Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2022

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt y disgyblion hyn ar 31 Hydref 2022, ar gyfer 12,086 o ddisgyblion.

  • Roedd 47.4% (5,726 o unigolion) yn fechgyn a 52.6% (6,360) yn ferched. Ni nododd unrhyw un o'r disgyblion eu hunain fel arall
  • Aeth mwyafrif y garfan, 95.8% (11,574 o unigolion) i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg amser llawn, addysg rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli 95.5% o fechgyn a 96.0% o ferched
  • Parhaodd y gyfran fwyaf o'r garfan, 94.2 % (11,388 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • Parhaodd 91.7% o'r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn (10,442 o unigolion) â'u haddysg yn yr ysgol a pharhaodd 8.2% mewn coleg addysg bellach (938 o unigolion)
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (9%) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach na merched (7.6%)
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (92.4%) barhau i Flwyddyn 13 yn yr ysgol na bechgyn (90.9%)
  • Aeth 3.5% o'r garfan (429 unigolion) i mewn i'r Farchnad Lafur, naill ai i mewn i gyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur (4.0% o fechgyn a 3.1% o ferched)
  • Aeth 0.4% (44 o unigolion) i hyfforddiant yn seiliedig ar waith, statws anghyflogedig
  • Aeth 0.8% o'r garfan (100 o unigolion) i hyfforddiant yn seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (1.1%) na merched (0.6%) yn y categori hwn
  • Aeth 2.4% (285 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i gyllid a gefnogir gan y Llywodraeth; bechgyn 2.5% (142 o unigolion) a merched 2.2% (143 o unigolion)
  • Ar ddyddiad yr arolwg, gwyddys nad oedd 0.7% o’r garfan (80 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Roedd bechgyn yn cyfrif am 47.5% o'r cyfanswm (38 o unigolion) o gymharu â merched ar 52.5% (42 o unigolion)
  • Roedd 41.3% (33 o unigolion) o'r rhai y gwyddys sy’n NEET yn gallu mynd i addysg, gyflogaeth neu hyfforddiant
  • Ni lwyddodd 58.8% o'r rheini y gwyddys sy’n NEET (47 o unigolion) i fynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 0.9% o’r garfan (114 o unigolion)
  • Dangoswyd bod 0.3% (33 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 12

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 12 yn dangos bod y mwyafrif (94.2%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 12
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 5,355 93.5 6,033 94.9 0 0.0 11,388 94.2
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 28 0.5 14 0.2 0 0.0 42 0.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig 26 0.5 18 0.3 0 0.0 44 0.4
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig 61 1.1 39 0.6 0 0.0 100 0.8
Cyflogedig - Arall 142 2.5 143 2.2 0 0.0 285 2.4
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant 38 0.7 42 0.7 0 0.0 80 0.7
Dim ymateb i'r arolwg 56 1.0 58 0.9 0 0.0 114 0.9
Wedi gadael yr ardal 20 0.3 13 0.2 0 0.0 33 0.3
Cyfanswm y garfan 5,726 100 6,360 100 0 0 12,086 100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
Rhywedd Canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn 93.5%
Merched 94.9%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr ysgol 4,869 90.9 5,573 92.4 0 0.0 10,442 91.7
Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach 482 9.0 456 7.6 0 0.0 938 8.2
Blwyddyn 12 parhau i Addysg Uwch (AU) 4 0.1 3 0.0 0 0.0 7 0.1
Blwyddyn 12 yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd i AU 0 0.0 1 0.0 0 0.0 1 0.0
Cyfanswm 5,355 100 6,033 100 0 0 11,388 100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc)
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith 19 50.0 14 33.3 0 0.0 33 41.3
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall 19 50.0 28 66.7 0 0.0 47 58.8
Cyfanswm 38 100 42 100 0 0 80 100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o lwybr ar draws yr holl grwpiau ethnig lleiafrifol oedd parhau mewn addysg amser llawn ar 95.4%. Mae hyn yn uwch na'r gyfran ar gyfer y rhai o gefndir gwyn (94.1%)
  • Aeth canran uwch o'r rhai o gefndiroedd gwyn i'r categorïau marchnad lafur amrywiol (3.8%) o gymharu â'r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (2.2%)
  • Roedd cyfran uwch o bobl ifanc NEET yn dod o gefndiroedd gwyn (0.7% neu 70 o unigolion) o gymharu ag unigolion o leiafrif ethnig (0.6% neu 8 unigolyn)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 9,991 94.1 1,209 95.4 188 94.0 11,388 94.2
Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr) 36 0.3 3 0.2 3 1.5 42 0.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig 34 0.3 10 0.8 0 0.0 44 0.4
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig 96 0.9 4 0.3 0 0.0 100 0.8
Cyflogedig 271 2.6 14 1.1 0 0.0 285 2.4
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant 70 0.7 8 0.6 2 1.0 80 0.7
Anhysbys 100 0.9 12 0.9 2 1.0 114 0.9
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal 21 0.2 7 0.6 5 2.5 33 0.3
Cyfanswm y garfan 10,619 100 1,267 100 200 100 12,086 100
% o'r garfan gyfan   87.9   10.5   1.7   100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill