Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ymgysylltu â chyflogwyr ar gyfer ysgolion cynradd

Mae gwahodd cyflogwyr i'r ystafell ddosbarth yn cyfoethogi'r cwricwlwm ac yn dod â dysgu'n fyw.

Pam ymgysylltu â chyflogwyr?

Mae manteision ymgysylltu â chyflogwyr yn cynnwys:

  • Helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hyder
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa a gwaith
  • Meithrin dyheadau gyrfa
  • Adnabod a herio stereoteipiau
  • Nodi rhwystrau a ffyrdd o'u goresgyn
  • Rhoi cyd-destun i bynciau gan wneud iddynt deimlo'n fwy perthnasol
  • Helpu'r rhai sy'n dylanwadu ar benderfyniadau pwnc a gyrfa plant (athrawon, rhieni a gofalwyr) i ddeall mwy am lwybrau gyrfa a chyfleoedd cyfredol 

Pa weithgareddau neu gymorth y gall cyflogwyr eu cynnig?

Gall cyflogwyr gynnig:

  • Ymweliad dosbarth gan fodel rôl, naill ai yn bersonol neu drwy alwad fideo
  • Gweithdai neu wersi sy'n ymwneud â byd gwaith
  • Prosiectau menter neu weithgareddau ar thema gwaith
  • Ymweliadau disgyblion â gweithleoedd lle gallant gwrdd â phobl wrth eu gwaith
  • Cymorth i ddarparu gweithgareddau allgyrsiol, fel Clwb Codio

Syniadau i helpu i ddechrau ymgysylltu â chyflogwyr.

Canfod a recriwtio cyflogwyr

Gall ysgolion ddod o hyd i gyflogwyr sy'n barod i gefnogi eu disgyblion drwy gysylltu â:

  • Llywodraethwyr a'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon
  • Rhieni a gofalwyr
  • Sefydliadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol lleol
  • Busnesau lleol, mawr a bach

Mae sawl ffordd o gysylltu â chyflogwyr. Er enghraifft, gallai disgyblion ysgrifennu at fusnesau lleol y maent yn eu gweld ar daith gerdded gymunedol neu gellid gwneud apêl drwy ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ysgol i gyn-ddisgyblion ymuno â chymuned cyn-fyfyrwyr.

Paratoi ar gyfer ymweliad gan gyflogwr â'r ysgol

Er mwyn paratoi ar gyfer ymweliad gan gyflogwyr, bydd angen i ysgolion ddarparu’r canlynol i gyflogwyr:

  • Enw cyswllt a manylion athro
  • Dyddiad y gweithgaredd
  • Amser cyrraedd a hyd y gweithgaredd 
  • Nifer y myfyrwyr, eu hoedran a'u lefel gallu gan gynnwys unrhyw anghenion dysgu ychwanegol
  • Nodau ac amcanion y gweithgaredd
  • Gwybodaeth am y pwnc neu'r gweithdy
  • Cyfarwyddiadau, gwybodaeth am barcio a ble i adrodd wrth gyrraedd
Cynnal ymweliad gan gyflogwr

I gynnal ymweliad gan gyflogwr bydd angen i ysgolion ddarparu:

  • Lle addas i gynnal gweithgareddau
  • Staff i gefnogi grwpiau o ddysgwyr
  • Cyfleusterau fel socedi pŵer, gliniadur a bwrdd gwyn, lle bod angen
  • Gwybodaeth am ddiogelu ac asesiadau risg, lle bod angen
  • Lluniaeth