Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2021

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 17 ac 18 oed a oedd yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2021, yn cwmpasu 10,937 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2021, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 13 yn 2021.

  • Roedd 46.3% yn fechgyn a 53.6% yn ferched
  • Aeth 79.0% o’r garfan (8,639 o unigolion) ymlaen i ryw fath o drefniant dysgu parhaus neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd cyfran uwch o garfan y merched yn y categori hwn (81.4%) o gymharu â’r bechgyn, sef 76.1%
  • Dewisodd 76.6% o’r garfan (8,382 o unigolion) barhau mewn addysg amser llawn. O’r rheini, aeth 84.3% (7,063 o unigolion), ymlaen i addysg uwch. Roedd hyn yn 64.6% o gyfanswm y garfan
  • Aeth 69.2% o gyfanswm y garfan merched ymlaen i addysg uwch o gymharu â 59.2% o gyfanswm y garfan bechgyn
  • O’r rhai a ddewisodd barhau ag addysg llawn amser, dewisodd canran is, sef 5.7% (481 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol o gymharu â 8.1% (678 o unigolion) a barhaodd â’u haddysg mewn coleg addysg bellach. Roedd canran carfan y bechgyn a oedd yn parhau â’u haddysg amser llawn naill ai yn yr ysgol neu’r coleg yn uwch o gymharu â’r merched (17.3 % a 11.0% yn y drefn honno)
  • Roedd canran ymadawyr Blwyddyn 13 a barhaodd mewn addysg llawn amser a arhosodd ym Mlwyddyn 14 yn yr ysgol, yn 5.7%. Roedd canran y bechgyn yn 7.7% yn 2021 o'i gymharu â 4.2% o ferched
  • Dywedodd 1.9% (160 o unigolion) o’r rhai a barhaodd mewn addysg eu bod am gymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r nod o fynd ymlaen i addysg uwch y flwyddyn ganlynol
  • Dewisodd 34 o unigolion (0.3%) barhau mewn addysg ran-amser (16 awr yr wythnos neu lai)
  • Ymunodd 13.5% (1,477 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle. Aeth 11.5% (1,254 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth, 2.9 pwynt canran yn fwy o fechgyn nag o ferched
  • Dewisodd cyfran fach o’r garfan, sef 0.1% (9 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle heb statws cyflogedig
  • Dewisodd 2.0% (214 o unigolion) ddysgu yn seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Dewisodd canran uwch o fechgyn (2.6%) y llwybr hwn o gymharu â merched (1.4%)
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 2.3% o’r garfan (251 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn, sef 2.9% (149 o unigolion) yn y categori hwn o gymharu â merched 1.7% (102 o unigolion)
  • Roedd 0.3% (29 o unigolion) o’r garfan wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 13

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 13 yn dangos bod y mwyafrif (76.6%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod.

Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 13

StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser3,70673.14,67379.73100.008,38276.6
Parhau Mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)150.3190.300.0340.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig50.140.100.090.1
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig1332.6811.400.02142.0
Cyflogedig - Arall65913.059510.100.01,25411.5
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant1492.91021.700.02512.3
Dim ymateb i'r arolwg3887.73766.400.07647.0
Wedi gadael yr ardal140.3150.300.0290.3
Cyfanswm y cohort5,0691005,865100310010,937100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn73.1%
Merched79.7%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-182847.71964.2133.34815.7
Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach3589.73206.800.06788.1
Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU)3,00080.94,06186.9266.77,06384.3
Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU641.7962.100.01601.9
Cyfanswm3,7061004,67310031008,382100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc)
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith i bobl ifanc8355.75049.00013353.0
Yn methu symud ymlaen at addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati6644.35251.00011847.0
Cyfanswm14910010210000251100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd: 

  • Y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 80.8%. Roedd hyn yn cymharu â 76.2% ar gyfer unigolion o gefndir gwyn
  • Dewisodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (7 pwynt canran o wahaniaeth) waith y tu allan i hyfforddiant a noddir gan y Llywodraeth (12.2% o gefndir gwyn o gymharu â 5.2% o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig)
  • Roedd gwahaniaeth o 1.5 pwynt canran rhwng grwpiau cefndir gwyn a lleiafrifoedd ethnig a ddewisodd hyfforddiant yn y gweithle - statws cyflogedig (y naill yn 2.1% a’r llall yn 0.6%)
  • Roedd cyfran y bobl ifanc o gefndir lleiafrifoedd ethnig a oedd yn NEET yn is na chyfran y rhai o gefndir gwyn (1.9% o gymharu â 2.3%). Mae hyn yn cyfateb i 229 o unigolion o gefndir gwyn a 19 o unigolion o leiafrifoedd ethnig
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn (ysgolion a cholegau)7,47676.281180.89581.28,38276.6
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)300.330.310.9340.3
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws diwaith80.110.100.090.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn gwaith2052.160.632.62142.0
Cyflogedig1,19612.2525.265.11,25411.5
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant2292.3191.932.62512.3
Anhysbys6456.611011.097.77647.0
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal270.320.200.0290.3
Cyfanswm y garfan9,8161001,00410011710010,937100
% o'r garfan gyfan 89.8 9.2 1.1 100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill