Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Strwythur y cwmni

Rhagor o wybodaeth am strwythur rheoli Gyrfa Cymru

Yr Uwch Dîm Rheoli

Prif Weithredydd

Nikki Lawrence

Nikki Lawrence

Fel prif weithredydd rwy’n arwain ar gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol “Dyfodol Disglair.” Ei nod yw rhoi mynediad i bobl ifanc ac oedolion ledled Cymru at gymorth gyrfaoedd o safon uchel, diduedd, i bob oed.

Rwyf wedi ymrwymo’n fawr i’r gwaith hollbwysig yr ydym yn ei wneud. Mae o fudd i unigolion, eu teuluoedd, a lles cyffredinol a gellir ei briodoli i drawsnewid bywydau pobl. Mae hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad economaidd Cymru.

Rwy'n gyfrifydd cymwysedig ac rwyf wedi gweithio o'r blaen mewn diwydiant cyhoeddus a phreifat. Rwyf bellach wedi gweithio i Gyrfa Cymru ers dros ugain mlynedd mewn amrywiaeth o rolau. Yn 2019 cefais fy mhenodi i fy swydd bresennol fel prif weithredydd.

Fy uchelgais, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr hynod broffesiynol, ymroddedig yw symud y sefydliad ymlaen i fod yn sefydliad o safon fyd-eang, sy’n arwain y sector er budd pobl Cymru.

Cyfarwyddwyr

Cyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau

Nerys Bourne

Nerys Bourne

Fy rôl i yw bwrw ymlaen â gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd y cwmni, ynghyd â gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr a chymorth gyda’r cwricwlwm.

Rydw i wedi gweithio yn y sector gyrfaoedd ers bron i 28 mlynedd. Rydw i’n dal i deimlo’r un angerdd tuag at y gwaith yr ydym yn ei wneud â phan ddechreuais fel cynghorydd gyrfa dan hyfforddiant. Pan oeddwn i’n gweithio fel cynghorydd gyrfa, teimlad braf iawn oedd gwybod fy mod wedi cynorthwyo person ifanc i gyflawni ei nod ac wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl.

Fel un o Gyfarwyddwyr Gyrfa Cymru, rydw i’n danbaid dros yr hyn a wnawn fel sefydliad ac rydw i’n mwynhau’r cyfle i siapio gwasanaethau Gyrfa Cymru, a dylanwadu arnynt, er budd ein cwsmeriaid.

Yr adrannau:

  • Gwasanaethau i Bobl Ifanc
  • Gwasanaethau i Randdeiliaid
  • Cymru’n Gweithio: Cyngor Cyflogaeth

Cyfrifoldeb dros ddatblygu ein gwasanaethau i gwsmeriaid:

  • Pobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, rhai a addysgir mewn Addysg Heblaw yn yr Ysgol neu mewn cwricwlwm amgen yn ogystal ag Addysg Bellach
  • Cynorthwyo ysgolion a chyflogwyr i weithio gyda’i gilydd er mwyn rhoi profiadau o’r byd gwaith i bobl ifanc
  • Cynorthwyo athrawon i ddatblygu Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru
  • Rhoi arweiniad a chymorth cyflogaeth i bobl ifanc sydd y tu allan i addysg, i oedolion sy’n ddi-waith, sy’n wynebu colli eu swydd neu sy’n ceisio dychwelyd i’r gweithle neu newid eu gyrfa

Yn arwain hefyd ar Ddiogelu o fewn y sefydliad, gan weithredu ein strategaeth Cymraeg 2050 a’n strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Cyfarwyddydd Adnoddau a Thrawsnewid

Ruth Ryder

Ruth Ryder

Ymunais â Gyrfa Cymru ar ôl gweithio mewn addysg uwch am y rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol. Mae gweithio i sefydliad sy’n cynnig budd cyhoeddus a chymdeithasol yn bwysig imi. Mae Gyrfa Cymru, sy’n darparu gwasanaeth gyrfaoedd diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru, yn cyd-fynd yn berffaith â’m gwerthoedd.

Mae fy swydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr adnoddau’n gydnaws â blaenoriaethau strategol y cwmni, ynghyd ag ysgogi effeithlonrwydd sefydliadol. Rydw i’n arwain rhaglenni mawr er mwyn arloesi a diogelu gwasanaethau i gwsmeriaid at y dyfodol, yn ogystal â chyfoethogi’r profiad i weithwyr. Mae meithrin diwylliant sy’n llawn ymddiriedaeth, grymuso a chydweithio yn rhan greiddiol o’m swydd.

Mae pob diwrnod yn wahanol, gan esgor ar fanteision a hefyd ar heriau – dyma rydw i’n ei fwynhau gymaint ynglŷn â gweithio yn Gyrfa Cymru.

