Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2022

Crynodeb

Mae’r ffigurau ar gyfer disgyblion 17 ac 18 oed a oedd yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt disgyblion ar 31 Hydref 2022, ar gyfer 11,315 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2022.

  • Roedd 45.8% yn fechgyn a 54.1% yn ferched
  • Aeth 80.1% o’r garfan (9,058 o unigolion) i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd cyfran uwch o'r garfan gyfan o ferched yn y categori hwn (81.8%) o gymharu â bechgyn (78.1%)
  • Parhaodd 76.7% o'r garfan (8,684 o unigolion) mewn addysg amser llawn. O'r rheini, aeth 83.3% (7,238 o unigolion) ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch. Roedd hyn yn cynrychioli 64.0% o gyfanswm y garfan
  • Aeth 68.5% o’r garfan gyfan o ferched ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch a 58.7% o gyfanswm y garfan o fechgyn
  • O'r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn, parhaodd 6.4% (553 o unigolion) â'u haddysg mewn ysgol o gymharu â 9.0% (780 o unigolion) a barhaodd mewn coleg addysg bellach
  • Dywedodd 1.3% (113 o unigolion) o'r rhai sy'n parhau mewn addysg eu bod yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd ymlaen i addysg uwch y flwyddyn ganlynol
  • Parhau mewn addysg rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) oedd y llwybr a gymerwyd gan 47 o unigolion (0.4%)
  • Aeth 15.6% (1,767 o unigolion) i mewn i'r farchnad lafur, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith
  • Aeth 12.7% (1,440 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth, 13.7% o fechgyn (710 o unigolion) ac 11.9% o ferched (730 o unigolion)
  • Aeth cyfran fechan o'r garfan 0.2% (24 o unigolion) i hyfforddiant yn seiliedig ar waith heb statws cyflogedig
  • Aeth 2.7% (303 o unigolion) i ddysgu yn seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Dilynodd canran uwch o fechgyn (3.8%) na merched (1.7%) y llwybr hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, gwyddys nad oedd 2.8% (322 o unigolion) o’r garfan mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn 3.6% (184 o unigolion) na merched 2.2% (134 o unigolion) yn y categori hwn
  • Dangoswyd bod 0.3% (29 o unigolion) o'r garfan wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 13

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 13 yn dangos bod y mwyafrif (76.7%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 13
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser3,81173.54,87079.5337.58,68476.7
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)250.5220.400.0470.4
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig140.3100.200.0240.2
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig1963.81071.700.03032.7
Cyflogedig - Arall71013.773011.900.01,44012.7
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant1843.61342.2450.03222.8
Dim ymateb i'r arolwg2314.52343.8112.54664.1
Wedi gadael yr ardal110.2180.300.0290.3
Cyfanswm y garfan5,1821006,125100810011,315100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn73.5%
Merched79.5%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-183168.32354.8266.75536.4
Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach40710.73737.700.07809.0
Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU)3,04379.84,19486.1133.37,23883.3
Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU451.2681.400.01131.3
Cyfanswm3,8111004,87010031008,684100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc)
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith i bobl ifanc8747.35944.0125.014745.7
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall9752.77556.0375.017554.3
Cyfanswm1841001341004100322100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o lwybr ar draws yr holl grwpiau ethnig lleiafrifol oedd parhau mewn addysg amser llawn ar 84.5%. Roedd hyn yn cymharu â 75.9% ar gyfer unigolion o gefndir gwyn
  • Aeth canran uwch o'r rhai o gefndir gwyn i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a noddir gan y Llywodraeth (13.5% o'r rhai o gefndir gwyn o gymharu â 6.9% o'r rhai o gefndir ethnig lleiafrifol)
  • Aeth canran uwch o'r rhai o gefndir gwyn i mewn i hyfforddiant yn seiliedig ar waith - statws cyflogedig (2.8% o'r rhai o gefndir gwyn o gymharu ag 1.3% o'r rhai o gefndir ethnig lleiafrifol)
  • Roedd cyfran y bobl ifanc NEET o gefndir ethnig lleiafrifol yn uwch na chyfran y rhai â chefndir gwyn (3.0% o gymharu â 2.8%). Mae hyn yn cynrychioli 282 o unigolion o gefndir gwyn a 32 o unigolion o gefndir ethnig lleiafrifol
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)7,56175.988784.523679.58,68476.7
Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)370.480.820.7470.4
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig220.210.110.3240.2
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig2772.8141.3124.03032.7
Cyflogedig1,34213.5726.9268.81,44012.7
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant2822.8323.082.73222.8
Anhysbys4214.2333.1124.04664.1
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal260.330.300.0290.3
Cyfanswm y garfan9,9681001,05010029710011,315100
% o'r garfan gyfan 88.1 9.3 2.6 100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill