Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion 2021

Mae arolwg blynyddol Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru o’r rhai sydd wedi gadael yr ysgol, yn rhoi darlun defnyddiol o hynt disgyblion, gan gynnig gwybodaeth i staff gyrfaoedd wrth weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.

Mae’r data a gesglir yn gymorth gwerthfawr hefyd i bartneriaid a chydweithwyr sy’n ymwneud â chynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddi a chyflogaeth.

Lluniwyd yr arolwg hwn o ddata a ddarparwyd gan Gyrfa Cymru, ac mae’n edrych ar ba lwybrau dilyniant a ddewiswyd gan bobl ifanc o ran addysg, gwaith a hyfforddiant. Ceir dadansoddiadau pellach yn ôl ethnigrwydd a rhyw’r disgyblion (pan fo’r wybodaeth ar gael).

Mae’n werth nodi bod arolwg eleni, fel yn 2020, wedi’i gynnal yn ystod pandemig Covid-19 ac yn ymwneud â’r rhai a adawodd yr ysgol a gwblhaodd eu hastudiaethau Blwyddyn 11, Blwyddyn 12, a Blwyddyn 13 yn ystod y pandemig a chyfyngiadau sy’n dal i fodoli. Fel yn 2020, ni chynhaliwyd unrhyw arholiadau allanol yn 2021 a chafodd canlyniadau eu dyfarnu ar sail graddau’n cael eu pennu gan ganolfannau.

Mae’r arolwg yn adrodd ar hynt 55,387 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae’n cynnwys disgyblion sydd wedi cyrraedd yr oedran statudol i adael yr ysgol, ym Mlwyddyn 11, a disgyblion sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 12 a 13. Caiff disgyblion o ysgolion arbennig eu cynnwys yn yr arolwg hefyd; nid yw’r rhai sy’n mynychu colegau Addysg Bellach (AB) ac ysgolion annibynnol. Bechgyn yw 49% o gyfanswm y garfan (27,113) a merched yw 51% (28,229). Dewisodd 45 o’r disgyblion y categori ‘Arall a ddim am ddweud’ i ddisgrifio eu rhyw. Cofnodir y wybodaeth am hynt disgyblion ar sail gweithgaredd hysbys y disgyblion ar 31 Hydref 2021.

Er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn darparu darlun mor llawn â phosibl o gyrchfannau’r rhai sy’n gadael ysgol, a bod nifer y rhai nad ydynt yn ymateb i’r arolwg cyn ised â phosibl, mae Gyrfa Cymru yn dibynnu ar sefydliadau partner i rannu gwybodaeth am gofrestriad a hynt myfyrwyr. Ar gyfer hynt carfan 2018, yn dilyn cyflwyno’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), nid oedd yn bosibl cytuno ar drefniadau rhannu data gyda’r holl sefydliadau Addysg Bellach (AB) ledled y wlad mewn pryd i gwblhau arolwg 2018. Roedd hyn yn golygu bod nifer y rhai na wnaeth ymateb yn llawer uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol. Gan nad oedd modd cymharu data hynt disgyblion 2018 â data blynyddoedd blaenorol neu ddilynol, nid yw’r adroddiadau hyn yn cynnwys sylwadau naratif yn ymwneud â data tueddiadau mwyach. Pe bai unrhyw gymariaethau’n cael eu gwneud, byddent yn debygol o ddod i gasgliadau anghywir.

Gall yr amgylchiadau unigryw a achoswyd gan y pandemig gymhlethu’r gallu i gymharu data â data blynyddoedd eraill hefyd. Roedd data 2020 yn dangos cynnydd sylweddol yn y rhai a oedd yn parhau mewn addysg a allai fod yn ganlyniad i’r pandemig, gan wneud cymhariaeth â blynyddoedd eraill yn anodd.

Noder:

  • Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu ac felly ni fydd y cyfanswm yn 100% bob tro
  • Gallai ffigyrau cenedlaethol guddio amrywiannau ar lefel rhanbarthau, awdurdodau lleol a sefydliadau ym mhob carfan. Darperir adroddiadau sy’n dangos hynt y disgyblion fesul ardal awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r broses o ddadansoddi ar lefel leol
  • Dim ond cynrychiolaeth weledol yw’r graffigwaith ac nid yw ar raddfa fanwl gywir o reidrwydd
Cyfyngiadau data

