Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2021

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 15 neu 16 oedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol, sef Blwyddyn 11 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2021, yn cwmpasu 32,039 o ddisgyblion, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 11 yn 2021.

  • Roedd 51.0% (16,350 o unigolion) yn fechgyn a 48.9% (15,656 o unigolion) yn ferched. Dewisodd 33 o ddisgyblion (0.1%) ddisgrifio eu hunain fel arall
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 93.9% (30,082 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 92.7% o fechgyn, 95.1% o ferched a 97.0% o ddisgyblion yn y categori arall
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 88.6 % (28,392 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O’r rhai a arhosodd mewn addysg amser llawn, roedd 55.8% yn parhau mewn coleg addysg bellach (15,852 o unigolion) a 44.2% (12,540 o unigolion) yn parhau â’u haddysg yn yr ysgol
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (4.4 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (4.4 pwynt canran yn fwy na bechgyn) aros yn yr ysgol
  • Ymunodd 7.8% o’r garfan (2,500 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur, gwahaniaeth o 4.3 pwynt canran (9.9% o fechgyn o gymharu â 5.6% o ferched)
  • Dewisodd 2.7% (861 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 2.3% o’r garfan (729 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (1.2%) na merched (1.2%) yn y categori hwn (gwahaniaeth o 2.2 pwynt canran)
  • Dewisodd 2.8% (910 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Dewisodd mwy o fechgyn na merched y llwybr hwn; gwahaniaeth o 1.7 pwynt canran
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 1.6% o’r garfan (507 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Bechgyn oedd 56.0% o’r cyfanswm (284 o unigolion) o gymharu â 43.8% o ferched (222 o unigolion). Mae hyn yn wahaniaeth o 12.2 pwynt canran rhwng merched a bechgyn
  • Roedd 32.5% (165 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent yn NEET yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET) (o gymharu â’r 342 (67.5%) unigolyn nad oedd yn gallu mynd i EET oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati)
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.1% o’r garfan (365 o unigolion)
  • Roedd 0.5% (175 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 11

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 11 yn dangos bod y mwyafrif (88.6%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 11
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 14,062 86.0 14,298 91.3 32 97.0 28,392 88.6
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 75 0.5 25 0.2 0 0.0 100 0.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig 471 2.9 390 2.5 0 0.0 861 2.7
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig 548 3.4 181 1.2 0 0.0 729 2.3
Cyflogedig - Arall 600 3.7 310 2.0 0 0.0 910 2.8
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant 284 1.7 222 1.4 1 3.0 507 1.6
Dim ymateb i'r arolwg 229 1.4 136 0.9 0 0.0 365 1.1
Wedi gadael yr ardal 81 0.5 94 0.6 0 0.0 175 0.5
Cyfanswm y garfan 16,350 100 15,656 100 33 100 32,039 100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
Rhywedd Canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn 86%
Merched 91.3%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau i Flwyddyn 12 yn yr ysgol 5,902 42.0 6,629 46.4 9 28.1 12,540 44.2
Parhau i Flwyddyn 12 mewn colegau Addysg Bellach 8,160 58.0 7,669 53.6 23 71.9 15,852 55.8
Cyfanswm 14,062 100 14,298 100 32 100 28,392 100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig ar waith (i bobl ifanc)
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith 97 34.2 67 30.2 1 100.0 165 32.5
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall 187 65.8 155 69.8 0 0.0 342 67.5
Cyfanswm 284 100 222 100 1 100 507 100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 92.4% (o gymharu ag 88.3% o’r rhai o gefndir gwyn)
  • Ymunodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn â’r amrywiol gategorïau yn y farchnad lafur (8.2%) o gymharu â’r rhai o leiafrifoedd ethnig (3.6%)
  • Roedd cyfran uwch o bobl ifanc NEET yn hanu o gefndiroedd gwyn (1.6% neu 480 o unigolion) o gymharu ag unigolion o leiafrifoedd ethnig (0.9% neu 23 o unigolion)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 11 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 25,749 88.3 2,340 92.4 303 86.6 28,392 88.6
Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr) 92 0.3 7 0.3 1 0.3 100 0.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig 805 2.8 43 1.7 13 3.7 861 2.7
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig 712 2.4 14 0.6 3 0.9 729 2.3
Cyflogedig 867 3.0 35 1.4 8 2.3 910 2.8
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant 480 1.6 23 0.9 4 1.1 507 1.6
Anhysbys 324 1.1 37 1.5 4 1.1 365 1.1
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal 128 0.4 33 1.3 14 4.0 175 0.5
Cyfanswm y garfan 29,157 100 2,532 100 350 100 32,039 100
% o'r garfan gyfan   91.0   7.9   1.1   100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill