Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Charles Owen

Gweithwyr o gwmni Charles Owen yn derbyn eu gwobr gan y cyflwynydd Huw Stephens a Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru

Mae arweinwyr y cwmni yn annog staff ar bob lefel ac ym mhob maes i helpu gyda'r digwyddiadau.

Mae Charles Owen, gwneuthurwr helmedau marchogaeth blaenllaw, wedi cefnogi ysgolion yn Wrecsam. Lesley Lloyd, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, wnaeth roi Charles Owen mewn cysylltiad â'r ysgol leol, Ysgol y Grango am y tro cyntaf.

Gweithio gydag ysgolion

Mae staff o'r adrannau Adnoddau Dynol, marchnata, cyfrifon a'r llawr gwaith wedi cefnogi Ysgol y Grango gyda gweithgareddau gyrfa amrywiol, gan gynnwys:

  • Sgwrs brentisiaeth blwyddyn 10
  • Cyfweliadau cynnydd a mentora gyda disgyblion blwyddyn 9
  • Ffug gyfweliadau ar gyfer blwyddyn 11
  • Diwrnod gyrfaoedd a menter
  • Digwyddiad rhwydweithio cyflym cyflogwyr

Yn fwy diweddar, mae'r cwmni wedi ymrwymo i ddod yn Bartner Gwerthfawr Ysgol. Bydd hyn yn helpu i gryfhau'r bartneriaeth rhwng Charles Owen ac Ysgol y Grango.

Mae Charles Owen hefyd yn darparu cefnogaeth gyrfaoedd i ysgolion eraill yn Wrecsam. Maent wedi darparu ffug gyfweliadau blwyddyn 11 Ysgol Rhiwabon, Ysgol Clywedog ac Ysgol Maelor.

Newydd-ddyfodiad Gorau

Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i Charles Owen gan Gyrfa Cymru yn 2022. Dyfarnwyd gwobr y ‘Newydd-ddyfodiad Gorau’ iddynt. 

Dywedodd Anna Phillips, Pennaeth Adnoddau Dynol yn Charles Owen: “Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr. Roedden ni wir eisiau estyn allan i'n cymuned a helpu'r genhedlaeth iau.

“Fe wnaethon ni fwynhau gwneud y ffug gyfweliadau a'r sgyrsiau prentisiaeth yn fawr. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i gael pobl ifanc i mewn i'n ffatrïoedd fel y gallant gael mwy o fewnwelediad eu hunain.

Mae mwy o rolau mewn gweithgynhyrchu na rolau yn y ffatri yn unig ac mae’n braf i bobl ifanc weld yr holl gyfleoedd eraill sydd ar gael iddynt. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Gyrfa Cymru.”

Gwneud gwahaniaeth

Dywedodd Lesley: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Charles Owen a gweld pa mor gyflym maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion yn ardal Wrecsam.

“Mewn cyfnod byr, maen nhw eisoes wedi cefnogi nifer enfawr o bobl ifanc i ddysgu am yrfaoedd.”