Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gwobr Datblygu Gyrfaoedd

Gwobr Datblygu Gyrfaoedd (Ôl 16) a gynlluniwyd gan Gyrfa Cymru i gydnabod ymrwymiad i wella ansawdd yn barhaus mewn sefydliad addysgol.

Mae Gwobr Datblygu Gyrfaoedd wedi'i gynllunio i fodloni gofynion statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru.

Pam ddyliwn i weithio tuag at Gwobr Datblygu Gyrfaoedd?

Mae Gwobr Datblygu Gyrfaoedd yn cyfrannu at:

  • ‘Graidd dysgu’ y Llwybrau Dysgu 14 i 19 oed
  • Cymhelliant Estyn i feithrin gallu i hunanarfarnu a gwella
  • Agweddau ar y Fframwaith Arolygu Cyffredin (FfAC) Estyn

Manteision yn sgil bod yn rhan o broses Gwobr Datblygu Gyrfaoedd:

  • Bydd sefydliadau yn cynnal y broses archwilio a datblygu cynlluniau a amlinellir yng nghanllawiau atodol Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (FfGBG) a byddent yn hunanarfarnu yn erbyn Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn
  • Bydd yn cefnogi agweddau ar y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY) ac yn ychwanegu at wella aeddfedrwydd dulliau hunanarfarnu

Mae datblygu rhaglen gadarn o Yrfaoedd a'r Byd Gwaith yn cynnig llawer o fanteision i sefydliadau addysgol a'u dysgwyr, gan gynnwys:

  • Effeithiolrwydd personol – gwella hunan-barch a chymhelliad pobl ifanc
  • Parodrwydd i gael gyrfa – gwella sgiliau ymchwilio i yrfaoedd, gwneud penderfyniadau a pharatoi ar gyfer y cyfnod pontio
  • Canlyniadau addysgol – gwella presenoldeb a chynyddu canlyniadau addysgol

Pwy fydd yn fy nghynorthwyo gyda Gwobr Datblygu Gyrfaoedd?

Nid yw Gwobr Datblygu Gyrfaoedd wedi’i gynllunio i’w gwblhau gan unigolyn, ond, yn hytrach gan yr coleg gyfan, gyda 1 neu 2 o bobl yn ei gydlynu. Fe gewch hefyd gymorth parhaus gan Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) penodedig drwy gydol y broses. 

A yw’n costio unrhyw beth i ymrwymo i Gwobr Datblygu Gyrfaoedd?

Nac ydy, nid yw’n costio dim ond gofynnir i aelod o dîm uwch reolwyr lofnodi dogfen ymrwymo.

Beth yw’r broses?

Proses gylchol yw Gwobr Datblygu Gyrfaoedd sy’n ymwneud ag:

  1. Cynnal archwiliad o’r ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith er mwyn canfod arferion da, bylchau yn y ddarpariaeth a dyblygu
  2. Hunan arfarnu’r ddarpariaeth Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn seiliedig ar Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY)
  3. Gweithredu cynllun Datblygu

Faint o amser mae’n ei gymryd i gwblhau Gwobr Datblygu Gyrfaoedd fel arfer?

Dylid cwblhau’r broses o fewn blwyddyn academaidd lawn yn dibynnu ar y cynllun datblygu a phryd y bwriedir cynnal gweithgareddau penodol.

Am ba hyd mae Gwobr Datblygu Gyrfaoedd yn para ar ôl i ni ei gael?

Bydd Gwobr Datblygu Gyrfaoedd yn para am gyfnod o 3 blynedd, fodd bynnag, mae'n canolbwyntio ar welliant parhaus felly edrychir ar y cylch archwilio, hunan arfarnu a’r cynllun datblygu eto bob blwyddyn.

Sut y caiff y gwaith ei gymedroli?

Anfonir yr holl ddogfennau at y Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) i’w hadolygu, a dim ond y Cynllun Datblygu sy’n cael ei gymedroli. Tîm y cwricwlwm sy’n cwblhau hyn er mwyn sicrhau ei fod yn gadarn ac yn cyflawni’r meini prawf C.A.M.P.U.S*. Bydd eich Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) yn eich cynorthwyo cyn y broses gymedroli.

*Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cymryd rhan ym mhroses achredu/ail-achredu Gwobr Datblygu Gyrfaoedd, ond nad ydym yn gwneud cynnydd boddhaol?

Bydd eich Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) yn cytuno ar amserlen gyffredinol er mwyn cwblhau’r gwaith ac amserlen ar gyfer pob elfen er enghraifft; yr archwilio, hunanarfarnu a'r cynllun datblygu. Cofiwch drafod â’ch Cydlynydd Gyrfaoedd a’r Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) cyn gynted â phosibl os bydd angen i chi ddiwygio’r amserlenni hyn. Fodd bynnag, os na fydd yr ysgol yn gwneud cynnydd boddhaol mae gennym hawl i’w thynnu o broses Gwobr Datblygu Gyrfaoedd gan na fydd yn bosibl dangos tystiolaeth o welliant parhaus.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn cyflawni’r holl bwyntiau datblygu y cytunwyd arnynt yn llawn o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt?

