Arolwg blynyddol o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol yw hynt disgyblion, a gynhelir gan Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Gyrfa Cymru dan rwymedigaeth gytundebol i ddarparu data i Lywodraeth Cymru ar hynt disgyblion o bob ysgol a gynhelir ac ysgolion anghenion arbennig sydd o fewn oedran gadael ysgol neu’n hŷn.
Mae’r arolwg yn rhoi ciplun defnyddiol o hynt disgyblion er mwyn rhoi gwybodaeth i staff gyrfaoedd wrth iddynt weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.
Mae’r data a gesglir hefyd yn gymorth gwerthfawr i bartneriaid sy’n rhan o’r broses o gynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddi a chyflogaeth.
Hynt disgyblion diweddaraf o ysgolion yng Nghymru yn ôl blwyddyn

Gweld hynt disgyblion 2022 ym Mlwyddyn 11, 12 a 13 o ysgolion yng Nghymru.

Gweld hynt disgyblion 2021 ym Mlwyddyn 11, 12 a 13 o ysgolion yng Nghymru.

Gweld hynt disgyblion 2020 ym Mlwyddyn 11, 12 a 13 o ysgolion yng Nghymru

Gweld hynt disgyblion 2019 ym Mlwyddyn 11, 12 a 13 o ysgolion yng Nghymru.