Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r Cynllun Cyhoeddi hwn yn nodi'r wybodaeth rydym yn ei darparu fel mater o drefn er mwyn i bobl ddeall pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wario a'r hyn rydym yn ei gyflawni.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn nodi bod gan bob sefydliad cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi. Cyhoeddir y Cynllun Cyhoeddi hwn yn unol â chyfrifoldebau Gyrfa Cymru o dan y Ddeddf.

Prif ddiben Cynllun Cyhoeddi yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn barod i'r cyhoedd heb yr angen i wneud ceisiadau ysgrifenedig penodol. Bwriad cynlluniau yw annog sefydliadau i gyhoeddi'n rhagweithiol a datblygu diwylliant mwy agored.

Erbyn hyn, mae'n rhaid i bob Cynllun Cyhoeddi fabwysiadu'r cynllun enghreifftiol fel y’i nodir ac fel y’i cymeradwyir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae Gyrfa Cymru (GC) wedi mabwysiadu'r cynllun enghreifftiol hwn ar gyfer Cwmnïau dan Berchnogaeth Lwyr.

Mae Gyrfa Cymru wedi ymrwymo i:

  • Gyhoeddi, neu ddarparu fel arall fel mater o drefn, wybodaeth a gedwir gan GC ac sydd o fewn y dosbarthiadau a restrir yn yr adran "Dosbarthiadau"
  • Pennu'r wybodaeth a gedwir gan GC ac sy'n dod o fewn y dosbarthiadau a restrir yn yr adran "Dosbarthiadau"
  • Cynhyrchu a chyhoeddi'r dulliau ar gyfer canfod y wybodaeth benodol fel mater o drefn fel y gall aelodau o'r cyhoedd ei adnabod a'i gyrchu'n rhwydd
  • Adolygu a diweddaru'n rheolaidd y wybodaeth y mae GC yn ei darparu o dan y cynllun
  • Cynhyrchu manylion am unrhyw daliadau am wybodaeth

Bydd y cynllun cyhoeddi ar gael fel tudalen we ar ein gwefan ac ar ffurf copi caled ar gais. Os oes angen copi caled arnoch, anfonwch gais drwy e-bost at foi@careerswales.gov.wales.

Mae Gyrfa Cymru yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth fel mater o drefn fel y nodir yn y saith dosbarth isod

1. Ynglŷn â Gyrfa Cymru

Gwybodaeth am Gyrfa Cymru, pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, gwybodaeth sefydliadol, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol.

2. Gwybodaeth ariannol Gyrfa Cymru

Gwybodaeth am yr hyn y mae Gyrfa Cymru yn ei wario a sut rydym ni’n ei wario. Hynny yw, gwybodaeth ariannol sy'n ymwneud ag incwm a gwariant, tendro, caffael, contractau ac archwilio ariannol. Mae gwybodaeth ariannol ar gael am o leiaf y 2 flynedd ariannol bresennol a blaenorol.

3. Blaenoriaethau a pherfformiad Gyrfa Cymru

Gwybodaeth am beth yw blaenoriaethau Gyrfa Cymru a sut rydym yn ei wneud gan gynnwys gwybodaeth Strategaeth a Pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau. Mae gwybodaeth yn y dosbarth hwn ar gael am o leiaf y 2 flynedd bresennol a blaenorol.

4. Sut mae Gyrfa Cymru yn gwneud penderfyniadau

Gwybodaeth am gynigion a phenderfyniadau polisi Gyrfa Cymru. Mae hyn yn cynnwys prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf mewnol a gweithdrefnau ac ymgynghoriadau. Mae gwybodaeth yn y dosbarth hwn ar gael am o leiaf y flwyddyn gyfredol a'r 2 flynedd flaenorol.

  • Pwyllgorau'r Bwrdd a'r cylch gorchwyl
Y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg

Y Cylch Gorchwyl: 

  1.     Sicrhau bod gan y cwmni system gadarn o reolaeth ariannol, a phrosesau effeithiol ar gyfer nodi, asesu a rheoli risg gan ddefnyddio cofrestr risg
  2. Argymell penodi bancwyr, archwilwyr mewnol, archwilwyr allanol a chynghorwyr ariannol eraill, yn ôl y galw, gan ddilyn y broses briodol
  3. Sefydlu gweithdrefn gadarn ar gyfer caffael, er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a gwerth am arian
  4. Sicrhau, yn unol â deddfwriaeth, bod gan y cwmni bolisïau effeithiol ar gyfer delio ag afreoleidd-dra, twyll neu lwgrwobrwyo posibl
  5. Parhau i adolygu iechyd ariannol y cwmni. Cynnwys monitro ac adolygu'r Cynllun Busnes a gwariant yn erbyn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn gyfredol
  6. Datblygu ac argymell cynllun busnes hyfyw, a chyllideb i'r cwmni bob blwyddyn
  7. Ystyried a gwneud argymhellion ar ddatganiadau ariannol, ac yn arbennig cyfrifon blynyddol y cwmni
  8. Ystyried materion a gyfeirir at y Pwyllgor gan y Bwrdd
  9. Adrodd i'r Bwrdd
Pwyllgor Materion Pobl a Chydnabyddiaeth

Y Cylch Gorchwyl: 

