Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Yn 2022, roedd 1,066 o'r rhai sy’n gadael yr ysgol o Flwyddyn 11, 12 ac 13 y gwyddys eu bod yn NEET yng Nghymru, sef 1.9% o gyfanswm y garfan
- Fel mewn blynyddoedd blaenorol, parhaodd carfan Blwyddyn 13 i fod â chanran uwch o NEET (2.8% (322) o unigolion) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (2.1% - 664 o unigolion) a Blwyddyn 12 (0.7% - 80 o unigolion)
- Canran y cwsmeriaid Blwyddyn 11 oedd yn methu â mynd i mewn i Gyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, gofalu am eraill neu feichiogrwydd oedd 1.4%. Yn yr un categori, roedd canran cwsmeriaid Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.4% a 1.5% yn y drefn honno
- Roedd canran y merched NEET Blwyddyn 11 nad ydynt yn gallu mynd i mewn i addysg cyflogaeth nac hyfforddiant eleni ychydig yn uwch nag ar gyfer bechgyn NEET (68.1% o ferched NEET a 65.8% o fechgyn NEET)
Parhau mewn Addysg Amser Llawn
- Mae parhau mewn addysg amser llawn yn parhau i fod y dewis mwyaf poblogaidd o blith hynt disgyblion ym mhob un o'r tri grŵp blynyddoedd
- Dewisodd canran uwch o ferched na bechgyn ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn
Carfan | Bechgyn | Merched | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Blwyddyn 11 | 85.6% | 90.2% | 4.6 pwynt canran |
Blwyddyn 12 | 93.5% | 94.9% | 1.3 pwynt canran |
Blwyddyn 13 | 73.5% | 79.5% | 6.0 pwynt canran |
Pan ddangosir newidiadau neu wahaniaethau o ran pwyntiau canrannol, cyfrifir y rhain gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu. Gall hyn ddarparu ffigur gwahanol o gymharu â defnyddio ffigurau wedi'u talgrynnu.
Roedd cyfran uwch o'r rhai sy'n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11 wedi dewis Addysg Bellach dros chweched dosbarth ysgolion, o 19.8 pwynt canran.
- Chweched Dosbarth 40.1%
- Coleg AB 59.9%
Yn 2022, o’r rhai a ddosbarthwyd fel rhai sy’n parhau mewn Addysg llawn Amser, roedd mynd i addysg bellach (AB) yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn ac i ferched fel ei gilydd. Roedd y gwahaniaeth yn fwy ar gyfer bechgyn (62.2% yn mynd i AB, o gymharu â 37.8% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (57.5% yn mynd i AB, o gymharu â 42.5% yn aros yn yr ysgol).
Ym Mlwyddyn 11, Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, roedd canran uwch o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau mewn addysg llawn amser o gymharu â'r rhai sy’n wyn.
Carfan | Gwyn | Lleiafrifoedd Ethnig |
---|---|---|
Blwyddyn 11 | 87.4% | 92.9% |
Blwyddyn 12 | 94.1% | 95.4% |
Blwyddyn 13 | 75.9% | 84.5% |
Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant
- Roedd canran y bobl ifanc a aeth i mewn i hyfforddiant a gwaith a gefnogir gan y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ar gyfer y rheini ym Mlwyddyn 11 ar 4.4% (1,437 o unigolion). Aeth 1.2% (144 o unigolion) o garfan Blwyddyn 12 a 2.9% (327 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 i mewn i un o’r opsiynau hyn
- Canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i gyflogaeth oedd 3.4% ar gyfer Blwyddyn 11, 2.4% ar gyfer Blwyddyn 12 a 12.7% ar gyfer Blwyddyn 13
- Roedd mynd i mewn i’r farchnad lafur (naill ai hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymhlith y bechgyn na'r merched ar draws pob un o’r tair carfan yn 2022
Carfan | Bechgyn | Merched |
---|---|---|
Blwyddyn 11 | 9.5% | 6.2% |
Blwyddyn 12 | 4.0% | 3.1% |
Blwyddyn 13 | 17.8% | 13.8% |
Aeth canran llawer llai o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol i mewn i'r farchnad lafur (cyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith) na'r rhai sy’n wyn.
Carfan | Gwyn | Lleiafrifoedd Ethnig |
---|---|---|
Blwyddyn 11 | 8.4% | 2.9% |
Blwyddyn 12 | 3.8% | 2.2% |
Blwyddyn 13 | 16.5% | 8.3% |
Cyfradd Dim Ymateb
Roedd y 'Dim Ymateb' cyffredinol yn 1.6%. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd 'Dim Ymateb' ar ei huchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 4.1% (466 o unigolion).
Blwyddyn 11 | 1.0% |
---|---|
Blwyddyn 12 | 0.9% |
Blwyddyn 13 | 4.1% |
Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 11 o ysgolion yng Nghymru 2022.
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion yng Nghymru 2022.
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 13 o ysgolion yng Nghymru 2022.