Mae Gyrfa Cymru yn falch o gynnal safonau cwsmeriaid ardderchog a sicrhau eich bod yn cael gwasanaethau, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd o ansawdd uchel, sy'n addas i'ch anghenion.
Mae rhoi gwybod inni am yr hyn rydym yn ei wneud yn dda neu ddim mor dda yn ein helpu i wella'n gwasanaethau. Ein nod yw:
- Darparu gwasanaeth safon uchel i'n cwsmeriaid bob amser
- Gwrando ar farn ein cwsmeriaid i'n helpu i wella'n gwasanaethau
- Cydnabod pob adborth rydym yn ei gael a gweithredu pan fo angen yn unol â'n trefn gwynion
Ein safonau gofal cwsmer
I sicrhau eich bod yn cael gwsanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd o ansawdd uchel rydym yn gwneud hyn trwy:
- Ymateb ichi yn brydlon mewn modd effeithlon a chwrtais, sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni
- Darparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg neu Saesneg)
- Sicrhau bod ein gwasanaethau yn ddiduedd, yn deg a hygyrch mewn modd sy'n addas i'ch anghenion chi a hynny heb wahaniaethu
- Parchu eich hawliau i gyfrinachedd, preifatrwydd a diogelwch
- Sicrhau bod ein staff wedi'u hyfforddi'n dda ac y gellir eu hadnabod yn hawdd
- Rhoi enwau cyswllt staff i chi, eu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Cynnig gwybodaeth mewn gwahanol fformatau pan fo angen, er enghraifft Braille neu brint bras
- Cynnig eich galw yn ôl yn rhad ac am ddim os byddwch yn ffonio'n rhif Rhadffôn ar eich ffôn symudol
- Gofyn am eich adborth i'n helpu i ddatblygu a gwella'n gwasanaethau
- Dweud wrthych sut i gyflwyno cwyn os nad ydych yn hapus gydag un o'n gwasanaethau
Sut y byddwn yn delio â'ch pryderon?
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddelio â'ch cwyn ar lafar y tro cyntaf yr ydych yn cysylltu â ni. Byddwch yn derbyn cadarnhad ein bod wedi derbyn eich cwyn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith.
Os bydd angen ymchwilio i gŵyn ymhellach, bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at Reolwr ac mae'n bosib y bydd yn cysylltu â chi am wybodaeth bellach. Byddwn yn parhau i'ch hysbysu am yr hyn sy'n digwydd o ran datrys eich cwyn a'r amserlen gysylltiedig.
Anelwn at ddatrys cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw'n bosib inni wneud hyn, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf a'r amserlen weithredu.
Os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Uwch Reolwr priodol a fydd yn adolygu'r archwiliad ac yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch i gadarnhau sut y deuir â'r achos i ben.
Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, fe allech chi gwyno wrth yr Ombwdsmon (dolen allanol). Maent yn annibynnol o Gyrfa Cymru ac yn medru edrych ar eich cwyn. Fe allwch chi gyflwyno cwyn i'r Ombwdsmon os ydych chi'n credu eich bod ch'in bersonol, neu'r person y gwnaethoch chi gwyno ar ei ran wedi bod dan anfantais yn bersonol gan fethiant y gwasanaeth neu wedi cael ei trin yn annheg.
Gellir rhoi canmoliaeth, sylwadau a chwynion i unrhyw aelod o staff yn y sefydliad. Caiff pob cwyn ei chofnodi'n ffurfiol yn syth. Gallwch ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl mewn sawl ffordd:
- Ar lafar- mewn person yn un o ein canolfannau neu dros y ffôn
- Gan ddefnyddio ein ffurflen adborth cwsmer (bydd y ffurflen yn agor mewn ffenestr newydd)
- Ysgrifennu atom - llythyr neu ebost. Gweld lleoliad ein swyddfeydd
- Trwy ein cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Facebook a Twitter
- Trwy sgwrs ar lein ar y wefan
- Trwy ffrind, perthynas neu berson arall
Os ydych yn dal yn ansicr ac eisiau siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth