Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Gabrielle

Gabrielle

Cafodd Gabrielle ei hysbrydoli ar ôl i ddiagnosis prin atal ei chynlluniau gyrfa.

Diagnosis prin

Ers bod yn ifanc, roedd Gabrielle wedi rhoi ei phryd ar fod yn fiolegydd morol. Ond, yn ddim ond 15 oed, cafodd ddiagnosis o ddermatomyositis ieuenctid ac arthritis. Wrth siarad am ei diagnosis, dywedodd Gabrielle, sy’n byw yng Nghasnewydd: “Doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi.”

Addasu cynlluniau gyrfa

Y teimlad hwn a ysgogodd Gabrielle i weld cynghorydd gyrfa ei hysgol o Gyrfa Cymru, Dave Phillips. Buont yn edrych gyda'i gilydd ar opsiynau gyrfa posibl a fyddai'n addas i Gabrielle ac na fyddent yn peryglu ei hiechyd.

Cwblhaodd Gabrielle y Cwis Buzz ar wefan Gyrfa Cymru, gan archwilio ei diddordebau ac edrych ar ei phynciau TGAU. Roedd Dave yn gallu cefnogi Gabrielle i sylweddoli bod ffisiotherapi yn opsiwn iddi.

Dywedodd hi: “Ces i fy ysbrydoli ar ôl sylweddoli beth allai fy ffisiotherapydd ei wneud i fy helpu. Sylweddolais fy mod eisiau defnyddio fy mhrofiad i ddarparu'r un gefnogaeth i eraill.”

Y camau nesaf

Helpodd Dave Gabrielle i benderfynu pa raddau a phynciau yr oedd eu hangen arni. Cefnogodd hi i fynd i'r coleg i astudio'r gwyddorau cymhwysol. Ychydig ar ôl iddi ddechrau ei chwrs, cysylltodd Dave â Gabrielle i weld sut oedd hi'n dod ymlaen.

Dywedodd Gabrielle: “Pan gysylltodd Dave â fi, roedd yn braf iawn clywed ganddo. Ond dywedais wrtho nad oeddwn yn hapus gyda fy nghwrs, roeddwn yn gwybod nad dyna oedd y peth iawn i mi.

“Yna fe wnaethon ni edrych gyda’n gilydd ar opsiynau eraill a dyma pryd yr awgrymodd Dave Aspirations.”

Helpodd Dave Gabrielle i archwilio sut y gallai ennill cymwysterau, profiad gwaith, a’r sgiliau y byddai eu hangen arni drwy raglen Twf Swyddi Cymru +, a chyflwynodd hi i ddarparwr hyfforddiant lleol, Aspirations.

Ar ôl trafodaeth gychwynnol gyda chynrychiolydd Aspirations, sylweddolodd Gabrielle mai dyma'r llwybr gywir iddi.

Dywedodd hi: “Roedd clywed am sut roedd eraill yn wynebu rhwystrau tebyg i mi ond wedi cyflawni eu huchelgeisiau yn ddigon i fy annog i wneud cais.”

Dyfodol gobeithiol

Mae Gabrielle bellach wedi setlo'n hapus i'w chwrs gofal iechyd.

Wrth fyfyrio ar y gefnogaeth a gafodd, dywedodd Gabrielle: “Roedd Dave yno i mi. Fe helpodd fi i sylweddoli fy mod yn alluog. Dangosodd i mi beth fyddai fy nghamau nesaf ac roedd y gefnogaeth yn anhygoel.

“Byddwn i wedi bod yn ddi-glem hebddo a fyddwn i ddim lle rydw i nawr.”

Wrth roi cyngor i eraill mewn sefyllfa debyg, ychwanegodd: “Manteisiwch ar y cyfle i ofyn am gyngor a chefnogaeth os gallwch chi.

“Mae Gyrfa Cymru wedi fy nghefnogi i fod lle rydw i nawr. Gwnaethant i mi deimlo'n alluog a fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi. Rwy'n llawer mwy hyderus ynof fy hun.

“Unwaith bydd gennych chi'r ymdeimlad hwnnw, fyddwch chi byth yn edrych yn ôl.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.