Mae’r gyfarwyddiaeth adnoddau a thrawsnewid yn canolbwyntio ar sicrhau bod adnoddau’r cwmni yn gydnaws â’i flaenoriaethau strategol. Hefyd, mae’n canolbwyntio ar ysgogi perfformiad ac effeithlonrwydd sefydliadol, arloesi er mwyn diogelu gwasanaethau at y dyfodol, a datblygu ac uwchsgilio gweithwyr fel y gallant gydweithio mewn modd ystwyth a hyblyg.

Yr adrannau:

  • Digidol a Chyfathrebu
  • Cyllid ac Ystadau
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Datblygu Pobl
  • Ansawdd a Chynllunio

Pennaethiaid Adrannau

Pennaeth Gwasanaethau i Bobl Ifanc

Amie Field

Amie Field

Rydw i’n arwain gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd mewn ysgolion ledled Cymru.

Yn ystod fy 17 mlynedd yn Gyrfa Cymru rydw i wedi gweithio mewn sawl rôl, yn cynnwys fel Anogydd Cyflogadwyedd, Cynghorydd Gyrfa, a hefyd ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Rydw i wedi cael y fraint o glywed breuddwydion a dyheadau llawer iawn o bobl ifanc a gweithio gyda nhw i droi’r breuddwydion hynny’n realiti. Rydw i wedi mwynhau pob rôl ac rydw i wedi dysgu cymaint gan yr holl bobl wych y bûm yn gweithio gyda nhw.

Mae Gyrfa Cymru wastad wedi rhoi’r rhyddid imi ‘roi cynnig ar bethau’, ac mae hynny yn fy ysgogi’n fawr.

Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid

Mark Owen

Mark Owen

Dechreuais fy ngyrfa ym mis Gorffennaf 1999 fel cynghorydd gyrfa mewn ysgol yn Abertawe. Yna, gweithiais fel Arweinydd Tîm yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ôl i Gyrfa Cymru gael ei sefydlu yn 2001, cyn ymuno â Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol fel Rheolwr Gweithrediadau yn 2002.

Gweithiais mewn nifer o swyddi rheoli canol ac uwch cyn cael fy mhenodi’n Bennaeth Gweithrediadau rhanbarth Canol De Cymru ar gyfer y sefydliad newydd Dewis Gyrfa Career Choices yn 2012 (sef ‘gwasanaeth gyrfaoedd’ cenedlaethol Cymru). Yna, yn 2018, cefais fy mhenodi’n Bennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid ar lefel genedlaethol yn dilyn ad-drefnu.

Mae ein gwaith yn dwyn ysgolion a busnesau ynghyd i gynorthwyo pobl ifanc. Y nod yw llywio, ysbrydoli a chymell pobl ifanc ynglŷn â’u cyfleoedd gyrfa. Gwnawn hyn trwy gyfrwng amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir dan arweiniad cyflogwyr a hefyd trwy gyfrwng gweithgareddau cyfoethogi’r cwricwlwm. Rydym yn helpu gweithwyr addysg proffesiynol i gyflwyno rhaglenni gyrfaoedd effeithiol. Rydym yn cynorthwyo i feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder gweithwyr addysg proffesiynol.

Gwnawn hyn trwy gyfrwng y pethau canlynol:

  • Gwaith ymgynghori
  • Dysgu proffesiynol
  • Cynorthwyo i ddatblygu adnoddau
  • Ein gwobr ansawdd sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm

Rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnawn gyda’r bobl ganlynol:

Pennaeth Cyngor Cyflogaeth

Mandy Ifans

Mandy Ifans

Rydw i’n arwain y rhaglen Cymru’n Gweithio a gyflwynwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru’n Gweithio yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd, a hefyd mae’n cyfeirio ac yn atgyfeirio oedolion a phobl ifanc yn y farchnad lafur yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynorthwyo cwsmeriaid yn yr ystad ddiogel.

Rydw i wedi gweithio i Gyrfa Cymru er 1988, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rydw i wedi mynd i’r afael â sawl rôl wahanol, yn cynnwys cynghorydd gyrfa, cynghorydd gyrfa arbenigol ar gyfer diweithdra a chynghorydd cyswllt anghenion arbennig, cyn symud i rôl rheolwr tîm yn y 1990au.

Rydw i’n danbaid dros y gwaith a wnawn a’r gwerth a gyfrannwn at gynorthwyo oedolion a phobl ifanc ar adegau holl bwysig yn eu gyrfaoedd a’u bywydau.

Rydw i’n siarad Cymraeg ac rydw i’n hapus i sgwrsio gyda dysgwyr os ydych awydd ymarfer eich sgiliau iaith.

Rhagor o wybodaeth am Cymru’n Gweithio.

Pennaeth Datblygu Pobl

Denise Currell

Rydw i’n arwain y timau Adnoddau Dynol (AD), Dysgu a Datblygu ac Iechyd a Diogelwch. Mae pob un o’r timau hyn yn anelu at ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid mewnol.