Nodyn ar ddata tueddiadau

Rhwng 2012 a 2017 roedd modd olrhain data hynt disgyblion a nodi data tueddiadau. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y Cyflwyniad, roedd heriau ychwanegol wrth gasglu data hynt disgyblion 2018, gyda chynnydd amlwg yn y rhai na ymatebodd i’r arolwg a hynny’n amrywio yn ôl awdurdod lleol. Oherwydd hynny, mae adroddiad eleni, fel yn achos adroddiad 2018, yn cynnwys crynodeb byr o ddata 2021 ac nid yw’n ceisio llunio cymhariaeth gyda’r gyfres sy’n bodoli yn ôl amser ac felly ni cheir sylwebaeth ar dueddiadau. Mae’r pandemig yn ffactor cymhlethu wrth gymharu 2020 a 2021 â blynyddoedd eraill hefyd. Bydd y crynodeb yn cynnwys data awdurdodau lleol, ond ni fydd yn cymharu’r data gyda blynyddoedd blaenorol nac ar draws awdurdodau.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi mai cyfradd y rhai nad ydynt wedi ymateb ar gyfer Blwyddyn 11 yn 2021 yw 1.1% (365 o unigolion) o gymharu ag 0.9% (263 o unigolion) yn 2020, 1.1% (350 o unigolion) yn 2019, 3.5% (1043 o unigolion) yn 2018 a  0.5% (169 o unigolion) yn 2017. Ar gyfer Blwyddyn 12 roedd yn 1.1% (142 o unigolion), o gymharu ag 1.2% (147 o unigolion) yn 2020, 2.2% (268 o unigolion) yn 2019, 3.7% (482 o unigolion) yn 2018 ac 1.6% (220 o unigolion) yn 2017. Ym Mlwyddyn 13 roedd y ganran yn 7.0% yn 2021 (764 o unigolion) o gymharu â 4.2% (418 o unigolion) yn 2020, 9.6% yn 2019 (1011 o unigolion), 11.6% (1275 o unigolion) yn 2018 a 3.7% yn 2017 (436 o unigolion). Ac eithrio Blwyddyn 13, mae cyfraddau’r rhai nad ydynt wedi ymateb ar gyfer 2021 yn debyg i’r rhai a welwyd cyn 2018.

Mae’r ffaith nad yw rhai’n ymateb yn ystumio’r data sy’n ymwneud â rhai grwpiau gan olygu bod cymharu ar draws blynyddoedd gwahanol yn debygol o arwain at gasgliadau anghywir. Er enghraifft,  mae ffigur y rhai ‘Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Chyflogaeth’ yn 2018 yr un fath ag yr oedd yn 2017 sef 1.6% (491 yn 2017 o gymharu â 476 yn 2018). Fodd bynnag, roedd canran disgyblion Blwyddyn 11 sy’n parhau mewn addysg amser llawn yn 2018 yn is o 1.8 pwynt canran o gymharu â 2017 (86.4% (25,626) o gymharu â 88.2% (27,189)). Ynghyd â’r rhai na wnaeth ymateb i’r arolwg (cynnydd o 3 pwynt canran yn 2018), y ddau gategori yma sy’n dangos y gwahaniaethau mwyaf ar draws y ddwy flwyddyn. Yn sgil absenoldeb gwybodaeth am gofrestriadau gan rai colegau Addysg Bellach (AB), byddai’n rhesymol efallai ystyried bod mwyafrif y rhai na ymatebodd wedi parhau mewn addysg amser llawn yn y sector AB, ond ni allwn gymryd yn ganiataol bod hynny’n wir.

Diffiniadau

Mae’r rhan fwyaf o’r penawdau a ddefnyddir yn yr adroddiadau hynt yn hunaneglurhaol. Fodd bynnag, gall y canlynol eich helpu i ddeall.

Termau a diffiniadau
Addysg Amser Llawn y rhai sydd mewn addysg am fwy nag 16 awr yr wythnos.
Addysg Bellach (AB) Addysg Bellach mewn coleg, yn cynnwys colegau trydyddol ôl-16 yn hytrach na mewn chweched dosbarth mewn ysgol (blynyddoedd 12 ac 13).
Addysg Ran-amser Y rhai sydd mewn addysg ran-amser am 16 awr neu lai yr wythnos. Dyma’r rhai oedd yn arfer bod yn y categori NEET ond sydd wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009.
Blwyddyn i Ffwrdd Dim ond y rhai ar flwyddyn ffurfiol i ffwrdd (h.y. y rhai sydd wedi gwneud cais i UCAS a chael mynediad wedi’i ohirio i Addysg Uwch) sy’n cael eu cynnwys yn y ffigurau blwyddyn i ffwrdd. Mae unigolion sydd heb fynd i Addysg Uwch, ond sy’n meddwl am wneud cais wedi’u cynnwys o dan cyrchfannau perthnasol eraill (fel ar 31 Hydref 2021).
Grwpiau lleiafrifoedd ethnig Cyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn a Du Caribïaidd Cymysg; Gwyn a Du Affricanaidd Cymysg; Gwyn ac Asiaidd Cymysg; Cymysg Arall; Indiaidd, Pacistanaidd; Bangladeshaidd; Asiaidd Arall; Caribïaidd; Affricanaidd; Du Arall; Tsieinïaidd; Grŵp Ethnig Arall.
Gwyn Cyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn Prydeinig; Gwyn Gwyddelig; Gwyn Arall.
Hyfforddiant yn y Gweithle Mae hyn yn cynnwys Prentisiaethau Modern a hyfforddiant arall a ariennir gan y Llywodraeth.
Hyfforddiant yn y Gweithle – statws anghyflogedig Mae hyn yn cynnwys pob math o hyfforddiant yn y gweithle heb statws cyflogedig a ariennir gan y Llywodraeth.
Nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydynt ar gael i weithio a’r rhai di-waith. Roedd pobl ifanc mewn addysg ran-amser (16 awr neu lai yr wythnos) yn arfer bod yn rhan o’r categori hwn ond maent wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009.
Wedi gadael yr ardal Y rhai sydd wedi gadael Cymru.