Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Rhyddid gwybodaeth

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth ar y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac yn cynghori dinasyddion sut i ofyn am wybodaeth gyhoeddus y mae awdurdod yn gallu ei chadw. 

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl gyffredinol i fynediad i bob math o wybodaeth a gofnodir ac a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’n amlinellu eithriadau i’r hawl hon ac yn rhoi nifer o oblygiadau ar awdurdodau cyhoeddus.

Mae Gyrfa Cymru yn y dosbarth ‘awdurdod cyhoeddus’. Rhaid hysbysu unrhyw un sy’n gwneud cais i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth pa un ai a yw’r awdurdod cyhoeddus yn cadw’r wybodaeth honno ai peidio, a chan ddibynnu ar eithriadau, rhaid darparu’r wybodaeth honno iddynt.

Mae gan unigolion eisoes hawl i fynediad i wybodaeth amdanynt eu hunain dan y Ddeddf Diogelu Data 1998. O safbwynt awdurdodau cyhoeddus, bydd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn estyn yr hawl hon i alluogi mynediad cyhoeddus i bob math o wybodaeth a gedwir.

Mae gofyn i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi sy’n amlinellu’r dosbarthiadau o wybodaeth a gedwir ganddo, sut mae’n bwriadu cyhoeddi’r wybodaeth ac a godir ffi ar gyfer yr wybodaeth.

Nod cynllun yw sicrhau bod swm sylweddol o wybodaeth ar gael heb angen gwneud cais penodol amdano. Bwriedir i gynlluniau annog sefydliadau i gyhoeddi mwy o wybodaeth yn rhagweithiol a datblygu diwylliant mwy agored. Mae Cynllun Cyhoeddi Gyrfa Cymru ar gael yma.

Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar y gwefannau allanol canlynol (dolenni Saesneg):


Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Mae hyn yn creu hawl gyfreithiol gyffredinol o fynediad i ofyn am wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan Gyrfa Cymru. Egwyddorion craidd y rheoliadau yw:

  • Ei fod yn creu hawl i fynediad statudol, ar gyfer unrhyw berson neu sefydliad, i wybodaeth amgylcheddol (yn dibynnu ar rai eithriadau i'r datgeliad) a gedwir gan Gyrfa Cymru
  • Bod Gyrfa Cymru yn agored, gonest ac atebol

Cysylltwch â ni

Os oes angen gwybodaeth arnoch dan y ddeddf, anfonwch e-bost atom:

 Ebost

Byddwn yn ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith.


Cynllun Cyhoeddi