Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Y Sioe Frenhinol

Llun o'r awyr o faes y Sioe Frenhinol

Y Sioe Frenhinol yw’r sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop. Mae’n dod â bwyd a diwydiant a’r gymuned wledig ynghyd mewn dathliad Cymreig o’r gorau o fyd amaeth ym Mhrydain.

Mae Gyrfa Cymru yn y Sioe Frenhinol

Rydym yn falch i fod yn ôl yn y Sioe Frenhinol eleni, o ddydd Llun 22 i ddydd Iau 25 Gorffennaf. Dewch i'n gweld ar stondin 380C.

Archwilio syniadau gyrfa

Mae'r diwydiannau ffermio, bwyd a diod yn chwarae rhan bwysig yn yr economi genedlaethol a byd-eang.

Amcangyfrifir bod 1 o bob 5 o weithwyr Cymru yn gweithio yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod; naill ai tyfu, gwneud, gwerthu neu weini cynhyrchion bwyd i ni (Ffynhonnell: Lightcast™, 2024).

Mae ystod eang o wahanol rolau swyddi o fewn y diwydiannau hyn, pob un yn gofyn am lefelau sgiliau gwahanol. Mae rhai o'r meysydd y gallech weithio ynddynt yn cynnwys:

  • Amaethyddiaeth
  • Cynhyrchu bwyd
  • Manwerthu bwyd
  • Pecynnu
  • Cludo a storio
  • Arlwyo a lletygarwch
  • Technoleg bwyd a datblygu
  • Marchnata
  • Gwyddoniaeth a pheirianneg
  • Cyllid

Mae diwydiannau ffermio, bwyd a diod yn wynebu heriau yn y dyfodol, fel:

  • Newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar sut mae rhai bwydydd yn cael eu tyfu
  • Yr angen i ddiogelu bwyd fel bod pobl yn cael mynediad at ddigon o fwyd sy'n ddiogel a maethlon i fyw bywyd iach
  • Cynnydd mewn bwyd ar draws y byd

Mae'r diwydiannau yma angen pobl sy'n fedrus, creadigol ac yn arloesol ac sy'n gallu meddwl yn wahanol i wynebu'r heriau hyn yn llwyddiannus.

Oeddet ti'n gwybod?

Yng Nghymru mae tua:

  • 19,000 o ffermwyr
  • 24,000 o staff cegin ac arlwyo
  • 9,300 o weithredwyr prosesau bwyd a diod

(Ffynhonnell: Lightcast™, 2024)

Mae amrywiaeth o wahanol yrfaoedd yn y sector i ddewis ohonynt. Edrychwch ar rai o'r swyddi y gallech fod yn eu gwneud:

Agroecolegydd
Ceidwad Stoc
Cynorthwyydd Fferm
Cynorthwy-ydd Gweini Bwyd
Ffermwr Trefol
Gwyddonydd Bwyd
Gwyddonydd Pridd
Peiriannydd Amaethyddol
Rheolydd Fferm
Technolegydd Bwyd
Ymgynghorydd Amaethyddol


Efallai i chi hefyd hoffi