Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Log datgelu

Mae’r dudalen hon yn rhestru ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniwyd gan Gyrfa Cymru a’n hymatebion iddynt.

Mae'r wybodaeth hon wedi'i rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Sylwch nad yw'r log datgelu yn rhestru popeth sydd wedi'i ryddhau o dan y Ddeddfwriaeth Mynediad i Wybodaeth.

Mae’r meini prawf ar gyfer datgelu ymatebion yn cynnwys:

  • Budd cyhoeddus sylweddol
  • Arddangosiad o weithdrefnau mewnol
  • Arddangos sut mae arian cyhoeddus wedi'i wario neu wybodaeth yn ymwneud ag adnoddau
  • Mae rhai ymatebion/dogfennau ategol yn arbennig o swmpus neu heb eu cadw mewn fformat electronig

Mae'r log hwn yn rhestru'r holl geisiadau sylweddol am wybodaeth. Mae'r holl wybodaeth bersonol, am y sawl sy'n gwneud cais ac o fewn y cais, wedi'i dileu i ddiogelu preifatrwydd.

Byddwn yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth y gofynnir amdani yn electronig lle bo modd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae nifer y ffeiliau dan sylw yn gwneud hyn yn anymarferol ac rydyn ni’n hapus i ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani ar ffurf copi caled ar gais.

I gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar ddeunydd o'r fath, cysylltwch â foi@ careerswales.gov.wales.

I wneud cais am gopïau o'n llythyrau ymateb cysylltwch â foi@careerswales.gov.wales gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod ATI.

CodGeiriau allweddolYmateb a anfonwydMathStatws
CCDG0001Colledion a thaliadau arbennig a wnaed gan y Cwmni rhwng 2018 a 202120/01/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0002Gwybodaeth am Gontractau ar gyfer darparwyr Teleffoni/Gwasanaethau Llais (Analog, ISDN VOIP, SIP ac ati)01/02/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0003Gwybodaeth am yswiriant a ddelir gan y Cwmni08/03/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0004Gwybodaeth am strategaeth TGCh y Cwmni, ei gynlluniau a gwariant cyfalaf08/08/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0005Staffio, gweithgaredd a chostau yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant29/09/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0006Gwybodaeth am gontract offer rheoli a monitro cyfryngau cymdeithasol CCDG15/11/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0007Gwybodaeth am y defnydd o apiau negeseuon cydweithredol o fewn y Cwmni06/12/2022FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0008Manylion cyswllt rhwng CCDG a’r diwydiant tybaco rhwng 2021 a 202301/03/2023FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0009Rhybuddion cudd-wybodaeth gwrth-dwyll a gynhyrchwyd gan y Cwmni rhwng 2018 a 202312/05/2023FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0010Gwybodaeth am gynnal a chadw ystâd gorfforaethol y Cwmni11/07/2023FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0011Gwybodaeth am y gerddoriaeth dal y lein a ddefnyddir ar ein system ffôn21/07/2023FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0012Manylion systemau teleffoni a chyflenwyr21/07/2023FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0013Gwybodaeth yn ymwneud â phrosesu data personol a cheisiadau gwrthrych am wybodaeth18/08/2023FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0014Swm yr arian a wariwyd ar wasanaethau cyfieithu, dehongli ac iaith rhwng 2020 a 202305/01/2024FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0015Gwariant ar Gynghorwyr Gyrfa mewn ysgolion uwchradd yn y blynyddoedd academaidd 2019-20 i 2023-24 yn gynwysedig04/06/2024FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir
CCDG0016Refeniw ac arian a wariwyd ar gynhyrchu ffilm rhwng y blynyddoedd treth 2014-15 i 2022-23 yn gynwysedig28/06/2024FOI 2000Gwybodaeth a ddarperir