Cymru wedi ymrwymo i godi proffil swyddi gwyrdd ar y pryd. Nodwyd hefyd bod y cwmni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo swyddi yn yr economi werdd.

8. Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu 2021-2026

Trafodwyd pwyntiau a nodau allweddol y Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu a gwahoddwyd y Bwrdd i wneud sylwadau.

  • 8.1 Cyrraedd a Thargedu Cwsmeriaid Newydd - gofynnodd y Bwrdd sut yr oedd y cwmni’n gobeithio cyrraedd a thargedu cwsmeriaid newydd nad oedd yn ymgysylltu â’u gwasanaethau ar hyn o bryd. Hysbyswyd yr aelodau y trafodwyd hyn yn ddiweddar gyda Plant yng Nghymru a fyddai’n cynorthwyo Gyrfa Cymru i ymgysylltu â grwpiau targed penodol.
  • 8.2 Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu – Perfformiad ac Effaith - awgrymodd y Bwrdd y dylid dod â Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu wedi’i diweddaru ger bron cyfarfod nesaf y pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Cytunwyd y byddai’r Strategaeth Cyfranogiad yn cael ei chyflwyno ger bron cyfarfod nesaf y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith.
  • 8.3 Asesu Cydraddoldeb ac Effaith - cynigiodd y Bwrdd y dylid cynnwys asesiad cydraddoldeb ac effaith yn y strategaeth cyfranogiad.
  • 8.4 Defnydd Cyson o Iaith - amlygodd y Bwrdd yr angen am iaith gyson yn y strategaeth, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
  • Cam Gweithredu 6: adolygu’r iaith a ddefnyddir yn y strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i sicrhau cysondeb yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru

9. Y newyddion diweddaraf am y Gyfarwyddiaeth Gyflawni

Cytunwyd y byddai’r eitem hon yn cael ei symud i gyfarfod nesaf Bwrdd CCDG.

Cam Gweithredu 7: y newyddion diweddaraf am y gyfarwyddiaeth gyflawni i gael eu cyflwyno ger bron cyfarfod nesaf y Bwrdd fel eitem

10. Strategaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu 2021-2026 a Pholisi Diogelu Gwybodaeth

Trafodwyd y meysydd allweddol yn Strategaeth TGCh 2021-2026 a’r polisi Diogelwch Gwybodaeth: lleihau costau, gwella cynhyrchiant, ysgogi galw, gweithio hyblyg a gwella cyfathrebu. Yn dilyn trafodaeth ar brif bwyntiau’r papur, gwahoddwyd y Bwrdd i gynnig sylwadau.

  • 10.1 Ymateb i Ddigwyddiad - dywedwyd bod y cwmni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r tîm seibergaderndid o fewn Llywodraeth Cymru hefyd a’u bod yn cael rhybuddion gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
  • 10.2 Polisi Diogelwch Gwybodaeth TGCh - hysbyswyd yr aelodau y trafodwyd y polisi gyda’r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth penodedig.
  • 10.3 Digwyddiadau ‘Bysedd tewion’ - gofynnodd y Bwrdd beth oedd y cwmni yn ei wneud i fynd i’r afael â digwyddiadau o’r fath, a chlywyd bod pob gweithiwr yn cael hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant gloywi, yn ogystal â chyfathrebiadau mewnol wedi’u diweddaru pan fydd digwyddiadau’n codi.
  • 10.4 Yswiriant Seiber - cadarnhawyd bod gan y cwmni yswiriant seiber.
  • 10.5 Amgylchedd Rhwydwaith - gofynnodd y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg i adroddiadau ar ymosodiadau seiber a chanlyniadau profion hacio newydd gael eu cyflwyno i’r pwyllgor.
  • Cam Gweithredu 8: ymosodiadau seiber a chanlyniadau profion hacio i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg

11. Cyllideb Ddrafft 2022–23

Cyflwynwyd y Gyllideb ddrafft i’r Bwrdd ac fe’i cymeradwywyd.

12. Prosiect Cyfarwyddyd Gyrfaoedd ac Ymchwil Llesiant Dyfodol Disglair

Gwahoddwyd parti allanol i roi cyflwyniad ar Brosiect Cyfarwyddyd Gyrfaoedd ac Ymchwil Llesiant Dyfodol Disglair a gwahoddwyd y Bwrdd i ofyn cwestiynau.

  • 12.1 Data wedi’u Diraddio am Grwpiau Bregus - gofynnodd y Bwrdd a ellid defnyddio’r data i amlygu unrhyw ganfyddiadau ynghylch grwpiau bregus ac a oedd y data yn darparu unrhyw fewnwelediad. Dywedwyd bod y data yn dangos adenillion o fuddsoddi ar gyfer NEETs.
  • 12.2 Ymgysylltu â Phobl Ifanc trwy Ymgysylltiad Dyddiadur - dywedodd y Bwrdd ei fod yn ymwneud â phrosiect ‘ymgysylltu parhaus’ â phobl ifanc ar hyn o bryd drwy ymgysylltiad dyddiadur, ac roedd yn falch o gael adrodd am lwyddiant y prosiect.

13. Cyfarfodydd Pwyllgorau

13.1 Y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg

Trafododd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg y prif eitemau i gael eu dwyn i sylw’r Bwrdd yn dilyn cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.

13.2 Perfformiad ac Effaith

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith fod y rhan fwyaf o’r pynciau a drafodwyd yn ystod y cyfarfod diwethaf wedi’u trafod yn ystod cyfarfod y Bwrdd ac felly nid oedd unrhyw eitemau ychwanegol.

Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Cofnodion Bwrdd CCDG Chwarter 4 - 03 Maw 2022 Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..