Mae Future Valleys Construction wedi ymroddi i gyflwyno ei raglen i bobl ifanc ac wedi bod yn rhagweithiol wrth wneud hynny.
Mae'r cwmni wedi bod yn cefnogi disgyblion yn Ysgol Arbennig Greenfield ym Merthyr Tudful i ddysgu am yrfaoedd.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol iddynt dderbyn gwobr gan Gyrfa Cymru.
Gweithdai
Mae'r cwmni wedi darparu gweithdai pwrpasol i fyfyrwyr rhwng blwyddyn 9 a blwyddyn 13. Mae sesiynau wedi cynnwys y canlynol:
- Gweithgaredd adeiladu pontydd
- Sesiwn ffocws ar wahanol swyddi yn y diwydiant adeiladu
- Gwybodaeth am rolau iechyd a diogelwch
- Ymweliad â safle
Gweithio gyda'r ysgol
Mae Martin a'i dîm yn gweithio'n agos gyda'r ysgol i fynd i'r afael â gwahanol anghenion y disgyblion ac annog canlyniadau buddiol.
Dywedodd Heidi Purnell, cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru: “Mae Future Valleys wedi cynnal nifer o sesiynau difyr i helpu’r disgyblion i ddysgu mwy am y diwydiant adeiladu. Wrth symud ymlaen, mae Martin eisiau sicrhau bod pob sesiwn yn fwy llwyddiannus na’r un diwethaf.
Mae staff Greenfield a Future Valleys Construction yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod y gweithdai a gwerthuso’r allbynnau. Maent yn adolygu newidiadau posibl er mwyn datblygu'r deilliannau gorau posibl i fyfyrwyr."
Ennill Gwobr
Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i Future Valleys Construction gan Gyrfa Cymru ym mis Tachwedd 2022.
Derbyniodd Martin Gallimore a'i dîm y wobr am y Berthynas Barhaus Orau ag Ysgol.
Dywedodd Martin, sy’n Swyddog Canolfan Ymwelwyr a Budd Cymunedol: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr.
“Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion yn ein hardal leol. Rydyn ni’n gweithio gyda nhw i ddatblygu gweithgareddau pwrpasol i ddiwallu eu hanghenion.
“Rydyn ni’n gweithio i'w hysbrydoli a chefnogi’r cwricwlwm STEM. Mae’r holl ymgysylltu rydyn ni’n ei wneud wir i’w weld yn cael effaith ar y disgyblion rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Dyna sy'n ein cadw ni i fynd. Mae’n ein hysbrydoli i wneud mwy a mwy gyda nhw.”
Ychwanegodd Heidi: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda staff Future Valleys ac Ysgol Arbennig Greenfield. Mae hon yn bartneriaeth sy’n mynd o nerth i nerth.”