  1. Bydd y Pwyllgor yn derbyn ac yn cymeradwyo unrhyw ddrafft cychwynnol ac ailddrafftiau dilynol o'r Strategaeth Adnoddau Dynol a'r Cynllun(iau) Gweithredu
  2. Bydd y Pwyllgor yn sicrhau bod strwythur cyflog priodol ac, yn amodol ar fforddiadwyedd, yn pennu lefelau cyflog y Prif Weithredwr
  3. Bydd y Pwyllgor yn craffu'n gadarn er mwyn sicrhau bod y cwmni'n cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau cyflogaeth
  4. Y Pwyllgor fydd y pwyllgor arweiniol ar gyfer materion Iechyd a Diogelwch ac Amrywiaeth
  5. Bydd y Pwyllgor yn ystyried unrhyw faterion a gaiff eu cyfeirio ato gan y Bwrdd
  6. Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd ar bob mater sy'n ymwneud â chyflogaeth a lles staff CCDG, ac yn rhoi cyngor ar faterion priodol
  7. Bydd y Pwyllgor hefyd yn hyrwyddo ac yn cefnogi:
    1. Datblygu polisïau cyflogaeth priodol, gan gynnwys y rhai ar gyfer penodi, telerau ac amodau, disgyblaeth, cwynion, gwobrwyo a chydnabod gweithwyr
    2. Datblygiad parhaus diwylliant a gwerthoedd y cwmni 
    3. Ymgysylltu a chynnwys gweithwyr
    4. Cyfathrebu mewnol effeithiol o fewn y sefydliad
Pwyllgor Perfformiad ac Effaith

Y Cylch Gorchwyl: 

  1. Trosolwg o swyddogaethau datblygu, darparu a chefnogi gwasanaethau
  2. Monitro, craffu a chynghori ar berfformiad y flwyddyn mewn perthynas ag ansawdd a maint a chynnydd yn erbyn y cynllun busnes
  3. Herio ac adolygu effaith y cwmni
  4. Craffu a monitro'r defnydd o adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid trwy lywio datblygiad y gwasanaeth (gan gynnwys TGCh) a strategaethau ymgysylltu
  5. Hyrwyddo a chefnogi gwerth am arian, gan edrych ar ba wasanaethau i fuddsoddi adnoddau ynddynt i sicrhau enillion da ar fuddsoddiad
  6. Cefnogi ac adolygu'r ffordd y mae'r cwmni'n darparu'r gwasanaethau drwy sianeli TG/ Digidol/ Marchnata
  7. Ystyried unrhyw faterion a gaiff eu cyfeirio at y Pwyllgor gan y Bwrdd
  8. Adrodd i'r Bwrdd

5. Polisïau a gweithdrefnau Gyrfa Cymru

Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau Gyrfa Cymru gan gynnwys protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau.

6. Rhestrau a chofrestrau Gyrfa Cymru

Gwybodaeth am restrau a chofrestrau Gyrfa Cymru gan gynnwys gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy'n ymwneud â swyddogaethau'r sefydliad.

7. Y gwasanaethau y mae Gyrfa Cymru yn eu cynnig

Gwybodaeth am wasanaethau y mae Gyrfa Cymru yn eu cynnig gan gynnwys cyngor ac arweiniad, gwefan, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i'r cyfryngau. Mae'r wybodaeth hon at ei gilydd yn rhoi disgrifiad o'r gwasanaethau a gynigir.

Dod o hyd i wybodaeth

Rydym yn sicrhau bod cryn dipyn o wybodaeth ar gael o dan ein cynllun. Y manteision yw bod y wybodaeth yn hygyrch ac am ddim. Mae hyn yn golygu, mewn llawer o achosion, y bydd y wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani eisoes ar gael ac ni fydd angen i chi wneud cais ffurfiol o dan y ddeddf.

Lle mae gwybodaeth ar gael yn rhwydd, darperir dolenni o'r dudalen hon. Noder nad oes dolenni cyswllt uniongyrchol i rai dogfennau ar hyn o bryd oherwydd efallai nad ydynt ar gael mewn fformat sy'n bodloni gofynion hygyrchedd.

Pan fo gwybodaeth wedi'i rhestru yma ond nad oes dolen gyswllt uniongyrchol, gallwch ofyn am y wybodaeth drwy e-bostio foi@careerswales.gov.wales.

Os hoffech ddod o hyd i’r wybodaeth uchod, yn aml ni chodir tâl am y wybodaeth hon, yn enwedig os hoffech ei chael yn electronig. Weithiau, efallai y bydd tâl statudol neu gostau gweinyddol penodol fel llungopïo a phostio, os hoffech gael copi printiedig o'r wybodaeth. Os codir tâl, rhoddir cadarnhad o'r taliad sy'n ddyledus cyn i'r wybodaeth gael ei darparu.

Gellir gofyn am daliad cyn darparu'r wybodaeth. Ceir manylion pellach drwy gysylltu â foi@careerswales.gov.wales.

Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth sa gynhwysir yn ein cynllun yn gyfredol. Fodd bynnag, ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth, efallai y bydd angen cyhoeddi'r wybodaeth yn ôl-weithredol.

Ni fydd gwybodaeth ar gael drwy'r cynllun cyhoeddi am gyfnod amhenodol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i'r cyhoedd. Mae'n bwysig bod y wybodaeth a ddarparwn yn berthnasol ac yn gyfredol.

Rydym yn croesawu eich adborth ar ein cynnydd a'ch awgrymiadau ar gyfer gwybodaeth yr hoffech chi i ni ei darparu.