Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion 2022

Mae Gyrfa Cymru yn llunio arolwg blynyddol o'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r arolwg yn rhoi darlun defnyddiol o hynt disgyblion.

Mae hynt disgyblion yn cael eu hadrodd fesul grŵp blwyddyn. Hynt disgybl yw eu gweithgaredd hysbys ar 31 Hydref ar ôl iddynt adael y grŵp blwyddyn hwnnw. Er enghraifft, mae hynt Blwyddyn 11 yn dangos gweithgaredd disgyblion y mis Hydref ar ôl iddynt adael y flwyddyn ysgol honno.

Ynglŷn â’r arolwg hynt

Rydym yn llunio'r arolwg o'r data a ddarparwyd i ni. Rydym yn dibynnu ar sefydliadau partner yn rhannu gwybodaeth myfyrwyr i roi darlun mor llawn â phosibl.

Mae'r arolwg yn llywio cydweithwyr yn eu gwaith gyda chwsmeriaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr. Mae'r data hefyd yn helpu partneriaid sy'n ymwneud â chynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae'r arolwg yn edrych ar y llwybrau dilyniant a ddewisir gan bobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Addysg
  • Cyflogaeth
  • Hyfforddiant

Rydym yn darparu dadansoddiad pellach yn seiliedig ar ethnigrwydd a rhyw disgyblion, lle mae'r wybodaeth ar gael.

Pwy mae'r arolwg yn ei gynnwys?

Mae arolwg eleni yn adrodd am hynt 55,715 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae'n cynnwys:

  • Disgyblion sydd wedi cyrraedd oedran gadael statudol ym Mlwyddyn 11
  • Disgyblion sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 12 a 13
  • Disgyblion o ysgolion arbennig yn y grwpiau blwyddyn hyn

Nid yw’r arolwg yn cynnwys disgyblion sy’n mynychu:

  • Colegau Addysg Bellach (AB)
  • Ysgolion annibynnol

Mae bechgyn yn cyfrif am 49.2% o'r garfan gyfan (27,430 o unigolion) a merched yn cyfrif am 50.7% (28,252 o unigolion). Nododd 33 o ddisgyblion eu bod yn y categori arall ac mae’n well gennyf beidio â dweud ar gyfer rhyw.

Pwyntiau i'w nodi

2022 oedd y flwyddyn gyntaf ers 2019 i ddysgwyr sefyll arholiadau allanol yng Nghymru. Ni chafwyd unrhyw arholiadau allanol yn 2020 na 2021 oherwydd pandemig COVID-19. Dyfarnwyd canlyniadau'r blynyddoedd hyn ar sail graddau a ddyfarnwyd gan y ganolfan.

Canran disgyblion Blwyddyn 11 yn gadael yr ysgol yn 2022 ac yn dychwelyd i addysg amser llawn yw’r isaf ers 2014, sef 87.8% ac eithrio 2018 pan oedd yn 86.4%

Yn 2020, gwelwyd y ganran uchaf erioed o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn gadael yr ysgol ac yn dychwelyd i addysg amser llawn (90.4%). Yn 2021, gwelwyd y ganran uchaf heblaw am un (88.6%)

Yn 2018, fodd bynnag, roedd cyfradd ‘Dim Ymateb’ uchel iawn. Yn dilyn cyflwyno Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), ni fu’n bosibl cytuno ar gytundebau rhannu data gyda’r holl sefydliadau mewn pryd ar gyfer arolwg 2018.

Yn 2022, roedd canran y rhai sy’n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 11 y gwyddys nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) (2.1%) yr uchaf ers 2015.

Wrth gymharu â blynyddoedd eraill, felly, mae’n bwysig ystyried ffactorau amrywiol, gan gynnwys y problemau rhannu data a effeithiodd ar y gyfradd ‘Dim Ymateb’ yn 2018.

Noder:

  • Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu ac felly ni fydd y cyfanswm yn 100% bob tro
  • Gallai ffigyrau cenedlaethol guddio amrywiannau ar lefel rhanbarthau, awdurdodau lleol a sefydliadau ym mhob carfan. Rydym yn darparu hynt disgyblion fesul ardal awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r gwaith dadansoddi ar lefel leol
  • Dim ond cynrychiolaeth weledol yw’r graffigwaith ac nid yw ar raddfa fanwl gywir o reidrwydd
Diffiniadau
Termau a diffiniadau
Addysg Amser Llawn y rhai sydd mewn addysg am fwy nag 16 awr yr wythnos.
Addysg Bellach (AB) Addysg Bellach mewn coleg, yn cynnwys colegau trydyddol ôl-16 yn hytrach na mewn chweched dosbarth mewn ysgol (blynyddoedd 12 ac 13).
Addysg Ran-amser Y rhai sydd mewn addysg ran-amser am 16 awr neu lai yr wythnos. Dyma’r rhai oedd yn arfer bod yn y categori NEET ond sydd wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009.
Blwyddyn i Ffwrdd Dim ond y rhai ar flwyddyn ffurfiol i ffwrdd (h.y. y rhai sydd wedi gwneud cais i UCAS a chael mynediad wedi’i ohirio i Addysg Uwch) sy’n cael eu cynnwys yn y ffigurau blwyddyn i ffwrdd. Mae unigolion sydd heb fynd i Addysg Uwch, ond sy’n meddwl am wneud cais wedi’u cynnwys o dan cyrchfannau perthnasol eraill (ar 31 Hydref yn dilyn dyddiad gadael yr ysgol).
Grwpiau lleiafrifoedd ethnig Cyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn a Du Caribïaidd Cymysg; Gwyn a Du Affricanaidd Cymysg; Gwyn ac Asiaidd Cymysg; Cymysg Arall; Indiaidd, Pacistanaidd; Bangladeshaidd; Asiaidd Arall; Caribïaidd; Affricanaidd; Du Arall; Tsieinïaidd; Grŵp Ethnig Arall.
Gwyn Cyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn Prydeinig; Gwyn Gwyddelig; Gwyn Arall.
Hyfforddiant yn y Gweithle Mae hyn yn cynnwys Prentisiaethau Modern a hyfforddiant arall a ariennir gan y Llywodraeth.
Hyfforddiant yn y Gweithle – statws anghyflogedig Mae hyn yn cynnwys pob math o hyfforddiant yn y gweithle heb statws cyflogedig a ariennir gan y Llywodraeth.
Nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydynt ar gael i weithio a’r rhai di-waith. Roedd pobl ifanc mewn addysg ran-amser (16 awr neu lai yr wythnos) yn arfer bod yn rhan o’r categori hwn ond maent wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009.
Wedi gadael yr ardal Y rhai sydd wedi gadael Cymru.