Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2021

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2021, yn cwmpasu 12,411 o ddisgyblion, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 12 yn 2021.

  • Roedd 45.9% (5,694 o unigolion) yn fechgyn a 54.0% (6,708 o unigolion) yn ferched. Dewisodd 9 o ddisgyblion (0.1%) ddisgrifio eu hunain fel arall
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 96.9% (12,027 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 96.6% o fechgyn a 97.2% o ferched
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 96.1 % (11,922 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O’r rhai a arhosodd mewn addysg amser llawn (11,420 o unigolion), roedd 95.8% yn parhau mewn ysgol a 4.2% yn parhau mewn coleg addysg bellach (495 o unigolion)
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (1.4 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (1.4 pwynt canran yn fwy na bechgyn) aros yn yr ysgol
  • Ymunodd 2.1% o’r garfan (259 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur, gwahaniaeth o 0.4 pwynt canran (2.3% o fechgyn o gymharu â 1.9% o ferched)
  • Dewisodd 0.2% (21 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 0.6% o’r garfan (75 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (0.7%) na merched (0.5%) yn y categori hwn
  • Dewisodd 1.3% (163 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Roedd y ganran yr un fath ar gyfer bechgyn (1.3%) a merched (1.3%) ond roedd mwy o ferched (87) na bechgyn (76)
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 0.4% o’r garfan (55 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Bechgyn oedd 50.9% o’r cyfanswm (28 o unigolion) o gymharu â 49.1% o ferched (27 o unigolion)
  • Roedd 36.4% (10 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent yn NEET yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET)
  • Ni lwyddodd 63.6% (35 o unigolion) o’r rhai a oedd yn NEET i fynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.1% o’r garfan (142 o unigolion)
  • Roedd 0.2% (24 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 12

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 12 yn dangos bod y mwyafrif (96.1%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod.
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 12
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser
 
5,437 95.5 6,476 96.5 9 100.0 11,922 96.1
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 7 0.1 2 0.0 0 0.0 9 0.1
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig 12 0.2 9 0.1 0 0.0 21 0.2
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig 42 0.7 33 0.5 0 0.0 75 0.6
Cyflogedig - Arall 76 1.3 87 1.3 0 0.0 163 1.3
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant 28 0.5 27 0.4 0 0.0 55 0.4
Dim ymateb i'r arolwg 84 1.5 58 0.9 0 0.0 142 1.1
Wedi gadael yr ardal 8 0.1 16 0.2 0 0.0 24 0.2
Cyfanswm y garfan 5,694 100 6,708 100 9 100 12,411 100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
Rhywedd Canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn 95.5%
Merched 96.5%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr ysgol 5,167 95.0 6,245 96.4 8 88.9 11,420 95.8
Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach 268 4.9 226 3.5 1 11.1 495 4.2
Blwyddyn 12 parhau i Addysg Uwch (AU) 2 0.0 5 0.1 0 0.0 7 0.1
Blwyddyn 12 yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd i AU 0 0.0 0 0.0 0 0.0 0 0.0
Cyfanswm 5,437 100 6,476 100 9 100 11,922 100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc)
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %

Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith
9 32.1 11 40.7 0 0 20 36.4
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati 19 67.9 16 59.3 0 0 35 63.6
Cyfanswm 28 100 27 100 0 0 55 100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 96.0%. Mae hyn ychydig yn is na’r gyfran ar gyfer rhai o gefndir gwyn (96.1%)
  • Roedd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (1.2 pwynt canran o wahaniaeth) wedi’u cynrychioli yn y categori 'cyflogedig - arall', 1.5% o gefndir gwyn o gymharu ag 0.3% o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
  • Mae’r ffigur NEET ar gyfer y rhai o gefndir gwyn yr un fath ag yw ar gyfer y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (0.5%)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 10,069 96.1 1,203 96.0 650 95.6 11,922 96.1
Parhau mewn Addysg Ran Amser (llai na 16 awr yr wythnos) 8 0.1 0 0.0 1 0.1 9 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-Waith 19 0.2 1 0.1 1 0.1 21 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Mewn Gwaith 69 0.7 2 0.2 4 0.6 75 0.6
Cyflogedig 154 1.5 4 0.3 5 0.7 163 1.3
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 48 0.5 6 0.5 1 0.1 55 0.4
Anhysbys 104 1.0 30 2.4 8 1.2 142 1.1
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal 7 0.1 7 0.6 10 1.5 24 0.2
Cyfanswm y garfan 10,478 100 1,253 100 680 100 12,411 100
% o'r garfan gyfan   84.4   10.1   5.5   100.0

Gweld grwpiau blwyddyn eraill