Llwyddodd Alex sy’n 20 oed i oresgyn gorbryder er mwyn parhau â’i gynlluniau gyrfa.
“Cefais gyngor gan Gyrfa Cymru am y tro cyntaf pan oeddwn yn astudio TGAU yn ysgol Wyedean. Ar ôl sefyll fy arholiadau, roeddwn wedi bwriadu astudio cwrs arlwyo i fod yn gogydd, ond dechreuais deimlo’n eithaf pryderus am hyn oherwydd fy awtistiaeth a’r profiadau personol a gefais yn ystod y flwyddyn olaf yn yr ysgol.
“Awgrymodd fy athrawon y dylwn drefnu apwyntiad gyda Gyrfa Cymru er mwyn i mi allu siarad â chynghorydd gyrfa am fy nheimladau. Cefais fy nghyflwyno i Beth, a chawsom gyfarfodydd rheolaidd i sgwrsio am fy nghynlluniau i fynd i’r coleg a’m pryderon am aros mewn addysg bellach.
“Fodd bynnag, aeth popeth ar chwâl i ddechrau. Ar ôl i mi orffen y cwrs lefel 2 mewn arlwyo, penderfynais adael y coleg a gwrthod fy lle ar y cwrs lefel 3. Roeddwn yn cael trafferthion gyda fy nghyfoedion ac yn teimlo bod fy ngorbryder yn gwaethygu yn amgylchedd prysur y gegin.
"Ar ôl gadael, penderfynais ddychwelyd i Wyedean i wneud blwyddyn alwediaethol yn y chweched dosbarth er mwyn cael cymwysterau lefel 2 ychwanegol gan gynnwys TGAU mewn mathemateg. O ganlyniad i’r llwyddiant newydd hwn, roedd gennyf ddigon o gymwysterau i astudio am gymwysterau BTEC yn y chweched dosbarth.”
Cefnogaeth a roddodd hwb i’m hyder gan Gyrfa Cymru
“Pan oeddwn yn y flwyddyn gyntaf yn astudio BTEC roeddwn yn dal i boeni am fy nghynlluniau ar ôl gadael y chweched dosbarth. Cefais gyfarfod arall â Beth i gael cymorth a chyngor. Yn y cyfarfodydd fe wnaehom gydnabod fy mod yn gweithio’n galed ar y cwrs a bod fy mhrofiadau y tu allan i’r chweched dosbarth drwy wirfoddoli a gweithio’n rhan amser yn benodol yn fy helpu i fagu hyder.
“Fe wnaethom edrych ar y sgiliau yr oeddwn wedi’u datblygu tra’n astudio a sylweddoli fy mod wedi datblygu sgiliau eithriadol ar y cwrs TGCh a Busnes, gan gynnwys datblygu sgiliau ymchwil drwy wneud traethodau ar gyfer y gwaith cwrs Busnes, a sgiliau creadigol ar y cwrs TGCh drwy ddatblygu baneri a logos ar blatfformau megis Canva. Felly, cefais hwb gan Beth i wella’r sgiliau hyn a cheisio datblygu hyd yn oed ymhellach.
"Cefais gyfle hefyd i gael ffug gyfweliad gydag Admiral a fu’n hwb mawr i fy hyder mewn cyfweliadau am brentisiaeth.
“Yn ystod fy nghyfnod gyda Beth, cawsom sgwrs am fy mhrofiadau a’m gorbryder y tro cyntaf i mi ei chyfarfod a’r hyn ddigwyddodd yn ystod fy nghyfnod yn y coleg. Roedd hi’n deall fy mod yn unigolyn bach ofnus a oedd yn gadael i ofn reoli’r hyn yr oeddwn yn ei wneud. Fe wnaeth fy annog i ganolbwyntio ar fy nghryfderau yn y chweched dosbarth a thrwy hynny fy ngwneud yn fwy cymdeithasol.
Gyda chymorth Beth a’r chweched dosbarth, roedd modd i mi ragori yn y cyrsiau roeddwn yn eu hastudio a chael canlyniadau BTEC rhagorol, gan barhau i fagu hyder a datblygu fy sgiliau y tu allan i’r chweched dosbarth drwy wirfoddoli a gweithio’n rhan amser.
Fy ngobeithion ar gyfer y dyfodol
“Rwyf newydd ddechrau ar brentisiaeth marchnata digidol gyda Skills For Logistic.
Rwy’n parhau i deimlo’n bryderus pan fyddaf yn dechrau mewn lle newydd ac anghyfarwydd ond nid wyf am i fy mhrofiadau blaenorol effeithio arnaf. Fodd bynnag, mae fy nghyflogwr a’r staff i gyd wedi bod yn gefnogol iawn ac yn awyddus i fy helpu i gyflawni fy nodau.
“Ni allwn fod wedi cyflawni’r hyn rwyf wedi’i gyflawni heb Gyrfa Cymru a chynghorwyr fel Beth. Bu’r cymorth parhaus yn amhrisiadwy. Rwy’n sicr yn argymell Gyrfa Cymru. Gall cynghorwyr gyrfa fel Beth eich helpu gydag unrhyw bryderon a’ch helpu i fagu hunan-barch ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
“Rwy’n dal i boeni am y dyfodol yn fy mhrentisiaeth newydd, ond rwy’n hyderus i gymryd un dydd ar y tro a chyflawni pob tasg gydag agwedd bositif.”
Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad.
Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.