Rydw i wedi bod yn gweithio i Gyrfa Cymru ers mwy nag ugain mlynedd. Rydw i’n Gymrawd Siartredig y Sefydliad Datblygu Pobl (CIPD). Dewisais weithio yma am gyfnod mor faith oherwydd diben cymdeithasol y sefydliad, a hefyd oherwydd angerdd ac ymrwymiad y bobl sy’n gweithio yma a’r holl gyfleoedd datblygu y gall pawb gael gafael arnynt.

Yn ystod fy ngyrfa, rydw i wedi rhoi llawer o bwyslais ar les pobl yn y gwaith ac ar bwysigrwydd gweithlu amrywiol, ac rydw i eisiau i bobl fod yn iach ac yn hapus yn y gwaith.

Mae’r Tîm Datblygu Pobl yn gyfrifol am recriwtio, rheoli AD, lles, dysgu a datblygu, ac iechyd a diogelwch ein gweithlu. Trwy gyfrwng ein tîm o weithwyr proffesiynol, ein nod yw recriwtio a chynnal gweithlu hapus a brwd, gan ddal gafael ar ein gweithwyr talentog mewn rolau gwerth chweil drwy gydol eu gyrfa gyda ni.

Rhagor o wybodaeth am y pethau canlynol:

Pennaeth Ansawdd a Chynllunio

Philip Bowden

Philip Bowden

Mae Ansawdd a Chynllunio oddi mewn i Gyrfa Cymru yn sicrhau safonau, yn gwella perfformiad ac yn darparu gweithgareddau cynllunio cadarn, fel y gellir bodloni anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.

Rydw i wedi gweithio i Gyrfa Cymru ers mwy nag ugain mlynedd. Dechreuais fel Cynghorydd Gyrfa, cyn symud ymlaen i amryfal swyddi yn y cwmni. Cyn ymuno â Gyrfa Cymru, arferwn fod yn athro mewn ysgol uwchradd.

Rydw i’n credu bod Gyrfa Cymru mewn sefyllfa unigryw o ran darparu’r cymorth y mae pobl ifanc ac oedolion ei angen i’w paratoi ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu gyrfa a’u helpu i gyflawni eu nodau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth am ein gwaith gyda’r pethau canlynol:

Pennaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Denise Evans

Fi sy’n arwain ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), Deallusrwydd Busnes a diogelwch data, sy’n cynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Rydw i wedi gweithio i Gyrfa Cymru ers 36 mlynedd. Dechreuais fy ngyrfa fel cynorthwyydd gweinyddol yn swyddfa Cwmbrân.

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cyfleoedd hyfforddi gwych, a thrwy ddilyn sawl cwrs hyfforddi ym maes TGCh bu modd imi gamu ymlaen yn fy ngyrfa, ac erbyn hyn rydw i’n arwain tîm sy’n cynnwys 30 o weithwyr TGCh proffesiynol ledled Cymru.

Rhagor o wybodaeth am ein Strategaeth TGCh.

Pennaeth Cyllid ac Ystadau

Will Piper

Fi sy’n gyfrifol am Gyllid ac Eiddo ar draws Gyrfa Cymru. Rydw i wedi gweithio i Gyrfa Cymru ers mwy nag ugain mlynedd ac rydw i’n Gyfrifydd Siartredig – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).

Cyn dechrau gweithio i Gyrfa Cymru, arferwn weithio mewn practis preifat gan helpu cwmnïau lleol ledled De-Orllewin Cymru. Yn ystod fy amser gyda Gyrfa Cymru rydw i wedi gweithio mewn sawl swydd ac rydw i wedi mwynhau pob un ohonynt, gan helpu i ddarparu trefniadau llywodraethu corfforaethol cadarn a sicrhau gwerth am arian i’r pwrs cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ein gwaith:

Pennaeth Digidol a Chyfathrebu

Emma Blandon

Rydw i’n goruchwylio tîm y wefan a hefyd ein timau datblygu cynhyrchion, marchnata a chyfathrebu, arloesi digidol, ymchwil a chyswllt cwsmeriaid.

Rydw i’n aelod o’r Sefydliad Marchnata Siartredig a’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus ac rydw i’n gweithio i Gyrfa Cymru ers pedair blynedd. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio mewn llywodraeth leol ac addysg uwch.

Mae fy rôl yn Gyrfa Cymru yn amrywiol iawn: cefnogi ein hymgyrch i ddarparu profiadau personol a rhagorol i gwsmeriaid mewn mannau, ar adegau a thrwy’r sianeli sy’n diwallu eu hanghenion.

Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth yn fy rôl. Mae pob diwrnod yn wahanol ac mae’n bleser gwybod bod ein gwasanaethau’n helpu pobl ar adegau allweddol yn eu gyrfa.