Dogfen ddeinamig yw’r cynllun datblygu a gwyddom na fydd popeth yn dilyn y drefn bob tro ac y bydd terfynau amser yn newid. Bydd eich Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) yn gweithio gyda chi ac yn cytuno ar newidiadau i’r terfynau amser yn unol â’ch anghenion.

Sut y caiff Gwobr Datblygu Gyrfaoedd ei ddyfarnu?

Gallwch dderbyn tystysgrif Gwobr Datblygu Gyrfaoedd wedi’i fframio mewn unrhyw ddull o’ch dewis er enghraifft mewn gwasanaeth ysgol, 1 i 1, mewn grŵp bach. Byddwn yn tynnu llun ac yn trydar neges i’ch llongyfarch ar y diwrnod. Mae croeso i chi ail drydar y neges. Byddwn hefyd yn anfon e-logo atoch i chi allu ei ddefnyddio ar eich gwefan.


Edrychwch ar y broses

Cam 1: Awdit a hunan arfarnu

Y cam cyntaf yw gwneud awdit gweithgareddau a phrofiadau rydych yn eu cynnig i'ch dysgwyr yn unol â datganiadau ystod gyrfaoedd a'r byd gwaith.

Y cam nesaf yw  i hunan arfarnu yn unol â 5 Maes Arolygu Estyn.

Bydd hunan arfarnu yn eich helpu i feddwl am bob agwedd ar eich darpariaeth Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith, drwy gasglu tystiolaeth am gryfderau a meysydd i'w datblygu.

Cam 2: Cynllunio datblygiad

Yr ail gam yw i greu cynllun datblygu.

Bydd eich archwiliad a hunan werthusiad yn eich cefnogi wrth nodi meysydd i'w datblygu yn eich darpariaeth Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith.

Bydd cynllun datblygu yn eich helpu i flaenoriaethu, cynllunio a gweithredu sut yr ewch ati i wneud gwelliannau.

Cam 3: Tystiolaeth o lwyddiant

Tra byddwch yn llunio eich cynllun datblygu Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith bydd angen i chi feddwl hefyd am sut byddwch yn gwerthuso effeith eich cynlluniau.

Rydych angen sefydlu sylfaen nawr fel eich bod modd mesur gwelliant yn ddiweddarach.

Meddyliwch, efallai mai cael adnodd neu weithgaredd newydd yn ei el fydd y cam cyntaf, ond sut byddwch yn cyfiawnhau bod eich myfyrwyr wedi gwella eu dysgu?

Mae rhai awgrymiadau yn cynnwys:

  • Holiaduron cyn ac ar ôl - Bydd hyn yn eich galluogi i asesu unrhyw welliannau yn nealltwriaeth y disgybl o bwnc penodol, er enghraifft dewisiadau 18+
  • Tynnu lluniau - Mae tynnu lluniau yn ffordd dda i ddangos i eraill yr hyn a ddigwyddodd ac yn ffordd o gadw cofnod o'r digwyddiadau rydych wedi'u trefnu
  • Cael adborth cyffredinol - Mae gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu ar nodiadau 'post-it' neu bapur siart ar ddiwedd sesiwn yn ffordd effeithiol i gael adborth cyflym a syml
Cam 4: Gweithredu

Nawr eich bod wedi archwilio, hunan arfarnu a chreu eich cynllun datblygu rydych yn barod i'w roi ar waith.

Mewn awyrgylch byd gwaith prysur mae'n hawdd colli golwg ar bethau weithiau ond mae cadw ar darged gyda'r cynllun datblygu yn sicrhau bod y darpariaeth Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith yn effeithiol ac yn gyfredol.

Mae achlysuron a gynllunnir fel cyfarfodydd rheolaidd yn eich helpu i fonitro cynnydd eich cynllun datblygu, a bydd amserlenni realistig yn y cynllun yn eich helpu i gadw'r datblygiad ar drac.

Cam 5: Adolygu

Bydd cynnydd angen cael ei adolygu bob tymor yn ystod cytundeb partneriaeth gyda Gyrfa Cymru.

Mae casglu tystiolaeth ac adolygu cynnydd yn gam allweddol tuag at gyflawni Gwobr Datblygu Gyrfaoedd. Cewch gasglu tystiolaeth am y cynnydd a wnaed a phenderfynu beth i'w wneud er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cam 6: Adrodd

Mae Gwobr Datblygu Gyrfaoedd yn cynnig achrediad ar gyfer eich proses datblygiad parhaus felly dywedwch wrth eraill am eich llwyddiannau.

Gwnewch yn siwr fod cydweithwyr, rhieni a llywodraethwyr yn gwybod am yr hyn yr ydych wedi'i gyflawni a sut rydych yn gwella Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith i'ch disgyblion.

Os ydych chi’n postio ar gyfryngau cymdeithasol eich coleg, cofiwch dagio Gyrfa Cymru er mwyn i ni rannu’r newyddion da.

Gallwch hefyd rannu:

  • Mewn cylchlythyr
  • Mewn nosweithiau rhieni
  • Mewn cyfarfodydd adran a staff
  • Gyda'ch llywodraethwyr

Mae gen i ddiddordeb - Beth nesaf?

Os ydych yn barod i gychwyn y broses achredu, ebostiwch eich Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) rhanbarthol a all eich cefnogi gyda dechrau ar y broses achredu.